Sut i wneud cais am raglen ymchwil Ôl-raddedig

Mae ein ffurflen gais ar-lein 'On-Track' yn hawdd i'w chwblhau

Drwy wneud cais ar-lein gallwch arbed eich ffurflen cynifer o weithiau ag sydd angen am hyd at 1 wythnos cyn i chi gyflwyno'r ffurflen a thracio cynnydd eich cais ar ôl ei gyflwyno. Mae saith adran i'r ffurflen sydd angen i chi eu cwblhau cyn y gallwch chi gyflwyno'ch cais i'r Brifysgol. I ddechrau'r cais, mae angen i chi gofrestru a chreu enw defnyddiwr a chyfrinair. I weld eich cais ar ôl ei gyflwyno a thracio'i gynnydd, mewngofnodwch i'ch cyfrif. Cadwch eich enw defnyddiwr (cyfeiriad ebost) a chyfrinair mewn lleoliad diogel.

E-bostiwch y tîm Derbyn Myfyrwyr os ydych yn cael problemau defnyddio'r system Gwneud Cais Ar-Lein On-Track.

Ni ddylai ymgeiswyr ddefnyddio 'OnTrack' oni bai eu bod yn gwneud cais fel ymgeisydd a ariennir yn annibynnol neu a ariennir yn allanol.

Ceir manylion am Raglenni Ymchwil Prifysgol Abertawe a ariennir a'r broses gwneud cais pwrpasol yma: https://www.swansea.ac.uk/cy/ol-raddedig/ysgoloriaethau/ysgoloriaethau-ymchwil-/ 

Dylai ymgeiswyr a ariennir yn annibynnol neu a ariennir yn allanol uwchlwytho eich cynnig ymchwil neu grynodeb ymchwil fel y bo'n briodol gan amlinellu eich pwnc ymchwil arfaethedig ac enw (au) y goruchwyliwr/goruchwylwyr arfaethedig. Sylwch y bydd eich cais yn llawer mwy tebygol o lwyddo os ydych chi wedi trafod eich pwnc ymchwil arfaethedig gyda goruchwyliwr arfaethedig cyn cyflwyno'ch cais. Gall y ddolen isod eich tywys trwy sut i lunio eich cynnig / crynodeb a sut i chwilio am oruchwyliwr / wyr

Er mwyn osgoi oedi wrth brosesu eich cais, cyflwynwch y dogfennau ategol (perthnasol) canlynol gyda'ch ffurflen gais:

1) Copïau o'r holl ddogfennaeth academaidd gan gynnwys trawsgrifiadau a thystysgrifau (gan gynnwys cymwysterau Iaith Saesneg ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol). Os ydych yn aros am eich cymhwyster, llwythwch gopi o'ch trawsgrifiad hyd yn hyn neu printiwch y sgrîn o'ch cyfrif mewnrwyd Prifysgol gan restru'r pynciau a'r graddau a gafwyd hyd yma.

2) Os ydynt ar gael, cyfeiriadau agored/llythyrau cefnogi. Fel arall, rhowch fanylion eich canolwyr enwebedig gan gynnwys cyfeiriadau e-bost llawn a chywir fel y gall y Swyddfa Derbyniadau gysylltu â nhw yn uniongyrchol.

3) Copi o'ch curriculum vitae os yw'n berthnasol i'ch cais. Mae hyn yn orfodol os ydych yn gwneud cais am radd meistr a addysgir fel ymgeisydd heb radd.

4) Datganiad personol. Rhaid i ymgeiswyr sy'n gwneud cais am raglen meistr ôl-raddedig a addysgir gwblhau datganiad personol hefyd (uchafswm o 1 dudalen A4). Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi ddweud rhywbeth amdanoch chi'ch hun a pham rydych chi eisiau astudio yn Abertawe a pham mae'r rhaglen benodol hon o ddiddordeb i chi. Bydd hyn yn ein helpu i benderfynu a fyddwch chi'n addas ar gyfer cwrs ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe.

Gwybodaeth Bwysig

Mae'r system ymgeisio ar-lein 'On-Track' ar agor i'r holl gyrsiau rhyngwladol ac ôl-raddedig.*
*Peidiwch â defnyddio 'On-Track' i wneud cais am raglen a restrir o dan ein "Prosesau Cais Ansafonol"

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng gradd a addysgir a gradd ymchwil?

  • Mae gradd ôl-raddedig a addysgir yn rhaglen astudio strwythuredig sy'n cynnwys nifer o fodiwlau mewn pynciau arbenigol a all baratoi myfyrwyr at yrfa broffesiynol benodol.
  • Dylunnir rhaglenni a addysgir i ddatblygu gwybodaeth mewn pynciau arbenigol a astudiwyd yn fwy cyffredinol eisoes.
  • Mae rhai cyrsiau Meistr yn 'gyrsiau trosi', sy'n caniatáu i fyfyrwyr newid neu ddatblygu eu maes arbenigedd o'r hyn a wnaed ar lefel israddedig.
  • Yn aml, bydd rhaglen a addysgir yn golygu mynychu darlithoedd a seminarau, neu, o bosibl, gweithio yn y labordy os yw'n gwrs gwyddonol.
  • Fel arfer, seilir yr asesu ar arholiadau ac aseiniadau ysgrifenedig ar ddiwedd pob modiwl. Yn aml, er mwyn ennill gradd Meistr, disgwylir i fyfyrwyr gwblhau traethawd hir.
  • Fel arfer, bydd cwrs gradd a addysgir yn para am flwyddyn ar sail llawn amser, neu am 3 blynedd ar sail rhan amser. 
  • Mae gradd ymchwil yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymchwilio maes neu bwnc penodol yn ddwys.
  • Mae gradd ymchwil yn canolbwyntio mwy ar astudio unigol. 
  • Mae elfen a addysgir mewn rhai graddau ymchwil, yn enwedig y Radd Meistr Trwy Ymchwil (gan gynnwys EngD).  
  • Caiff myfyrwyr ymchwil gyfarwyddyd a chymorth oddi wrth eu goruchwyliwr, yn ogystal â'r cyfleusterau i wneud eu hymchwil. Dylai eu hymchwil arwain at ddarn unigryw o waith sy'n cynnwys gwybodaeth newydd yn y maes a ddewiswyd ganddynt.
  • Seilir yr asesu ar draethawd hir terfynol y myfyriwr ac arholiad llafar (viva-voce).
  • Mae hyd gradd ymchwil yn amrywio. Fel arfer, mae'r radd MRes a'r radd Meistr trwy Ymchwil yn para am flwyddyn ar sail llawn amser neu 2 flynedd ar sail rhan amser. Mae'n cymryd o leiaf 3 blynedd (llawn amser) neu 6 blynedd (rhan amser) i wneud PhD.

Sut allaf i gael gwybodaeth am ddiddordebau ymchwil staff academaidd Abertawe?

  • Cewch ddefnyddio'n Cyfeirlyfr Arbenigedd i chwilio am academyddion sy'n gweithio yn eich maes. Cewch chwilio ar sail gair allweddol generig neu faes pwnc - gan bori trwy broffiliau academaidd i ddod o hyd i'r aelod o staff sydd fwyaf tebyg o fod â diddordeb yn eich syniad.  Wedyn, cewch gysylltu ag e neu hi yn uniongyrchol.