Digwyddiad Arddangos Myfyrwyr Ôl-raddedig (sesiwn holi ac ateb)
Dydd Sadwrn 14 Hydref 2023 - 10:30-11:15 (BST)
Mae hwn yn ddigwyddiad rhithwir.
Beth gall gradd ôl-raddedig ei wneud i chi? Gofynnwch i'n myfyrwyr presennol a'n graddedigion diweddar i gael gwybod sut mae eu graddau ôl-raddedig wedi eu helpu nhw yn eu haddysg bellach a'u gyrfaoedd. Mae'r sesiwn hon yn para am 45 munud gan ddechrau am 10.30am (BST).
Sylwer, ni fydd neb o’r adrannau academaidd yn bresennol yn y digwyddiad hwn.
*Oherwydd nifer cyfyngedig y lleoedd yn y digwyddiad hwn, argymhellwn eich bod chi'n cadw eich lle cyn gynted â phosib.