Trosolwg o'r Cwrs
Oes diddordeb gyda chi mewn gyrfa ym maes twristiaeth a fydd yn rhoi'r cyfle i chi greu dyfodol mwy cynaliadwy i bawb?
Os hoffech chi ddatblygu gwybodaeth a sgiliau uwch er mwyn gwneud penderfyniadau a fydd yn dylanwadu ar ddyfodol y diwydiant twristaidd yn lleol ac yn rhyngwladol, bydd ein MSc mewn Rheoli Twristiaeth Ryngwladol yn ddelfrydol i chi.
Mae'r sector teithio a thwristiaeth yn parhau i dyfu'n gyflymach na'r economi'n gyffredinol. Yn ogystal â'r buddion ariannol mae'n eu cynnig, gall twristiaeth hefyd gyfrannu at welliannau amgylcheddol ac ansawdd gwell o fywyd. Ar yr un pryd, mae twristiaeth yn gynyddol gysylltiedig ag amrywiaeth o heriau economaidd, cymdeithasol-ddiwydiannol ac amgylcheddol.
Mae MSc mewn Rheoli Twristiaeth Ryngwladol Prifysgol Abertawe wedi'i seilio ar egwyddorion sylfaenol Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig, a bydd yn eich arfogi â'r sgiliau a'r ddealltwriaeth y mae eu hangen i werthuso dyfodol y diwydiant twristaidd yn feirniadol, boed yn y DU neu dramor. Wrth gyfuno cysyniadau o feysydd busnes, rheolaeth a'r gwyddorau cymdeithasol, a chan dynnu ar enghreifftiau o bedwar ban byd, byddwch yn gadael gyda pharatoad cadarn ar gyfer ffurfiau mwy cyfrifol o dwristiaeth ar lefelau lleol, cenedlaethol a byd-eang.
Byddwch hefyd yn cael profiad o gyrchfannau lleol a thramor drwy amrywiaeth o deithiau maes, wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddeall cymhlethdodau a gofynion rheoli cyrchfan neu fenter twristiaeth. Am ragor o wybodaeth am y teithiau maes hyn a'r costau sy'n gysylltiedig â nhw, gweler yr ehangwyr 'Taith Maes' a 'Costau Ychwanegol' isod.
Oherwydd y sefyllfa barhaus gyda’r Coronafeirws, gall teithiau maes, gan gynnwys teithiau maes rhyngwladol, newid. Byddwn yn hysbysu’r holl fyfyrwyr am newidiadau a wneir i faes llafur y rhaglen.