Trosolwg o'r Cwrs
Ydych chi eisiau dod yn Rheolwr Adnoddau Dynol dylanwadol y dyfodol, gan osod lles eich gweithlu wrth wraidd yr hyn dy’ch chi'n ei wneud?
Bydd y rhaglen arbenigol hon yn rhoi mantais gystadleuol i chi wrth fentro i fyd rheoli pobl. Byddwch yn ennill gwybodaeth a sgiliau amhrisiadwy i weithio ar draws sefydliadau o bob maint a sector. Byddwch yn dod yn weithiwr 'pobl' proffesiynol sy'n gallu rheoli a datblygu gweithlu yn llwyddiannus, gan hefyd gefnogi strategaeth eich sefydliad ar gyfer llwyddiant.
Wrth osod datblygiad a lles gweithwyr wrth wraidd y rhaglen, mae ein graddedigion yn sicrhau cynaliadwyedd y sefydliad trwy reoli pobl yn ofalus. Mae'r rhaglen hon wedi'i hanelu at raddedigion, yn ogystal â'r rheini sydd eisoes yn ymarfer Rheoli Adnoddau Dynol sy'n dymuno cael cymhwyster ôl-raddedig arbenigol.
Gall y cyrchfannau cyflogaeth i unigolion sy'n cwblhau'r rhaglen hon gynnwys Cyfarwyddwr y Gweithlu, Prif Reolwr Pobl, Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant a Rheolwr Adnoddau Dynol.