Caiff yr LPC ei addysgu mewn dau gam penodol. Pynciau craidd (Cam 1) a'r pynciau dewisol (Cam 2).
Cam 1 – Pynciau Craidd
- Cyfraith ac Ymarfer Busnes
- Cyfraith ac Ymarfer Eiddo
- Ymgyfreitha (Troseddol a Sifil)
- Ewyllysiau a Gweinyddu Ystadau
Yn ogystal, cynigir sesiynau annibynnol i fyfyrwyr ym maes Ymddygiad Proffesiynol a Rheoleiddio, Cyfrifon Cyfreithwyr a Threthiant.
Caiff y pynciau hyn hefyd eu haddysgu fel rhan o'r modiwlau eraill.
Cam 2 – Pynciau Dewisol
Gall myfyrwyr ddewis 3 o blith y canlynol:
- Lesau Busnes
- Cyfraith ac Ymarfer Teulu
- Cyfraith Cyflogaeth
- Anafiadau Personol ac Esgeulustod Clinigol
- Cyfraith Fasnachol Uwch
- Cyfraith Trosedd Uwch
- Datrys Anghydfodau Masnachol
Dylid nodi efallai na fydd pob modiwl dewisol a restrir ar gael bob blwyddyn a bod y dewis yn dibynnu, ymhlith pethau eraill, ar b'un a fydd o leiaf 6 myfyriwr wedi dewis astudio'r modiwl.
Asesiadau
Cynhelir asesiadau drwy gyfrwng arholiadau ysgrifenedig, asesiadau ysgrifenedig ac asesiadau sgiliau byw (eiriolaeth a chyfweld).
Cynhelir y rhan fwyaf o'r arholiadau ysgrifenedig ar ddiwedd Cam 1 a Cham 2 o'r cwrs, ynghyd ag asesiad Sgiliau. Fel arfer, mae'r arholiadau ysgrifenedig ar ffurf 'llyfr agored' a chaniateir i fyfyrwyr fynd â llyfrau a deunyddiau a ganiateir gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr i mewn i'r arholiad gyda nhw.