Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r radd LLM yn y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol yn cyfuno gwybodaeth graidd a'r gallu i roi'r gyfraith ar waith yn ymarferol er mwyn paratoi graddedigion heb radd yn y gyfraith i gymhwyso i fod yn gyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr. Bydd y cwrs yn eich paratoi ar gyfer asesiadau cam 1 yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE1), sef cam hanfodol cyntaf eich llwybr i gymhwyso fel cyfreithiwr.
Mae'n cynnig y cyfle i chi ennill gradd meistr, meithrin gwybodaeth a sgiliau cyfreithiol, a pharatoi ar gyfer bywyd o ymarfer cyfreithiol.
Dyma raglen ddwys a ddarperir dros 18 mis, gan gwmpasu sylfeini'r gyfraith, meysydd ymarfer craidd a'r sgiliau sy'n ofynnol ar gyfer asesiad SQE1 fel rhan o gymhwyster a gaiff ei gydnabod a'i werthfawrogi gan ddarpar gyflogwyr. Cewch gyfle hefyd i ymgymryd â dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd sy'n ddilys i'r proffesiwn cyfreithiol.
Bydd y rhaglen hon yn eich paratoi'n gynhwysfawr ar gyfer asesiadau SQE1, ynghyd â rhoi sylfaen gadarn ar gyfer eich gyrfa fel cyfreithiwr.