Sgip i brif cynnwys
Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
  1. Hafan
  2. Ôl-raddedig
  3. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
  4. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir iechyd a gofal cymdeithasol
  5. Nyrsio (Iechyd Meddwl), MSc
  • Astudio
    • Astudio
      Students studying in Singleton Park campus library

      Dechreuwch eich taith yma

      Astudiwch gyda ni
    • Israddedig
      • Cyrsiau
      • Llety
      • Clirio yn Abertawe
      • Canllaw Rhieni a Gwarcheidwaid i'r Brifysgol
      • Diwrnodau Agored
      • Sut i wneud cais
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Prosbectws Israddedig
      • Cofrestrwch am Diweddariadau Ebost
    • Ôl-raddedig
      • Cyrsiau
      • Rhaglenni Ymchwil
      • Diwrnod Agored
      • Sut i Wneud Cais
      • Llwybr carlam i fyfyrwyr presennol
      • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
      • Y Brifysgol
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Cofrestrwch am Diweddariadau Ebost
    • Bywyd Myfyriwr
      • Astudio
      • Pam Abertawe
      • Storïau Myfyrwyr
      • Bywyd y campws
      • Chwaraeon
      • Cynaliadwyedd - Cymrwch Ran
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
      • Taith Rhithwir
      • Beth yw Gŵyl y Glas?
    • Gwasanaethau i Fyfyrwyr
      • Llyfrgelloedd ac Archifau
      • BywydCampws
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe
      • Menter Myfyrwyr
      • Canolfan Llwyddiant Academaidd
      • Academi Hywel Teifi
      • Llesiant myfyrwyr
  • Rhyngwladol
  • Ein Ymchwil
    • Gwnewch Ymchwil Gyda Ni
      • Cefnogi eich taith ymchwil ôl-raddedig
      • Dod o hyd i raglen ymchwil ol-raddedig
      • Sut i wneud cais am raglen ymchwil Ôl-raddedig
      • Hyfforddiant a Datblygiad i Oruchwylwyr a Myfyrwyr Ymchwil
    • Archwiliwch ein hymchwil
      • Uchafbwyntiau Ymchwil
      • Ymchwil yn y cyfadrannau
      • Momentum - ein cylchgrawn ymchwil
      • Podlediad Archwilio Problemau Byd-eang
    • Darganfyddwch ein hymchwil
      • Cyfeiriadur Arbenigedd
      • Dod o hyd i bapur ymchwil
      • Manteisio ar ein Harbenigedd ym maes Ymchwil a Datblygu
    • Ein Hamgylchedd Ymchwil
      • Uniondeb Ymchwil: Moeseg a Llywodraethu
      • Effaith ymchwil
      • Hyfforddiant a datblygiad
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
    • Ein Cenhadaeth Ddinesig
      • Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe
      • Gŵyl Bod yn Ddynol
      • Oriel Science
      • Byd Copr Cymru
  • Busnes
    • Cydweithredwch â ni
      • Datblygu eich prosiectau
      • Manteisio ar wybodaeth ein hymgynghorwyr
      • Cyfleoedd Cyllid YDA
    • Recriwtio ein Doniau
      • Recriwtio ein Myfyrwyr a'n Graddedigion
      • Cwrdd â’n myfyrwyr
      • Hysbysebu eich swyddi gwag
    • Datblygu eich Gweithlu
      • Gweld ein cyrsiau
    • Defnyddio ein Gwasanaethau Masnachol
      • Gofyn am gymorth gyda phrosiect
      • Hysbysebu eich sefydliad
      • Dod yn gyflenwr
    • Llogi ein Cyfleusterau
      • Cael mynediad at ein cyfleusterau ymchwil
      • Cynnal digwyddiad
    • Gweithio gyda ni
      • Ymuno â’n rhwydwaith cydweithredol
      • Cysylltu â’n tîm ymgysylltu â busnesau
      • Cadw mewn cysylltiad
  • Cyn-fyfyrwyr
  • Y Brifysgol
    • Swyddfa'r Wasg
      Female student working with steel

      Newyddion a Ymchwil Diweddaraf straeon

      Darllenwch y newyddion diweddaraf yma
    • Y Brifysgol
      • Amdanom ni
      • Sut i ddod o hyd i ni
      • Dyfarniadau a Safleoedd y Brifysgol
      • Ein Cyfadrannau
      • Swyddfa'r Wasg
      • Swyddi a Gweithio yn Abertawe
      • Cynaliadwyedd
      • Teithio i’r campws ac oddi yno
      • Cysylltu â ni
    • Chwaraeon
      • Bod yn Actif
      • Cynghreiriau Cymdeithasol
      • Clybiau Chwaraeon
      • Perfformiad
      • Cyfleusterau
      • Nawdd
      • Newyddion
    • Bywyd y campws
      • Llety
      • Arlwyo
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Y Neuadd Fawr
      • Taliesin
      • Creu Taliesin
      • Ein Tiroedd
      • Cerddoriaeth
      • Rhithdaith
    • Ein Cyfadrannau
      • Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
      • Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
      • Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
      • Y Coleg
    • Academïau
      • Academi Iechyd a Llesiant
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA)
      • Academi Hywel Teifi
  • Newyddion a Digwyddiadau
  • Cefnogaeth a Lles
  1. Hafan
  2. Ôl-raddedig
  3. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
  4. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir iechyd a gofal cymdeithasol
  5. Nyrsio (Iechyd Meddwl), MSc

Nyrsio (Iechyd Meddwl), MSc

Ymgeisio

O ble ydych chi'n gwneud cais?

Dewiswch Llawn Amser neu Ran Amser.

Dewiswch y math o gwrs

Dewiswch y dyddiad dechrau.

  • Medi 2025

    Gwnewch Gais Nawr

Dewiswch Llawn Amser neu Ran Amser.

Dewiswch y math o gwrs

Dewiswch y dyddiad dechrau.

Cadwch Mewn Cysylltiad

Manylion Allweddol y Cwrs

MSc 2 Flynedd Llawn Amser
Dull Astudio
Dysgu Cyfunol
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
UK 2:2
Lleoliad
Campws Parc Singleton
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2025 GIG

Mae Nyrsio ym Mhrifysgol Abertawe ymysg y 200 gorau yn y byd

QS World University Rankings by Subject 2024

nursing pre reg
  • Trosolwg
  • Rhagor
    • Related Pages
    • Back
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a ddysgir yn dod yn fuan
    • Diwrnodau Agored
    • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
    • Ffioedd ac Ariannu
    • Cyrsiau Trosi
    • Sut i Wneud Cais
    • Rhaglenni Ymchwil
    • Llety
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Peirianneg Awyrofod,Sifil, Drydanol a Mecanyddol
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Biowyddorau, Daearyddiaeth
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cymhwysol
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir iechyd a gofal cymdeithasol
      • Nyrsio Gofal Critigol ar gyfer Oedolion
      • Addysg ar gyfer y Proffesiynau Iechyd, MA/PGDip/PGCert
      • Astudiaethau Iechyd Cymunedol Cymhwyster Ymarfer Arbenigol mewn Nyrsio Ardal, PGdip
      • Gwaith Cymdeithasol, MSc
      • Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy, PGCert
      • Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd, MSc / PGDip
      • MSc Gerontoleg ac Astudiaethau Heneiddio
      • Nyrsio Iechyd Meddwl, MSc
      • Nyrsio Oedolion, MSc
      • Rhagnodi Anfeddygol i Fferyllwyr, PGTyst
      • Rhagnodi Anfeddygol i Nyrsys a Bydwragedd, PGCert
      • Rhagnodi Anfeddygol i Weithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, PGTyst
      • Rheoli Gofal Iechyd, MSc
      • Ymarfer Bydwreigiaeth Proffesiynol Uwch, MSc / PGDip / PGCert
      • Ymarfer Gofal Iechyd Cymunedol a Sylfaenol, MSc / PGDip / PGCert
      • Ymarfer Gofal Iechyd, MSc
      • Ymarfer Nyrsio, MSc
      • Ymarfer Proffesiynol Uwch, MSc / PGDip / PGCert
      • Ymarfer Uwch mewn Gofal Iechyd, MSc / PGDip
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Reolaeth
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Fathemateg a Chyfrifiadureg
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Feddygaeth
    • Cyrsiau Ôlraddedig Ysgol Seicoleg
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
    • Llwybr carlam i fyfyrwyr presennol

Trosolwg o'r Cwrs

Os yr ydych wedi graddio ac yn gweithio mewn lleoliad gofal iechyd ac yn ystyried mynd â'ch gyrfa i'r lefel nesaf, mae ein MSc mewn Nyrsio Iechyd Meddwl ar eich cyfer chi.

Wedi'i gynllunio ar gyfer ymarferwyr gofal iechyd nad ydynt wedi'u cofrestru, bydd y cwrs gradd Meistr dwy flynedd hwn yn rhoi'r sgiliau a'r profiad i chi i lansio gyrfa werth chweil yn y proffesiwn hanfodol hwn.

Bydd ein MSc mewn Nyrsio Iechyd Meddwl yn rhoi'r wybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol sydd ei hangen arnoch i ddarparu gofal nyrsio tosturiol o ansawdd uchel i bobl sy'n delio â salwch meddwl, yn ogystal â darparu cefnogaeth i'w teuluoedd.

PAM NYRSIO IECHYD MEDDWL YM MHRIFYSGOL ABERTAWE

Mae gennym enw rhagorol am Nyrsio yn Abertawe ac rydym ymysg y 200 gorau yn y byd am Nyrsio (QS World University Rankings by Subject 2024).

Mae ein staff academaidd yn nyrsys, meddygon a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd cymwys, llawer ohonynt hefyd yn glinigwyr gweithredol, gan ddarparu cyfuniad eithriadol o drylwyredd damcaniaethol, mewnwelediad proffesiynol ac arbenigedd ymarferol.

Mae gennym gysylltiadau cryf iawn â byrddau iechyd Cymru, gan agor cyfleoedd lleoliadau clinigol i chi mewn amrywiaeth o leoliadau mewn lleoliadau trefol a gwledig.

Os medrwch ymrwymo i weithio yng Nghymru am 18 mis wedi graddio, gallech gael eich ffioedd dysgu yn llawn drwy Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.

Eich Profiad Nyrsio (Iechyd Meddwl)

Mae ein cyfleusterau rhagorol yn yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnwys ystafell glinigol realistig fel y gallwch roi eich gwybodaeth ddamcaniaethol ar waith mewn amgylchedd sy'n adlewyrchu mor agos â phosibl yr union amodau y byddwch yn eu profi wrth fynd ar leoliad mewn ysbyty neu lleoliad cymunedol.

Byddwch yn treulio 40 wythnos o'ch cwrs ar leoliad, gan ennill profiad mewn ystod amrywiol o leoliadau nyrsio, gan gynnwys ysbytai a'r gymuned.

Gallwch hefyd astudio rhan o'ch gradd Meistr nyrsio trwy gyfrwng y Gymraeg ac efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer ysgoloriaethau mewnol neu gymorth ariannol drwy'r Coleg Cymraeg.

Cyfleoedd Cyflogaeth Nyrsio (Iechyd Meddwl)

Ar ôl graddio, gallwch wneud cais am statws Nyrs Gofrestredig (Iechyd Meddwl) gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a chofrestru fel nyrs i weithio yn yr UE a'r AEA.

Wrth i'ch gyrfa ddatblygu gallech ddewis arbenigo mewn meysydd fel gofal i'r henoed, ymyrryd mewn argyfwng neu gamddefnyddio sylweddau. Gallech hefyd gymryd rhan mewn rolau ym meysydd addysg, ymchwil neu reoli.

Gallwch ddisgwyl cael cyflog cychwynnol o £28,407 sy'n codi i £57,349 i staff-nyrs brofiadol iawn. Gall nyrsys arbenigol a rheolwyr practis ennill £50,056.

Modiwlau

Cwrs strwythuredig tynn yw hwn, sy'n cynnwys dau fodiwl gorfodol ym mhob blwyddyn ynghyd â thraethawd hir yn eich ail flwyddyn.

Modiwlau

Blwyddyn 1 (Lefel 7T)

FHEQ 7 Taught Masters / PGDip / PGCert
Modiwlau Gorfodol
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y Modiwl
Dissertation (Mental Health)Academic Year60SHND12
The essentials of nursing (Mental health)Academic Year30SHNM40
Promoting Health and Preventing Illness (Mental Health)Academic Year30SHNM41
Evidence-based practice and delivering effective patient care (Mental Health)Academic Year30SHNM42

Blwyddyn 2 (Lefel 7D)

FHEQ 7 Taught Masters Dissertation

Heb ddod o hyd i un

FHEQ 7 Taught Masters / PGDip / PGCert
Modiwlau Gorfodol
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y Modiwl
Dissertation (Mental Health)Academic Year60SHND12
Acute and Unscheduled Nursing Care (Mental Health)Academic Year30SHNM43
Care of the Person with Complex Mental Health Needs (Mental Health)Academic Year30SHNM44
Leadership, Management and Decision Making in Service Evaluation and Improvement (Mental Health)Academic Year30SHNM45
Practice and theory hours requirementAcademic Year0SHNM51

Gofynion Mynediad

Mae'r cwrs MSc hwn yn rhag-gofrestru yn unig. Nid yw'n addas ar gyfer nyrsys cofrestredig.

Mae'r rhaglen hon yn agored i raddedigion sydd â gradd anrhydedd 2: 2 neu'n uwch a gradd TGAU gradd C neu'n uwch mewn Mathemateg a Saesneg / Cymraeg.

Bydd gofyn i chi arddangos 700 awr o ymarfer clinigol perthnasol, gan weithio mewn amgylcheddau sy'n gysylltiedig ag iechyd, fel cartrefi gofal, ysbytai, cymuned neu ofal cartref.

Rhaid bod yr oriau clinigol hyn wedi'u cyflawni dros y 2 flynedd ddiwethaf a bydd angen iddynt gael eu gwirio gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig. Bydd gofyn i chi hefyd ddangos 450 o oriau theori a bydd y rhain yn cael eu hasesu trwy stocrestr dilysu a phortffolio.

Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf bydd angen sgôr IELTS o 7.0 arnoch chi.

Mae unrhyw gynnig a wneir yn amodol, yn amodol ar:

  • Tystiolaeth o astudiaeth ddiweddar (o fewn y pum mlynedd diwethaf)
  • Cyfeiriadau academaidd a chymeriad boddhaol
  • Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), neu gyfwerth cymeradwy.
  • Cliriad Iechyd Galwedigaethol

Ddim yn meddu ar y cymwysterau ofynnol?

Os yw’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi ond nid ydych chi’n meddu ar y cymwysterau mynediad gofynnol, gellir ystyried ein rhaglen radd Nyrsio Iechyd Meddwl, BSc. 

Sut byddwch chi'n cael eich dysgu

Rydym yn falch o ddarparu profiad addysgol rhagorol, gan ddefnyddio'r dulliau dysgu ac addysgu mwyaf effeithiol, wedi'u teilwra'n ofalus i anghenion penodol eich cwrs. Ar wahân i nifer fach o gyrsiau ar-lein, mae'r rhan fwyaf o'n cyrsiau'n cynnwys addysgu wyneb yn wyneb ar y campws, gan alluogi ymgysylltiad llawn â'ch darlithwyr a'ch cyd-fyfyrwyr.

Mae sesiynau sgiliau ymarferol, seminarau gwaith labordy, a gweithdai yn bennaf yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb ar y campws, gan ganiatáu gweithio mewn grŵp ac arddangosiadau. Rydym hefyd yn gweithredu labordai rhithwir ac Amgylcheddau Dysgu Efelychol a fydd yn hwyluso mwy o fynediad at gyfleoedd hyfforddi yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae ein dulliau addysgu hefyd yn cynnwys defnyddio rhywfaint o ddysgu ar-lein i gefnogi a gwella addysgu wyneb yn wyneb traddodiadol.

Gall dysgu ar-lein ddigwydd ‘yn fyw’ gan ddefnyddio meddalwedd fel Zoom, sy'n eich galluogi i ryngweithio â'r darlithydd a myfyrwyr eraill ac i ofyn cwestiynau. Mae recordiadau darlithoedd hefyd yn caniatáu mwy o hyblygrwydd i ailedrych ar ddeunydd, i adolygu at asesiadau ac i wella dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Mae gan rai modiwlau adnoddau ychwanegol ar Canvas, megis fideos, sleidiau a chwisiau sy'n galluogi astudiaeth hyblyg bellach.

Nid yw'r cwrs hwn yn dilyn cyfnodau tymor arferol y Brifysgol. Mae'r flwyddyn academaidd yn dechrau yn gynnar ym mis Medi ac yn gorffen yn hwyr yn y mis Awst dilynol.

Bydd 50% o'r addysgu yn digwydd mewn lleoliadau gofal iechyd, a bydd y 50% arall yn cael ei addysgu yn y brifysgol.

Bydd amrywiaeth o ddulliau addysgu yn cael eu mabwysiadu er mwyn darparu amgylchedd dysgu ysgol. Bydd y rhain yn cynnwys; darlithoedd, darllen dan arweiniad, seminarau, grwpiau trafod, senarios, dysgu o bell, sesiynau ymarferol, ymarfer ffug a Dysgu Seiliedig ar Ymholiadau.

Bydd asesiadau yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau creadigol, meddwl beirniadol a gwneud penderfyniadau. Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i ddelio â sefyllfaoedd go iawn ar ffurf Arholiadau Clinigol Strwythuredig Amcan (OSCE), cyflwyniadau poster a hyd yn oed ysgrifennu erthygl mewn cyfnodolyn sy'n barod i'w chyhoeddi.

Darpariaeth Gymraeg

O leiaf 40 credyd

Mae'n bosib astudio o leiaf 40 credyd o'r cwrs ôl-raddedig hwn drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae nifer o adrannau'r Brifysgol yn datblygu ac yn cynnig modiwlau cyfrwng Cymraeg neu fodiwlau dwyieithog fel rhan o'u cyrsiau felly bydd angen i ti drafod y posibiliadau gyda'r Cyfarwyddwr Rhaglen perthnasol. Gelli astudio modiwl/modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg lle bo'r cyfle neu gyflwyno dy draethawd estynedig yn y Gymraeg gydag arweiniad gan arbenigwr pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Academi Hywel Teifi yma i'th gefnogi trwy gydol dy amser ym Mhrifysgol Abertawe. Rydym yn cynnig:

  • Mynediad at ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gyfer astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Mynediad at fodiwlau a addysgir yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn Gymraeg.
  • Mynediad at ap Arwain er mwyn derbyn y diweddaraf am ein cyrsiau a'n modiwlau cyfrwng Cymraeg. Gelli di lawrlwytho'r ap am ddim drwy'r App Store a Google Play.
  • Cyfweliad trwy gyfrwng y Gymraeg wrth wneud cais am le.
  • Gohebiaeth bersonol yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog.
  • Yr opsiwn i lunio a chyflwyno gwaith cwrs neu sefyll arholiadau trwy gyfrwng y Gymraeg (hyd yn oed os wyt ti wedi dewis astudio yn Saesneg), a bydd dy waith yn cael ei asesu yn Gymraeg.
  • Tiwtor Personol Cymraeg ei iaith.
  • Cefnogaeth un i un i wella dy sgiliau Cymraeg academaidd.
  • Cyfle i ennill cymhwyster ychwanegol sy'n dystiolaeth o dy allu Cymraeg i gyflogwyr y dyfodol.
  • Aelodaeth o Gangen Prifysgol Abertawe o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Cer i'r dudalen Mae Gen i Hawl am wybodaeth bellach am hawliau myfyrwyr.

Bydd parhau i astudio trwy'r Gymraeg yn:

  • ddatblygiad naturiol i ti os wyt ti wedi astudio trwy'r Gymraeg ar lefel israddedig.
  • ffordd o sicrhau dy gyfle i gael yr addysg orau.
  • ffordd o dderbyn lefel uchel o gefnogaeth wrth i'r grwpiau astudio fod yn llai.
  • ychwanegiad gwerthfawr i dy CV a dy ddatblygiad gyrfaol.

Achrediad Corff Proffesiynol

Achrededig gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth

Cwrdd â'ch Darlithwyr

    

Ffioedd Dysgu

Dyddiad Dechrau D.U. Rhyngwladol
Medi 2024 GIG N/A
Medi 2025 GIG N/A

Mae ffioedd dysgu ar gyfer blynyddoedd o astudiaeth ar ôl eich blwyddyn gyntaf yn amodol ar gynnydd o 3%.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Each year, the NHS Wales Shared Services Partnership commissions a number of fully funded places for this programme. To receive this funding, students will have to commit to working in Wales for 18month following the completion of their course. Should students be unable to make this commitment, standard tuition fees will apply.

Myfyrwyr cyfredol: Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Ariannu ac Ysgoloriaethau

Mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at eich astudiaethau.

Os ydych yn fyfyriwr y DU neu'r UE sy’n dechrau ar radd Meistr ym Mhrifysgol Abertawe, efallai y byddwch yn gymwys i gyflwyno cais am arian gan y Llywodraeth i helpu tuag at gostau eich astudiaethau. I gael mwy o wybodaeth, ewch i'n tudalen benthyciadau Ôl-raddedig.

I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd eraill am gymorth ariannol sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gael gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. I ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi

Costau Ychwanegol

Bydd mynediad i'ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i'ch galluogi i ymgysylltu'n llawn â'ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i'w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu'ch dyfais.

Efallai y byddwch chi'n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Teithio i'r campws ac oddi yno
  • Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
  • Prynu llyfrau neu werslyfrau
  • Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe'n cefnogi myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar bob cam yn eu taith yrfaol.

Mae ein gwasanaethau cymorth gyrfaoedd yn cynnwys:

  • Gweithdai cyflogadwyedd, sgyrsiau gan gyflogwyr, digwyddiadau pwrpasol a ffeiriau gyrfaoedd
  • Cyngor ac arweiniad unigol gan Ymgynghorwyr Gyrfaoedd proffesiynol
  • Cymorth i chwilio am swyddi, interniaethau, lleoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli
  • Mynediad i adnoddau gwybodaeth am amrywiaeth eang o bynciau rheoli gyrfa
  • Cyllid i gefnogi cyfleoedd interniaeth i fyfyrwyr a digwyddiadau Cymdeithasau/Clybiau Myfyrwyr

Rydym hefyd yn darparu cymorth a chyngor i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe am hyd at bum mlynedd ar ôl iddynt raddio.

Cymorth Academaidd

Yn ogystal â chymorth pwnc penodol gan staff addysgu'r coleg a'ch tiwtor personol, mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn darparu cyrsiau, gweithdai a chymorth un-i-un mewn meysydd fel:

  • Ysgrifennu academaidd
  • Mathemateg ac ystadegau
  • Meddwl critigol
  • Rheoli amser
  • Sgiliau digidol
  • Sgiliau cyflwyno
  • Cymryd nodiadau
  • Technegau adolygu, dysgu ar gof ac arholiadau
  • Sgiliau Saesneg (os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf)

Yn ogystal, os oes gennych Anhawster Dysgu Penodol (ADP/SpLD), anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu gyflwr meddygol, mae gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd Diwtoriaid Arbenigol i gefnogi'ch dysgu. Bydd y tiwtoriaid yn gweithio ochr yn ochr â'r Swyddfa Anabledd a'r Gwasanaeth Lles i gefnogi eich holl anghenion a gofynion tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae'r tim Nyrsio eisiau cefnogi datblygiad eich cymhwysedd wrth ddefnyddio cyfryngau digidol, i wella'ch dysgu, cymryd rhan mewn technolegau mewn ymarfer clinigol ac amddiffyn eich hun a'r proffesiwn pan fyddwch ar-lein. Darganfyddwch fwy am sut rydym yn ymgorffori llythrennedd digidol yn y cwricwlwm nyrsio.

Sut i wneud cais

Cwrs cyn-gofrestru yn unig yw'r cwrs MSc hwn. Nid yw'n addas ar gyfer nyrsys cofrestredig.

Gwnewch gais yn uniongyrchol drwy'r botwm 'Apply' ar y dudalen hon.”

Gweler ein Polisi Brechu ar gyfer Ymgeiswyr.

Dylech hefyd ymgyfarwyddo â GWERTHOEDD A SAFONAU YMDDYGIAD GIG CYMRU

Gwahoddir ymgeiswyr cymwys i gyfweliad ar gyfer y cwrs hwn. Edrychwch ar ein Cynghorion Cyfweliad am fwy o wybodaeth am yr hyn i'w ddisgwyl.

Dyddiadau Cau Ymgeisio

Argymhellwn eich bod chi'n cyflwyno eich cais am le ar ein cyrsiau mor fuan â phosibl cyn ein dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno cais. Bydd cyrsiau'n cau yn gynharach na'r dyddiadau cau a restrir os caiff yr holl leoedd eu llenwi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen we Dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno cais.

  • Trosolwg
  • Related Pages
  • Back
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a ddysgir yn dod yn fuan
  • Diwrnodau Agored
  • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
  • Ffioedd ac Ariannu
  • Cyrsiau Trosi
  • Sut i Wneud Cais
  • Rhaglenni Ymchwil
  • Llety
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Peirianneg Awyrofod,Sifil, Drydanol a Mecanyddol
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Biowyddorau, Daearyddiaeth
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cymhwysol
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir iechyd a gofal cymdeithasol
    • Nyrsio Gofal Critigol ar gyfer Oedolion
    • Addysg ar gyfer y Proffesiynau Iechyd, MA/PGDip/PGCert
    • Astudiaethau Iechyd Cymunedol Cymhwyster Ymarfer Arbenigol mewn Nyrsio Ardal, PGdip
    • Gwaith Cymdeithasol, MSc
    • Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy, PGCert
    • Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd, MSc / PGDip
    • MSc Gerontoleg ac Astudiaethau Heneiddio
    • Nyrsio Iechyd Meddwl, MSc
    • Nyrsio Oedolion, MSc
    • Rhagnodi Anfeddygol i Fferyllwyr, PGTyst
    • Rhagnodi Anfeddygol i Nyrsys a Bydwragedd, PGCert
    • Rhagnodi Anfeddygol i Weithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, PGTyst
    • Rheoli Gofal Iechyd, MSc
    • Ymarfer Bydwreigiaeth Proffesiynol Uwch, MSc / PGDip / PGCert
    • Ymarfer Gofal Iechyd Cymunedol a Sylfaenol, MSc / PGDip / PGCert
    • Ymarfer Gofal Iechyd, MSc
    • Ymarfer Nyrsio, MSc
    • Ymarfer Proffesiynol Uwch, MSc / PGDip / PGCert
    • Ymarfer Uwch mewn Gofal Iechyd, MSc / PGDip
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Reolaeth
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Fathemateg a Chyfrifiadureg
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Feddygaeth
  • Cyrsiau Ôlraddedig Ysgol Seicoleg
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
  • Llwybr carlam i fyfyrwyr presennol
Ymgeisio

Darganfyddwch eich prifysgol

Ewch ar rithdaith

Two students walking around campus

Prosbectws ol-raddedig

Prosbectws ol-raddedig

Astudio trwy'r Gymraeg

welsh medium

Sgwrsiwch â Myfyriwr Cyfredol

Dau fyfyriwr wrth gyfrifiadur
Ymwadiad Rhaglen
  • Cysylltwch â ni
  • Swyddi
  • Cyfadrannau
  • Y Wasg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Ymwadiad a Hawlfraint
  • Map o'r Safle
  • Preifatrwydd a Chwcis
  • Datganiad Caethwasiaeth Fodern
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342