Trosolwg o'r Cwrs
Astudiwch y ffactorau rhyng-gysylltiedig sy'n effeithio ar iechyd babanod, plant a theuluoedd gyda'n gradd Meistr mewn Iechyd Cyhoeddus Plant.
Byddwch yn archwilio'r sylfaen dystiolaeth sy'n sail i'r polisi iechyd cyhoeddus cyfredol sy'n ymwneud â phlant 0-11 yn y DU ac yn rhyngwladol, gan gynnwys pynciau sy'n cynnwys iechyd amenedigol, maethiad ac imiwneiddiadau.
Bydd eich astudiaethau yn cymryd ymagwedd integredig sy'n cwmpasu'r dylanwadau biolegol, seicolegol a chymdeithasol sy'n effeithio ar ddatblygiad addysgol ac emosiynol hirdymor plant a pholisïau ac ymyriadau iechyd y cyhoedd sy'n gallu cefnogi'r rhain.
Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn mireinio sgiliau ymchwil a dadansoddol beirniadol a werthfawrogir gan gyflogwyr a datblygu technegau ymarfer myfyriol proffesiynol.