Trosolwg o'r Cwrs
Bydd ein gradd Meistr achrededig mewn Gwaith Cymdeithasol yn rhoi gwybodaeth theori ac ymarferol i chi i lansio gyrfa werth chweil fel gweithiwr cymdeithasol cofrestredig.
Byddwch yn astudio moeseg a gwerthoedd gwaith cymdeithasol, arferion beirniadol sy'n ymwneud â'r gyfraith o gwmpas gofal plant ac oedolion, a'r damcaniaethau a'r safbwyntiau allweddol sy'n sail i bolisi ac ymarfer gwaith cymdeithasol.
Byddwch yn treulio hanner eich amser ar leoliad gydag asiantaethau gwaith cymdeithasol, gan ddysgu trwy arsylwi ac ymarfer, a'r hanner arall yn cael ei ddysgu ar ein campws Parc Singleton.
Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn mireinio sgiliau ymchwil a dadansoddol beirniadol mewn perthynas ag arfer a pholisi gwaith cymdeithasol, a datblygu technegau ymarfer myfyriol proffesiynol.