Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r radd MA ddwbl hon mewn Cyfieithu Arbenigol a Chyfieithu ar y Pryd yn cael ei chynnig drwy bartneriaeth unigryw rhwng ysgolion cyfieithu uchel eu parch Prifysgol Abertawe ac Université Grenoble Alpes (UGA), sef trydedd brifysgol fwyaf Ffrainc. Mae’n rhoi cyfle i chi astudio a hyfforddi ar gyfer ymarfer proffesiynol mewn dau amgylchedd academaidd gwahanol, a fydd yn datblygu eich rhwydweithiau cyfieithu yn y ddwy wlad.
Mae'r radd MA Ddwbl hon ar gael i ymgeiswyr â chymhwysedd ieithyddol brodorolyn Saesneg ac yn Ffrangeg yn unig, neu i’r rhai sy’n agos at y safon honno, ac mae'n cyfuno elfennau allweddol MA mewn Cyfieithu Proffesiynol Abertawe (Blwyddyn 1) a gradd Meistr LEA parcours Traduction spécialisée Université Grenoble Alpes (Blwyddyn 2), y cynlluniwyd y ddwy ohonynt i gyflawni'r ystod gyflawn o gymwyseddau proffesiynol a amlinellwyd yn Fframwaith Cymwyseddau 2017 yr EMT. Mae'r radd MA Ddwbl ar gael i ieithyddion rhagorol, p'un a yw eu cymwysterau yn gysylltiedig ag ieithoedd neu mewn meysydd pwnc eraill lle maent yn cynllunio datblygu arbenigedd cyfieithu. Wrth gwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn graddio â graddau Meistr o'r ddwy brifysgol. Yn ogystal â'r Saesneg a'r Ffrangeg, gall myfyrwyr hefyd ddewis astudio cyfieithu yn naill ai'r Almaeneg neu'r Sbaeneg, mewn cyfuniad â'r Saesneg ym Mlwyddyn 1 a'r Ffrangeg ym Mlwyddyn 2.
Nifer gyfyngedig iawn o leoedd sydd a chânt eu dyrannu ar sail teilyngdod gan Fwrdd Astudiaethau ar y Cyd, ar sail y ffurflen gais a'r trawsgrifiad(au), geirdaon a chyfweliad (yn ôl yr angen). Caiff ffioedd eu talu ar gyfradd bresennol myfyrwyr y DU, Ewrop neu ryngwladol i’r sefydliad lle rydych chi'n astudio ar y pryd (h.y. i Abertawe ym Mlwyddyn 1, i UGA ym Mlwyddyn 2.
Pam Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd (Estynedig gydag Université Grenoble Alpes) yn Abertawe?
Mae'r radd MA ddwbl hon mewn Cyfieithu Arbenigol a Chyfieithu ar y Pryd yn cael ei chynnig drwy bartneriaeth unigryw rhwng ysgolion cyfieithu uchel eu parch Prifysgol Abertawe ac Université Grenoble Alpes (UGA), sef trydedd brifysgol fwyaf Ffrainc. Mae’n rhoi cyfle i chi astudio a hyfforddi ar gyfer ymarfer proffesiynol mewn dau amgylchedd academaidd gwahanol, a fydd yn datblygu eich rhwydweithiau cyfieithu yn y ddwy wlad.
Mae'r radd MA Ddwbl hon ar gael i ymgeiswyr â chymhwysedd ieithyddol brodorol yn Saesneg ac yn Ffrangeg yn unig, neu i’r rhai sy’n agos at y safon honno, ac mae'n cyfuno elfennau allweddol o radd MA mewn Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd Abertawe (Blwyddyn 1) a gradd Meistr LEA parcours Traduction spécialisée Université Grenoble Alpes (Blwyddyn 2), y cynlluniwyd y ddwy ohonynt i gyflawni'r ystod gyflawn o gymwyseddau proffesiynol a amlinellwyd yn Fframwaith Cymwyseddau 2017 yr EMT. Mae'r radd MA Ddwbl ar gael i ieithyddion rhagorol, p'un a yw eu cymwysterau yn gysylltiedig ag ieithoedd neu mewn meysydd pwnc eraill lle maent yn cynllunio datblygu arbenigedd cyfieithu. Wrth gwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn graddio â graddau Meistr o'r ddwy brifysgol. Yn ogystal â'r Saesneg a'r Ffrangeg, gall myfyrwyr hefyd ddewis astudio cyfieithu yn naill ai'r Almaeneg neu'r Sbaeneg, mewn cyfuniad â'r Saesneg ym Mlwyddyn 1 a'r Ffrangeg ym Mlwyddyn 2.
Nifer gyfyngedig iawn o leoedd sydd a chânt eu dyrannu ar sail teilyngdod gan Fwrdd Astudiaethau ar y Cyd, ar sail y ffurflen gais a'r trawsgrifiad(au), geirdaon a chyfweliad (yn ôl yr angen). Caiff ffioedd eu talu ar gyfradd bresennol myfyrwyr y DU, Ewrop neu ryngwladol i’r sefydliad lle rydych chi'n astudio ar y pryd (h.y. i Abertawe ym Mlwyddyn , i UGA ym Mlwyddyn 2.
Eich Profiad Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd (Estynedig gydag Université Grenoble Alpes)
Blwyddyn 1, Abertawe (120 o gredydau/60 ECTS)
Modiwlau Gorfodol: Gwaith cyfieithu uwch yn Ffrangeg a Saesneg (gallwch ddewis Almaeneg neu Sbaeneg a Saesneg hefyd ) wedi'i ategu gan hyfforddiant mewn offer Cyfieithu â Chymorth Cyfrifiadur (CAT) o safon y proffesiwn (MLRM03). Mae'r modiwl 'Sylfeini (MLTM05) yn cynnwys damcaniaeth cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, gan ddarparu trosolwg o sefyllfa gyfredol y diwydiant gwasanaethau iaith a'i rolau proffesiynol. Rhaid i chi hefyd gymryd y modiwl Cyfieithu ar y Pryd ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus mewn amgylcheddau gofal iechyd, MLTM07.
Opsiynau: Gallwch ddewis arbenigo mewn cyfieithu clyweledol (MLTM19), technolegau cyfieithu gan gynnwys offer meddalwedd lleoleiddio (MLTM11) neu reoli terminoleg (MLTM18). Yn y modiwl Efelychu Swyddfa Gyfieithu (MLTM17), rydych chi'n sefydlu ac yn cynnal cwmni cyfieithu realistig, gan weithio gyda darparwr gwasanaethau iaith (LSP) lleol a myfyrwyr MA eraill ledled Ewrop yn y rhwydwaith INSTB. Gallwch hefyd astudio cwrs iaith dwys ar lefel Dechreuwyr neu Ganolradd.. Fel arall, mae Dysgu ac Addysgu Iaith â Chymorth Technoleg (ALEM28) yn darparu sgiliau addysgeg iaith y mae galw mawr amdanynt.
Cyfleoedd Cyflogaeth Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd (Estynedig gydag Université Grenoble Alpes)
Bydd y radd MA alwedigaethol mewn Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd yn gwella eich rhagolygon gyrfa fel ieithydd proffesiynol yn sylweddol. Yn ystod eich astudiaethau, neu eich interniaeth, gallwch wneud cysylltiadau pwysig ar gyfer eich gwaith yn y dyfodol.
Mae graddedigion o’r cwrs hwn yn cyflawni amrywiaeth o rolau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd gwahanol. Mae llawer hefyd yn gwneud graddau ymchwil ac yn dilyn gyrfa academaidd.