Trosolwg o'r Cwrs
Mae’r MA mewn Hen Lenyddiaeth Naratif yn gwrs deinamig ac unigryw. Mae’r archwiliad manwl o hen lenyddiaeth naratif Groeg a Lladin yn cael ei lywio gan arbenigedd ymchwil sy'n enwog yn fyd-eang.
Byddwch yn canolbwyntio ar hen naratifau ffuglennol a ffeithiol mewn amrywiaeth o ffurfiau llenyddol, gan gynnwys barddoniaeth epig, a hanesyddiaeth, a'r nofel. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i ddechrau neu barhau i astudio Groeg a Lladin.
Bydd cysyniadau allweddol o ddamcaniaeth lenyddol a diwylliannol yn eich galluogi i ymchwilio i destunau hynafol, o bersbectif cronolegol a daearyddol lawn yr henfyd clasurol, mewn ffyrdd creadigol newydd. Bydd cyfle i chi ddatblygu sgiliau megis defnyddio dulliau naratolegol, deall confensiynau generig a sut mae awduron yn eu hecsbloetio, a dadansoddi dimensiynau alegorïaidd.
Os ydych yn bwriadu ymchwilio ymhellach i'r maes bywiog hwn o lenyddiaeth glasurol, sy'n datblygu'n gyflym, mae'r MA mewn Hen Lenyddiaeth Naratif yn baratoad gwych.
Mae Hanes yr Henfyd yn Abertawe wedi'i restru:
51-90 safle QS Prifysgol y Byd gorau (2023)