Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r cwrs MSc mewn Mecaneg Gyfrifiadol yn rhaglen 2 flynedd ar gyfer myfyrwyr sy'n awyddus i ennill y sgiliau angenrheidiol ar gyfer modelu, llunio, dadansoddi, a gweithredu dulliau efelychu ar gyfer problemau peirianneg uwch, yn ogystal â sgiliau ar gyfer deall yr ymagweddau hyn yng nghyd-destun ehangach busnes ac arloesi.
Mae'r MSc hwn yn manteisio ar arbenigedd cydategol Prifysgol Abertawe a Universitat Politècnica de Catalunya (UPC) yn Barcelona, Sbaen. Gall myfyrwyr dreulio blwyddyn gyntaf yr MSc yn Abertawe a'r ail flwyddyn yn Barcelona neu i'r gwrthwyneb. Mae'r rhaglen gyfan yn cael ei haddysgu yn Saesneg, ond bydd myfyrwyr sy'n dechrau yn Abertawe yn cael cynnig, fel rhan o'r cwrs, gwrs gorfodol mewn Sbaeneg i ddechreuwyr er mwyn gwella eu profiad yn ystod yr ail flwyddyn yn Barcelona.
Ar ôl y flwyddyn gyntaf, bydd myfyrwyr yn gwneud lleoliad haf mewn diwydiant cyn symud i'r ail sefydliad. Dyma gyfle unigryw i roi ar waith y sgiliau a ddysgwyd yn ystod blwyddyn gyntaf yr MSc yn ogystal â gwella eu cyflogadwyedd. Yn wir, mae 20% o'r myfyrwyr yn y rhaglen yn cael eu cyflogi ar ôl graddio gan y cwmni lle ymgymeron nhw â'r lleoliad.
Yn y rhaglen hon bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau rhaglennu cadarn a byddant yn gallu teilwra'r radd drwy ddewis modiwlau dewisol ar amrywiaeth o bynciau cyfrifiadol, gan gynnwys dysgu peirianyddol a dulliau a ysgogir gan ddata.
Bydd y graddedigion yn cael diploma dwbl gan Brifysgol Abertawe ac UPC.
Mae'r MSc Rhyngwladol mewn Mecaneg Gyfrifiadol yn un o'r tri chwrs MSc Cyfrifiadol y mae Prifysgol Abertawe yn eu cynnig.
Pam Mecaneg Gyfrifiadol yn Abertawe a Barcelona?
Mae Prifysgol Abertawe yn sefydliad sy'n arwain y byd o ran Peirianneg Gyfrifiadol ers y 1960au, pan ymunodd yr Athro Zienkiewicz â Phrifysgol Abertawe. Mae'r Athro Zienkiewicz yn adnabyddus yn fyd-eang fel "Tad y Dull Elfen Feidraidd" a sefydlodd yr International Journal of Numerical Methods in Engineering a Chymdeithas y DU ar gyfer Mecaneg Gyfrifiadol. Ers hynny, mae Prifysgol Abertawe wedi cynnal safle rhyngwladol breintiedig ym maes Peirianneg Gyfrifiadol.
Ym 1976 daeth yr Athro Eugenio Oñate i Abertawe i wneud y cwrs MSc a thraethawd ymchwil PhD o dan oruchwyliaeth yr Athro O. C. Zienkiewicz Wedi hynny, dychwelodd i Barcelona lle sefydlodd yr International Centre for Numerical Methods (CIMNE), sydd hyd heddiw yn un o'r canolfannau pwysicaf ym maes dulliau rhifiadol ledled y byd. Yn sgil y cysylltiad cryf rhwng Barcelona ac Abertawe, cafodd yr Athro O. C. Zienkiewicz ei benodi'n gadeirydd UNESCO ar gyfer dulliau rhifiadol mewn Peirianneg yn Barcelona. Ers hynny, mae'r cydweithio rhwng Abertawe a Barcelona wedi tyfu ac arwain at gynhyrchu dros 70 o gyhoeddiadau ar y cyd rhwng academyddion o Brifysgol Abertawe ac UPC yn ystod y ddau ddegawd diwethaf.
Mae Pwyllgor Llywio Diwydiannol, sydd ag arbenigwyr diwydiannol mewn peirianneg gyfrifiadol, yn cynghori ar yr MSc mewn Peirianneg Gyfrifiadol gyda Diwydiant. Mae aelodau'r Pwyllgor Llywio Diwydiannol yn cynnwys:
Caiff yr MSc mewn Peirianneg Gyfrifiadol ei addysgu gan academyddion sydd gyda'r goreuon yn y byd, o Sefydliad Zienkiewicz ar gyfer Modelu, Data a Deallusrwydd Artiffisial ym Mhrifysgol Abertawe, ac o CIMNE a LaCaN yn UPC. Mae gan yr academyddion hyn brofiad eang o greu dulliau rhifiadol newydd a darparu offer cyfrifiadol sydd wedi'u mabwysiadu gan fyd diwydiant, gan gynnwys Airbus, BAE Systems, Chevron, NASA, SEAT, Siemens, Volkswagen.
Yn ogystal â hynny, mae'r academyddion hyn wedi ysgrifennu llyfrau enwog ym maes Peirianneg Gyfrifiadol, ac mae ganddynt rolau pwysig mewn cymdeithasau cenedlaethol a rhyngwladol yn y maes.
Bydd myfyrwyr yr MSc mewn Peirianneg Gyfrifiadol yn gallu dewis pwnc eu traethawd hir o ystod eang o themâu. Bydd gan fyfyrwyr fynediad am ddim at yr holl feddalwedd sydd ei hangen i ymgymryd â'u hastudiaethau, ar gyfrifiaduron y Brifysgol ac yn eu cartrefi. Ar gyfer eu traethawd hir bydd ganddynt hefyd fynediad at y cyfleusterau cyfrifiadura perfformiad uchel sydd ar gael yn Abertawe, gan gynnwys y Clwstwr Effaith a chyfleusterau Uwchgyfrifiadura Cymru yn Abertawe, sydd â chyfanswm o 4,920 o greiddiau a 47 Tb o gof RAM.
Pam astudio Mecaneg Gyfrifiadol?
Erbyn hyn mae modelu ac efelychu cyfrifiadurol yn ddull sy'n cael ei ddefnyddio'n eang mewn diwydiant, nid yn unig i ategu arbrofion a damcaniaethau, ond hefyd fel dull darganfod. Mae'r maes yn tyfu'n gyflym oherwydd cymhlethdod cynyddol y problemau a wynebir gan ddiwydiant a’n cymdeithas. Mae'r problemau hyn yn cynnwys yr angen i liniaru'r newid yn yr hinsawdd, yr angen i ddyfeisio deunyddiau newydd ac i optimeiddio cydrannau, systemau, a phrosesau, ac enwi ychydig yn unig .
Yr unig ffordd o fynd i'r afael â'r heriau hyn yw drwy ddefnyddio peirianneg gyfrifiadol i ategu gwaith arbrofol. Mae offer cyfrifiadol hefyd yn darparu llwybr unigryw i gwmnïau leihau amser-i'r-farchnad ac amser-i-weithgynhyrchu ar gyfer eu cynnyrch. Yn yr oes ddigidol sydd ohoni, mae defnyddio data mawr a dysgu peirianyddol i ddiweddaru'r modelau'n gyson hefyd wedi agor y drws i ddatblygu gefeilliaid digidol mewn sawl maes Peirianneg a Gwyddoniaeth.
Bydd yr MSc Peirianneg Gyfrifiadol yn rhoi i fyfyrwyr y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddatblygu offer cyfrifiadol ar gyfer heriau'r 21ain ganrif.
Cyfleoedd Cyflogaeth
Mae ystod eang o gyfleoedd ar gael i raddedigion y cwrs MSc Peirianneg Gyfrifiadol. Bydd cyfle iddynt gael swyddi ym myd diwydiant neu yn y byd academaidd, gan ddibynnu ar eu diddordebau.
O ganlyniad i sgiliau unigryw peiriannydd cyfrifiadol, mae'r cyflog disgwyliedig fel arfer yn uwch na chyflog peiriannydd arferol. Er enghraifft, yn y DU, cyflog cyfartalog peiriannydd cyfrifiadol ym mis Tachwedd 2022 oedd £43,000, tra mai £38,000 oedd cyflog cyfartalog peiriannydd. Mae'n werth nodi bod cyflogwyr sy'n chwilio am raddedigion yn defnyddio naill ai "Peiriannydd Cyfrifiadol", "Peiriannydd Modelu" neu "Beiriannydd Efelychu" yn eu disgrifiadau.
Mae cwmnïau sy'n cynnig swyddi i Beirianwyr Cyfrifiadol yn cynnwys rhai o frandiau enwocaf y byd, sef Alphabet, Amazon, Apple, Boeing, Chevron, Coca-Cola, ExxonMobil, General Dynamics, HP, IBM, Intel, Meta, Microsoft, Nike, Pfizer, Tesla.
Wedi iddynt raddio, mae'n well gan rai myfyrwyr ddilyn PhD mewn Peirianneg Gyfrifiadol. Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i ddilyn graddau PhD yn llawer o brifysgolion blaenllaw’r byd, ac mae gan lawer o raddedigion Abertawe swyddi ymchwil neu academaidd mewn prifysgolion a chanolfannau ymchwil a datblygu uchel eu bri.