Yr haf hwn, gallwch chi astudio ar-lein yn un o ysgolion busnes gorau'r Almaen...
Cewch gyfle i gwrdd â phobl ar-lein o bob cwr o'r byd ac ehangu eich rhwydwaith proffesiynol drwy drafodaethau ag ymarferwyr profiadol, a darganfod sut brofiad yw astudio yn Ysgol Fusnes fwyaf blaenllaw'r Almaen. Mae'r Ysgol Fusnes ym Mhrifysgol Mannheim yn un o'r ysgolion busnes uchaf eu parch yn Ewrop. Mae Mannheim yn ymddangos yn rheolaidd ar frig y tablau o'r sefydliadau gorau ac mae'n un o'r ychydig sefydliadau yn yr Almaen i feddu ar bob un o'r tri achrediad rhyngwladol pwysig (AACSB, EQUIS ac AMBA).
Beth sy'n cael ei gynnwys?
- Deunyddiau darlith a gwybodaeth
- Sesiwn cyflwyniad i "Ddeall yr Almaen o safbwynt diwylliannol" ar y diwrnod cyntaf (dewisol)
- Mynediad i ystafell ddosbarth rithwir a chyfrif ar gyfer platfform dysgu ar-lein
- Pecyn bach nwyddau Ysgol Fusnes Mannheim
- Digwyddiad cymdeithasol rhithwir (e.e. noson gwis neu ystafell ddianc rithwir)
- Tystysgrif presenoldeb, trawsgrifiad o gofnodion
- Cymorth ymlaen llaw a thrwy gydol y rhaglen gan y tîm Rhaglenni Byr
Achubwch ar y cyfle hwn i ddysgu rhagor am yr Almaen a chael blas ar ddiwylliant yr Almaen yr haf hwn!