Bydd Virtual Internships yn cynnal sesiwn wybodaeth ar-lein
NOS FAWRTH 22 CHWEFROR 5-6 PM
Dolen Zoom yn dod yn fuan!
Gall myfyrwyr sydd am gael profiad gwaith byd-eang gwblhau interniaeth o gysur eu cartref eu hun, gan weithio hyd at 30 awr yr wythnos am 4, 8 neu 12 wythnos. Mae pob myfyriwr yn sicr o gael interniaeth ar-lein yn un o'i feysydd gyrfa, a gall myfyrwyr ganolbwyntio ar un wlad neu sawl gwlad o ran opsiynau ar gyfer eu lleoliadau gwaith - bydd myfyrwyr yn cael nodi 3 dewis o ran lleoliad.
Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Virtual Internships