COST Y RHAGLEN - £629 (cost y rhaglen gan gynnwys dewis o ehediad rhwng Llundain ac Efrog Newydd)
Mae'n debygol y bydd y costau ychwanegol yn cynnwys y canlynol, ond nid dyma restr holl gynhwysfawr: costau fisa/Llysgenhadaeth, gwiriad Datgelu a Gwahardd (DBS), teithio i'r gwersyll yn UDA (efallai caiff hyn ei ad-dalu), costau ychwanegol os byddi di'n teithio o/i feysydd awyr gwahanol
Mae nifer o fwrsariaethau ar gael ar gyfer rhaglenni haf. Hefyd, ceir bwrsariaethau ychwanegol i fyfyrwyr ehangu cyfranogiad. Ni all cyfanswm y cyllid a roir i fyfyriwr fod yn fwy na'r cyfanswm ar gyfer cyfranogi. Gall myfyrwyr dderbyn un fwrsariaeth neu fwy.
Am ragor o fanylion am fwrsariaethau ac i lawrlwytho ffurflen gais am fwrsariaeth, cer i'n tudalen gyllid.