NTU SINGAPÔR
Mae ceisiadau am y rhaglen hon bellach ar gau
Bob haf, mae’r NTU yn croesawu myfyrwyr sy'n ymweld i fwynhau dilyn astudiaethau academaidd ar bum llwybr academaidd sy'n cwmpasu pynciau Diwylliant ac Iaith, Entrepreneuriaeth, Busnes, y Dyniaethau a Pheirianneg, er mwyn meithrin y cymwyseddau y mae eu hangen ar ôl graddio. Caiff myfyrwyr eu hysbrydoli gan aelodau staff yr NTU sy'n hysbys am eu profiad academaidd ac ymarferol, a byddant yn adeiladu rhwydwaith o gyd-fyfyrwyr byd-eang talentog ar draws cefndiroedd a rhanbarthau amrywiol.
Eleni, oherwydd na fydd rhaglenni haf wyneb yn wyneb yn bosibl ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Abertawe, mae'r tîm Ewch yn Fyd-eang yn darparu cyllid ar gyfer fersiwn rhithwir/ar-lein rhaglen haf yr NTU, sydd ar gael.Wrth ddewis eich cwrs, mae'n bwysig eich bod yn gwirio ei fod ar gael fel opsiwn hybrid neu rithwir. Hefyd, bydd angen i chi benderfynu os bydd hyn yn addas i chi - cyflwynir cyrsiau hybrid yn fyw (yn gydamserol) drwy Teams neu Zoom. Ceir rhagor o fanylion isod:
Yr haf hwn, bydd rhaglen haf GEM Trailblazer yn mabwysiadu dull addysgu hybrid ac yn cynnig mwy na 25 cwrs ar bum llwybr astudio gwahanol dros gyfnod o bythefnos, pedair wythnos a chwe wythnos. Bydd cyrsiau ar y campws/rhai hybrid cydamserol ar y safle ac yn cael eu darlledu ar y pryd drwy Teams/Zoom, gan gynnig cyfle i fyfyrwyr nad oes modd iddynt fod yn bresennol wyneb yn wyneb i ddilyn y cwrs yn rhithwir. Cynhelir y dosbarthiadau mewn ystafelloedd dosbarth hybrid gyda digon o gyfarpar, ynghyd â nifer o gamerâu, microffonau a byrddau gwyn electronig er mwyn i fyfyrwyr sy'n bresennol yn rhithwir gael yr un mynediad at ddeunyddiau darlithoedd, a chyfranogi mewn trafodaethau cadarn, â myfyrwyr yn yr ystafell ddosbarth. Cyflwynir cyrsiau rhithwir drwy eu ffrydio'n fyw, a bydd recordiadau ar gael ar alw.
Am fanylion llawn am yr holl gyrsiau sydd ar gael, ewch i wefan yr NTU. Byddwch chi'n cyflwyno cais fel myfyriwr sy'n talu ffioedd, nid fel myfyriwr cyfnewid. Ceir manylion isod am y costau amcangyfrifedig a'r costau bras ar ôl ystyried bwrsariaethau.
Rhaid i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn cyflwyno cais am y rhaglen hon roi gwybod i’r tîm Ewch yn Fyd-eang erbyn DYDD MAWRTH 30 MAWRTH er mwyn cael eu henwebu.