Mae SUSiM yn defnyddio amrywiaeth o fethodolegau addysg sy'n seiliedig ar efelychu i gefnogi dysgwyr a thimau i drochi, myfyrio a datblygu drwy senarios byd go iawn mewn athroniaeth un rhaglen ar amrywiaeth o safleoedd.
Ein gweledigaeth ar gyfer addysg sy'n seiliedig ar efelychu yw ymgorffori dysgu rhyngbroffesiynol drwy gydol ein cyfres o raglenni clinigol, iechyd a gofal cymdeithasol. Mae ein henw da byd-eang am addysg gofal iechyd yn ein gosod yn y sefyllfa orau i ddatblygu'r enw da hwn ac i gynyddu defnydd o ddulliau addysg ar sail efelychu a throchi yn ein cwricwlwm er budd ein myfyrwyr ac athrawon a datblygu arferion diogelwch cleifion, timau a systemau drwy ddysgu ymarferol.
Ymchwil ac Arloesi mewn Efelychu
Ers iddi ddechrau yn 2021, mae rhaglen SUSiM wedi dechrau ar amrywiaeth o brosiectau ymchwil ac arloesi.
Mae gan dimau a rhaglenni SUSiM genhadaeth gref i sicrhau bod ymagwedd hynod gydweithredol gennym at hyrwyddo ac ehangu dysgu ar sail efelychu ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol.
Gyda'n partneriaid ymchwil, rydym yn datblygu partneriaethau, cydweithrediadau a chyfleoedd ymgysylltu ar draws partneriaid addysg glinigol, Byrddau Iechyd lleol, cymdeithasau efelychu proffesiynol ac yn datblygu cyfleoedd mewn cymunedau a busnesau lleol.
Adeiladu systemau a modiwlau hyfforddiant realiti rhithwir o'r radd flaenaf
Gan weithio mewn partneriaeth â'r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, mae tîm SUSiM a chwmni Datblygu Realiti Rhithwir blaenllaw o Gymru o'r enw Rescape yn ateb yr alwad i greu system a modiwlau hyfforddiant realiti rhithwir arloesol i helpu i ateb prosiect ymchwil arloesol gwerth £400,000 Menter Ymchwil Busnesau Bach Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Gydag arbenigedd mewnol mewn addysg glinigol, methodolegau efelychu a thîm datblygu realiti rhithwir gan weithio'n uniongyrchol gyda Rescape fel yr arweinydd busnes a datblygu ar gyfer y prosiect hwn, o ganlyniad i’r ymdrech gydweithredol hon llwyddodd y tîm i gyrraedd Cam 3 y prosiect sydd bellach yn cael ei brofi ar draws ysbytai yng Nghymru.
Prosiect Ysbyty Rhithwir Cymru Gyfan
Mae Prosiect Ysbyty Rhithwir Cymru Gyfan yn brosiect ymchwil ac arloesi ar y cyd sy'n Datblygu Amgylchedd Clinigol Rhithwirl ar gyfer Dysgwyr Gofal Iechyd yng Nghymru. Ei nod yw pennu amgylchedd rhithwir amlddisgyblaeth a thraws-arbenigedd ar-lein ar gyfer myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig (Ysbyty Rhithwir Cymru).
Partneriaid y prosiect: Virtus Tech, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Rhwydwaith Trawma Mawr De Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Canolfan Arloesi Technoleg Gynorthwyol (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant), Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd
Dysgu cyfrifiadurol fel Moddolrwydd ar gyfer Addysgu Timau Clinigol
Mae tîm SUSiM yn gweithio gyda Body Interact ar hyn o bryd ar beilot i brofi a gweithredu platfform senario efelychu cyfrifiadurol ymysg ein timau addysg ryngbroffesiynol. Bydd y prosiect hwn yn para 12 mis a'i nod yw mesur effeithiolrwydd ac ymgysylltiad y dull hwn o addysg ar sail efelychu ar gyfer dysgwyr ac ystyriaethau o ran ei roi ar waith yn y Gyfadran.