Myfyriwr yn astudio

Mae dod yn arbenigwr yn rhoi'r pŵer i chi gael effaith gadarnhaol a pharhaol ar fywydau pobl ar raddfa fyd-eang

Mae dod yn arbenigwr yn rhoi'r pŵer i chi gael effaith gadarnhaol a pharhaol ar fywydau pobl ar raddfa fyd-eang, gan gefnogi arweinwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ar redeg ein gwasanaethau gofal iechyd, rheoli argyfyngau iechyd yn y dyfodol a sicrhau bod iechyd y cyhoedd yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth.

Drwy gydol pandemig Covid-19 mae pobl ledled y byd wedi bod yn disgwyl i'n harweinwyr wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer ein hiechyd, ein diogelwch a'n lles. Yn ei dro, mae arweinwyr a gwneuthurwyr penderfyniadau wedi bod yn edrych ar arbenigwyr ym meysydd meddygaeth a gwyddoniaeth i helpu i lywio polisïau i arafu ymlediad Covid-19 a chadw cynifer o bobl â phosibl yn ddiogel rhag y feirws marwol.

Fodd bynnag, mae polisïau fel gwisgo mygydau, cyfyngiadau symud cymunedol a mandadau brechu wedi cael eu polareiddio fwyfwy gan bleidiau gwleidyddol, gyda gwleidyddion, arweinwyr y byd a'r cyhoedd yn gyffredinol yn cefnogi neu'n gwrthwynebu mesurau iechyd a diogelwch y cyhoedd yn unol â barn eu plaid wleidyddol, yn aml yn groes i gyngor arbenigwyr a gefnogir yn wyddonol.

O ran materion iechyd cyhoeddus, pwy y mae'r cyhoedd yn ymddiried ynddo mewn gwirionedd?

Astudiodd tîm ymchwil dan arweiniad Prifysgol Colorado Boulder, gyda chefnogaeth cydweithwyr o'r Unol Daleithiau, Sweden, Israel, Awstria, yr Eidal, Singapôr a'r DU, farn wleidyddol cyfranogwyr, ochr yn ochr â'u barn ar bolisïau Covid-19.

Gofynnwyd i'r 13,000 o gyfranogwyr, o 7 gwlad ledled y byd, am eu barn wleidyddol, yna i rannu eu cefnogaeth ar gyfer dau bolisi Covid-19, un ar gyfer mesurau iechyd cyhoeddus, a'r llall yn cefnogi adferiad economaidd.

Fel yr esbonia Dr Gabriela Jiga-Boy o Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe, a oedd yn rhan o'r tîm:

“Rydym yn dilyn esiampl ein harweinwyr (neu garfannau pleidiol elît) oherwydd bod dyletswydd arnom i wneud hynny. Ond mae carfannau pleidiol yn aml yn creu rhwystrau i'r gwaith o fynd i'r afael â bygythiadau cyffredin megis Covid-19. Maent yn polareiddio barn y cyhoedd drwy eu geiriau, eu gweithredoedd neu eu presenoldeb yn unig.”

Daeth yr ymchwil i'r casgliad, er bod cyfranogwyr yn fwy tebygol o gefnogi polisïau a oedd yn gysylltiedig â'u plaid wleidyddol, fod yr holl gyfranogwyr, beth bynnag eu barn wleidyddol, yn cefnogi polisïau a gynigiwyd gan arbenigwyr a chynghreiriau dwybleidiol.

Daeth Dr Jiga-Boy i'r casgliad:

“Mae ein canlyniadau'n dangos pwysigrwydd sicrhau bod arbenigwyr yn amhleidiol, er mwyn diogelu ffydd y cyhoedd ynddynt. Ateb yw tynnu'r gwleidyddion allan o'r cyfathrebu a rhoi'r arbenigwyr ar y blaendir i helpu i osgoi materion sy'n cael eu polareiddio."

Rhannu'r stori