Dysgu Anatomeg

Mae Abertawe'n parhau i chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o hyfforddi gweithlu gofal iechyd y dyfodol

Yma ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn arwain y ffordd o ran hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol y GIG a gofal iechyd ac mae hyn wedi'i gydnabod gydag amrywiaeth o gyrsiau newydd wedi'u hariannu'n llawn, gan gynnwys BSc mewn Therapi Galwedigaethol, BSc Ymarferydd Adran Llawdriniaethau a Nyrsio Anabledd Dysgu.

Ers bron tri degawd, mae ein dull arloesol o addysgu ynghyd â'n hymroddiad i wella'r ddarpariaeth gofal iechyd wedi ein rhoi ar flaen y gad o ran hyfforddi gweithlu yfory ar gyfer y GIG yng Nghymru a thu hwnt. Mae hyn yn ein gwneud yn lle delfrydol i chi os ydych yn bwriadu cymryd y cam cyntaf tuag at yrfa gofal iechyd.

Rydym yn credu'n gryf y dylai gweithlu'r GIG yma yng Nghymru, a thu hwnt, adlewyrchu ein cymdeithas amrywiol yn llawn, felly rydym wedi ymrwymo i ehangu mynediad i'n cyrsiau gofal iechyd drwy ddefnyddio cynigion cyd-destunol.

Mae cynigion cyd-destunol yn ystyried amrywiaeth o ffactorau a allai fod wedi cael effaith ar eich cyrhaeddiad addysgol, a allai eich atal rhag cael mynediad i addysg uwch. Rydym yn defnyddio gwybodaeth ychwanegol o'ch ffurflen gais ochr yn ochr â'n gofynion derbyn safonol i roi'r cyfle gorau i chi gyflawni'r yrfa gofal iechyd rydych chi'n breuddwydio amdani.

Eich Opsiynau

Rhannu'r stori