Llun Data Fawr

"Bydd y bartneriaeth barhaus hon yn ein galluogi i gael mynediad at sylfaen dystiolaeth gyfoethocach" Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Mae Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn parhau i arwain y ffordd ar dechnegau dadansoddi data arloesol a rhagoriaeth ymchwil

Mae Ymchwil Data Gweinyddol Cymru (ADR Cymru) yn uno arbenigedd ymchwil o Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe a Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) ym Mhrifysgol Caerdydd gyda dadansoddwyr o Lywodraeth Cymru. Gan weithio ochr yn ochr â Banc Data SAIL byd-enwog, mae ei dîm o ymchwilwyr arbenigol, dadansoddwyr a gwyddonwyr data yn mynd i'r afael â meysydd allweddol a nodwyd gan Lywodraeth Cymru, megis addysg, iechyd meddwl a thai.

Chwaraeodd ADR Cymru rôl ganolog o ran llywio dealltwriaeth a gwneud penderfyniadau dilynol ar lefel polisi yn ystod y pandemig yng Nghymru ac ar draws y DU, gyda'i ymchwilwyr yn gweithio i ddeall ymlediad y pandemig yng Nghymru a'i effaith ar bobl a gwasanaethau. Bydd yn parhau i gynorthwyo'r broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru drwy roi cipolwg amserol ar faterion sy'n effeithio ar y boblogaeth, wrth fynd i'r afael ag effaith eilaidd y pandemig ar bobl a gwasanaethau.

Fel yr esbonia'r Athro David Ford, Cyd-gyfarwyddwr ADR Cymru ac Athro Gwybodeg ym Mhrifysgol Abertawe:

"Hyd yma, mae ein rhaglen waith wedi cynhyrchu allbynnau sylweddol sydd wedi helpu i lunio meysydd polisi cyhoeddus allweddol yng Nghymru.

Edrychwn ymlaen at y pedair blynedd nesaf wrth i ni barhau i arloesi arferion data diogel a dangos y rôl y gall data wedi'i ddadnodi ei chwarae, o'i ddefnyddio'n ddiogel ac yn gywir, wrth helpu i lywio'r broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru a ledled y DU."

Mae ADR Cymru a Banc Data SAIL yn yr Adeilad Gwyddor Data o'r radd flaenaf, sydd hefyd yn gartref i'n rhaglenni ôl-raddedig mewn Gwybodeg Iechyd a Gwyddor Data Iechyd.

Rhannu'r stori