Menyw yn ffenest yn wisgo masg

"Mae pandemig COVID-19 wedi rhoi ffocws pendant ar ba mor gyfyngedig yw ein hadnoddau iechyd a gofal" Dr Berni Sewell

Rhaglenni adsefydlu personol ar gyfer cleifion â Covid hir yn cael eu datblygu fel rhan o brosiect ymchwil newydd diolch i £1.1 miliwn o gyllid gan lywodraeth y DU

Mae pobl sydd â Covid hir yn profi amrywiaeth eang o broblemau parhaus fel blinder ac anhawster gyda thasgau bob dydd, sy'n golygu y gallant ei chael hi'n anodd dychwelyd i'w bywydau blaenorol. Gall hyn wedyn gael ei waethygu gan ansicrwydd a diffyg dealltwriaeth ynghylch y diagnosis.

Nid oes unrhyw opsiynau triniaeth go iawn ar hyn o bryd, felly mae datblygu ymyriadau effeithiol i helpu pobl i ymdopi â'u cyflwr a'u goresgyn yn hanfodol i'r grŵp hwn o gleifion sy'n cynyddu ond sydd heb ei wasanaethu'n ddigonol.

Mae'r prosiect, a elwir yn LISTEN, wedi'i ariannu drwy'r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (NIHR). Mae'n dwyn ynghyd arbenigedd o St George's, Prifysgol Llundain a Phrifysgol Kingston, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe ac mae'n cynnwys dylunio a gwerthuso ymyriad hunanreoli ar gyfer pobl sy'n dioddef o Covid hir.

Mae cynigion ar gyfer y ffyrdd newydd hyn o gefnogi pobl â Covid hir yn cynnwys llyfr, adnoddau digidol a phecyn hyfforddi newydd ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol. Bydd ymchwilwyr prosiect nid yn unig yn dadansoddi pa mor effeithiol yn glinigol yw'r ymyriad, ond hefyd pa mor effeithiol yw'r ymyriad o ran cost.

Fel yr esbonia Dr Berni Sewell, Uwch-ddarlithydd yng  y Brifysgol yn yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

"Mae pandemig COVID-19 wedi rhoi ffocws pendant ar ba mor gyfyngedig yw ein hadnoddau iechyd a gofal. Ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau bod pob ymyriad newydd nid yn unig yn effeithiol ond hefyd yn effeithiol o ran cost.

Mae cymryd rhan fel economegwyr iechyd yn astudiaeth LISTEN yn gyfle gwych i gefnogi datblygiad ymyriad sy'n gwella canlyniadau a phrofiadau ar gyfer y grŵp hwn o gleifion sy'n cynyddu'n gyflym, gan sicrhau hefyd ein bod yn cynnal ein gwasanaeth iechyd ac ansawdd y gofal ar gyfer y dyfodol."

Rhannu'r stori