
Yma ym Mhrifysgol Abertawe rydym wedi ymateb i bob her y mae Covid-19 wedi'i thaflu atom.
Mae'n bleser gennyf eich croesawu i rifyn diweddaraf ein Cylchgrawn Pulse. Unwaith eto, mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi arwain at newid ac ansicrwydd na welwyd eu tebyg o'r blaen. Ond wrth i ni ddod allan o'r pandemig, rydym wedi ymfalchïo'n fawr mewn edrych yn ôl ar lwyddiannau ein staff a llwyddiannau ein myfyrwyr - ar lefelau academaidd a phersonol.
Drwy gydol y cyfnod anodd hwn, rydym wedi gweld lles ac iechyd meddwl yn dod i'r amlwg yn llygad y cyhoedd ac, yma yn Abertawe, mae'r rhain yn feysydd o ddiddordeb ymchwil hirsefydlog. Ar ôl y pandemig, rydym wedi gweld cynnydd - a diddordeb - mawr yn ein hymchwil i iechyd meddwl pobl ifanc yn benodol, sydd yn ei dro yn dylanwadu ar bolisïau a chynlluniau ar gyfer y dyfodol ar lefel genedlaethol.
Rwy'n falch o gyflawniadau staff a myfyrwyr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf; maent wedi dangos dewrder a gwydnwch mawr drwy oresgyn adfyd yn uniongyrchol, wrth barhau i gefnogi ein cymuned leol, ei gilydd a'r GIG. Bydd y rhifyn hwn o Pulse yn rhoi cipolwg i chi o rywfaint o'r gwaith anhygoel, a gynhaliwyd eleni ac rwy'n mawr obeithio y gallwch weld eich hun fel rhan o'n cymuned wych yn y dyfodol.
Mae ar y byd angen pobl ddisglair, ofalgar a phenderfynol yn fwy nag erioed, pobl fel chi! Edrychaf ymlaen at eich croesawu a'ch gweld chi yn Abertawe yn fuan iawn.
Keith Lloyd
Yr Athro Keith Lloyd
Dirprwy Is-ganghellor a Deon Gweithredol