
Mae Ei Huchelder Brenhinol Iarlles Wessex yn cwrdd â chleifion yn Abertawe i helpu i dorri'r stigma o greithio wynebau
Mae gan un o bob 100 o bobl yn y DU wahaniaeth sylweddol yn yr wyneb a gall hyn gael effaith ddofn ar iechyd meddwl.
Mae rhaglen ymchwil o'r radd flaenaf i chwyldroi gallu llawfeddygon i ailadeiladu cartilag trwyn a chlustiau mewn cleifion y mae gwahaniaeth wyneb yn effeithio arnynt wedi'i lansio yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.
Wedi'i ariannu gan Sefydliad Scar Free, yr unig elusen ymchwil feddygol sy'n canolbwyntio'n gyfan gwbl ar greithio, ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, bydd y rhaglen tair blynedd yn cael effaith fyd-eang, gan hyrwyddo nid yn unig bioargraffu 3D o gartilag ond hefyd archwilio sut mae creithiau wyneb yn effeithio ar iechyd meddwl drwy ddadansoddi data o garfan fwyaf y byd o bobl sy'n byw gyda chreithiau wyneb.
Esbonia'r Athro Syr Bruce Keogh, o Sefydliad Scar Free:
"Mae rhoi'r gallu i lawfeddygon yn y dyfodol ail-greu wynebau pobl gan ddefnyddio eu celloedd eu hunain heb fod angen creithiau pellach yn chwyldroadol."
Bydd y rhaglen arloesol yn datblygu bioargraffu 3D gan ddefnyddio celloedd stem/hynafiad sy'n benodol i gartilag dynol a nanoseliwlos (sy'n deillio o blanhigion) fel bio-inc ar gyfer ailadeiladu'r wyneb. Bydd y prosiect yn cynnwys astudiaethau gwyddonol i bennu'r cyfuniad delfrydol o gelloedd i dyfu cartilag newydd a fydd yn arwain at dreialon clinigol dynol ar gyfer ailadeiladu'r wyneb.
Mae'r ymchwil yn cael ei harwain gan yr Athro Iain Whitaker, Cadeirydd Llawfeddygaeth Blastig yn yr Ysgol Feddygaeth, sydd hefyd yn bennaeth ar grŵp ymchwil llawfeddygaeth blastig mwyaf y DU, yn rhan o'r tîm yng Nghanolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru yn Ysbyty Treforys ac Arweinydd Arbenigol Llawfeddygol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Ychwanega:
"Ochr yn ochr â'r ymchwil i beirianneg meinweoedd a bioargraffu 3D, rydym yn dadansoddi'n feirniadol lwybrau cleifion ym maes rheoli canser y croen ac yn defnyddio technolegau arloesol fel deallusrwydd artiffisial i chwyldroi'r llwybrau cleifion hyn."
Mae'r cydweithrediad ymchwil arloesol hwn yn pontio bylchau ar draws disgyblaethau i fynd i'r afael â'r heriau a brofir gan y rhai sydd â chreithiau wyneb, gan ddod â llawfeddygon ac ymchwilwyr iechyd meddwl at ei gilydd o dan yr un to i fynd i'r afael â'r gofal iechyd corfforol a meddyliol sydd ei angen ar gyfer adferiad cychwynnol a byw bywyd llawn wedi hynny.
Ym mis Mawrth 2022, ymwelodd Ei Huchelder Brenhinol Iarlles Wessex, noddwr y Sefydliad Scar Free, â'r rhaglen ymchwil ailadeiladu wynebau sy'n arwain y byd yn Sefydliad Gwyddor Bywyd yr Ysgol Feddygaeth, gan gwrdd â llysgenhadon a chleifion a allai elwa ar yr astudiaethau arloesol.
Roedd Prif Lysgennad Sefydliad Scar Free, Cyn-filwr gwrthdaro'r Falklands, Simon Weston, yn cadw cwmni i Iarlles Wessex.
Dywedodd Mr Weston, sydd â chreithiau dros 85-90 y cant o'i gorff ar ôl i fom daro ei long yng ngwrthdaro’r Falklands:
"Mae'r cyfle i ailadeiladu hyder pobl sydd ag anffurfiadau i'r wyneb a'r corff yn aruthrol. Ni allwch newid yr hyn sy'n digwydd i bobl ond drwy'r ymchwil a'r datblygiad hwn gallwch newid eu dyfodol."