Mae’r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd yn y 5 uchaf yn y DU am Feddygaeth (Times Good University Guide 2023), y 10 uchaf ar gyfer Nyrsio (Complete University Guide 2023), ac mae 85% o’n hymchwil yn cael ei chydnabod fel un sy’n fyd arweiniol neu’n rhyngwladol wych (REF2021). Rydym yn cynnig cyfleoedd israddedig ac hefyd ôl-raddedig i fyfyrwyr rhyngwladol gymhwyso fel Meddyg, Nyrs, Seicolegydd neu Wyddonydd Bywyd.

Ein cenhadaeth yw gwella iechyd, cyfoeth a llesiant cymunedau’n lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Trwy ein hysbryd o arloesi agored, fe ddown â’r byd academaidd a menter ynghyd i greu cyfleoedd dysgu unigryw i’n myfyrwyr. Mae timau, digwyddiadau ac ysgoloriaethau rhyngwladol ymroddedig wedi'u cynllunio i'ch cynorthwyo i gyflawni eich nodau gyrfa. Byddwn yn eich arwain trwy bob cam i ymuno â ni, gan greu trosglwyddiad di-dor o'r cais hyd at eich graddio.

£1.5 miliwn mewn Ysgoloriaethau Ar Gael

Myfyrwyr mewn darlith

Digwyddiadau Gwybodaeth Myfyrwyr Rhyngwladol sydd i'w ddod

Rydym yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau, wedi'u teilwra ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol gyda'r nod o'ch cefnogi i benderfynu beth a ble i astudio. Mae ein tîm rhyngwladol ymroddedig wrth law i ateb eich cwestiynau am gyrsiau a chyllid a bydd yn darparu'r cyngor a'r cymorth personol sydd eu hangen arnoch i helpu i gymryd y camau nesaf i ddechrau eich astudiaethau ym Mhrifysgol Abertawe.

Diwrnodau Agored Ôl-raddedig

Ein Cyrsiau

Cyrsiau Gwyddor Bywyd

Ers ei sefydlu, mae'r Ysgol Feddygaeth wedi rhoi pwyslais ar gael effaith ar ymarfer clinigol ac iechyd. Trwy astudio gradd Meistr Biofeddygol neu Wyddor Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe, byddwch yn dysgu ac yn hyfforddi mewn amgylchedd ymchwil sy'n arwain y byd gyda chysylltiadau cryf â diwydiant. Mae ein hymchwil a’n perthynas â diwydiant yn llywio ein cwricwlwm. Bydd hyn yn sicrhau eich bod ar flaen y gad o ran gwybodaeth am wyddoniaeth fiofeddygol a bydd y sgiliau a ddysgwn i chi yn cael eu galw’n fawr gan gyflogwyr.

Archwiliwch ein Cyrsiau sy'n Agored i Fyfyrwyr Rhyngwladol:

 

Iechyd y Cyhoedd a Rheoli Gofal Iechyd Llwybr at feddygaeth Graddau Gofal Iechyd Clinigol Cyrsiau Seicoleg

Dewch i gwrdd â'n Tîm Cynghorwyr Myfyrwyr Rhyngwladol

Os oes gennych gwestiynau am astudio cwrs Meddygaeth, Iechyd neu Wyddor Bywyd yn Abertawe, boed yn ofynion mynediad, profiad myfyrwyr, gyrfaoedd neu ffioedd, cyllid ac Ysgoloriaethau. Beth am fynychu 1-2-1 gyda'n Tîm Cynghorwyr Myfyrwyr Rhyngwladol.

Archebu 1-2-1

Miss Cecilia Wu

Rheolwr Rhyngwladoli a Recriwtio, Medicine Health and Life Science

Miss Bethany Sawyer

Swyddog Recriwtio Rhyngwladol y Gyfadran, Medicine Health and Life Science
+44 (0) 1792 606368
Miss Lucie Sinnott

Miss Lucie Sinnott

Cydlynydd Cyfnewid ac Astudio Dramor y Gyfadran, Medicine Health and Life Science

Mr Adam Holley

Gweinyddwr Recriwtio Rhyngwladol y Gyfadran, Medicine Health and Life Science

Recordiadau Diwrnodau Agored

Cyflwyniad Diwrnod Agored Seicoleg

Rhag ofn i chi ei golli, dyma Dr Martin Quigley, darlithydd yn ein Hysgol Seicoleg, yn rhoi cyflwyniad yn ein Diwrnod Agored diweddaraf am astudio Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe.

Gweminarau Myfyrwyr Rhyngwladol

Darlith Blasu - Fferylliaeth

Darlith Blasu - Fferylliaeth

NYRS OEDOLION BSC - CANLLAW MYFYRWYR RHYNGWLADOL

Ymunwch â'n seminar gwybodaeth ar astudio Nyrsio Oedolion yn Abertawe fel myfyriwr Rhyngwladol

Cliciwch yma i'w wylio

CYRSIA IECHYD YN ABERTAWE - CANLLAW MYFYRWYR SAUDI ARABIA

Ymunwch â'n seminar gwybodaeth ar astudio cyrsiau iechyd yn Abertawe fel myfyriwr sy'n gwneud cais o

Cliciwch yma i'w wylio

CYFLWYNIAD I GWYBODEG IECHYD

Ymunwch â'n sesiwn i ddysgu mwy am gyrsiau iechyd fel myfyrwyr sy'n ymgeisio o Nigeria a Ghana

Cliciwch yma i'w wylio