Mae bwrsariaeth Dr Sharon James yn cynnig pedair bwrsari o £1,200 i fyfyrwyr benywaidd o Gymru. Mae'r bwrsariaethau wedi'u cyfyngu i'r rhai sy'n astudio cyrsiau clinigol yn ein Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd. Mae’r cyrsiau hyn yn darparu’r sgiliau mwyaf angenrheidiol i unigolion o fewn y GIG, ac maent yn cynnwys: Gwyddorau Gofal Iechyd, Nyrsio, Bydwreigiaeth, Gwyddor Barafeddygol, Therapi Galwedigaethol ac Ymarfer yr Adran Llawdriniaethau.
Rydym wedi ymrwymo i ehangu mynediad i'n cyrsiau gofal iechyd a chlinigol. Felly, dim ond i fyfyrwyr benywaidd o Gymru sydd hefyd yn bodloni meini prawf Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru y mae’r fwrsariaeth yn agored.
Pwy yw Dr Sharon James?
Yn wreiddiol o ardal Aberteifi, mae Dr Sharon James ar hyn o bryd yn aelod o Fwrdd Cwmnïau Gofal Iechyd a Biotechnoleg yn Sweden (Mölnlycke), Denmarc (Novozymes) a Chanada (Algae-C) lle mae hi’n ddi-baid yn ei hymdrech i arloesi a darparu gwelliannau ansawdd bywyd i ddefnyddwyr a chleifion. Mae hi hefyd yn credu’n gryf bod gennym ddyletswydd absoliwt i ofalu am yr amgylchedd ac wedi dod yn ddylanwadir cryf ac yn hyrwyddwr ar agendâu Cynaliadwyedd cwmnïau ei Bwrdd.
Mae ganddi flynyddoedd lawer o brofiad rhyngwladol ar lefel Prif Swyddog Technoleg/Bwrdd mewn cwmnïau byd-eang o’r radd flaenaf (Bayer, Reckitt, PepsiCo) lle bu’n arwain a thrawsnewid timau Ymchwil a Datblygu byd-eang mawr yn y sectorau Aelwydydd a Gofal Iechyd. Ei chenhadaeth bersonol erioed fu grymuso defnyddwyr a chleifion i wneud dewisiadau sy'n cefnogi eu hiechyd personol - gan gredu'n gryf bod y gallu i reoli eich iechyd a'ch lles eich hun yn hawl ddynol sylfaenol i bawb. I'r perwyl hwnnw, mae hi wedi cyflawni arloesedd iechyd trawsffurfiol sy'n cael ei garu gan ddefnyddwyr yn rhyngwladol.
Mae hi'n eiriolwr cryf a lleisiol dros fenywod mewn gwyddoniaeth ac yn gweithredu fel mentor i lawer o weithwyr proffesiynol ifanc benywaidd. Mae hi wedi ymrwymo i agor y drysau i addysg wyddoniaeth i ferched ifanc trwy raglenni STEM a sefydlodd y mudiad ‘Making Sense of Science’ ar gyfer Bayer USA i annog plant i astudio a chofleidio gwyddoniaeth.
Mae’r cynllun bwrsariaeth hwn yn dangos ymrwymiad cadarn Sharon i gefnogi pobl ifanc, yn enwedig menywod, drwy roi cyfleoedd iddynt gyflawni eu potensial. Ar ôl dod o gefndir dosbarth gweithiol ei hun, mae hi’n deall yn iawn y rhwystrau a’r heriau y gall cyfyngiadau ariannol eu cyflwyno. Mae Prifysgol Abertawe yn hynod ddiolchgar i Sharon am ddarparu'r gefnogaeth hollbwysig hon ac edrychwn ymlaen at ddyfarnu'r set gyntaf o Fwrsariaethau Sharon James yn 2023.