Byw Ym Mhentref Myfyrwyr Hendrefoelan
Gelwir Pentref Myfyrwyr Hendrefoelan hefyd yn HSV neu 'Y Pentref'. Mae'r safle mawr hwn oddi ar y campws yn boblogaidd ymhlith myfyrwyr sy'n dymuno byw ar safle oddi ar y campws sy'n rhatach ac sy'n cynnig amgylchedd cymdeithasol. Mae'n gartref i fyfyrwyr yn y flwyddyn gyntaf, ôl-raddedigion a myfyrwyr sy'n dychwelyd.
Mae Hendrefoelan yn gartref i 686 o fyfyrwyr ac fe'i lleolir mewn ardal breswyl. Mae'r Pentref o fewn pellter cerdded i siopau, tafarndai a siopau cludfwyd lleol. Mae hefyd yn cynnig golchdy ac ardaloedd barbeciw ar y safle.
Mae'n ddwy filltir o Gampws Parc Singleton, ac mae preswylwyr Pentref Myfyrwyr Hendrefoelan gyda thenantiaethau dros 13 wythnos yn derbyn tocyn bws am ddim ar gyfer y flwyddyn academaidd (sy'n costio £300 fel arfer). Mae gwasanaethau bysus yn teithio'n rheolaidd i'r ddau gampws ac i ganol y ddinas, ac maent yn cynnig WiFi am ddim wrth deithio.
Mae Pentref Myfyrwyr Hendrefoelan hefyd yn cynnig parcio ceir 24 awr y dydd am hyd eich tenantiaeth, felly mae'n ddewis gwych os ydych yn bwriadu dod â char.
Mae'r holl lety ym Mhentref Myfyrwyr Hendrefoelan yn cynnig WiFi am ddim ynghyd â llety hunanarlwyo gyda chyfleusterau cegin ac ymolchi a rennir.
Mae'r ffi a ddengys yn seiliedig ar ffi blwyddyn academaidd 2021-22. Gallwch ddarllen ein tudalen ffioedd i gael rhagor o wybodaeth am y prisiau a'r wybodaeth o ran talu.