Gydag amrywiaeth eang o opsiynau llety, bydd digon o ddewis gennych wrth benderfynu ble i ymgartrefu ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae llety yn chwarae rhan bwysig mewn bywyd myfyriwr, ac mae byw mewn llety prifysgol yn ychwanegu elfen unigryw at eich profiad. Mae ein preswylfeydd croesawgar a diogel yn cael eu cynnal yn dda ac yn darparu mynediad at gyfleusterau gwych, sy'n eich helpu i ymgartrefu ym mywyd prifysgol.
Gallwch ddewis eich cartref o opsiynau ar draws Campws Parc Singleton, Campws y Bae, true Student, Seren, Tŷ Beck a thai a fflatiau a rennir yn y Sector Preifat. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am bob opsiwn isod i weld beth sydd orau i chi.
Rydyn ni’n cynnig llety dynodedig, llety ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn unig, yn ogystal ag ystafelloedd hygyrch ac ystafelloedd a addaswyd ar gyfer myfyrwyr â gofynion arbennig. Bydd ein tîm llety’n eich cefnogi drwy’r broses cyflwyno cais er mwyn gwneud y dewis gorau ar gyfer eich anghenion.
Campws Y Bae
Mae Campws y Bae yn gartref Peirianneg, yr Ysgol Reolaeth a'r Ffowndri Gyfrifiadol. Serch hynny mae llety yma ar gael i fyfyrwyr ar unrhyw gwrs, ac mae gwasanaethau bws rheolaidd ac uniongyrchol rhwng y campysau.
Campws y Bae yw un o'r unig gampysau prifysgol yn y Deyrnas Unedig â mynediad uniongyrchol i'r traeth a'i bromenâd glan môr ei hun.
Mathau o lety ar Gampws y Bae – ystafelloedd pâr o welyau, en suite, en suite premiwm, hygyrch i gadeiriau olwyn a fflatiau 1 neu 2 ystafell wely.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am fyw ar Gampws y Bae.
Campws Parc Singleton
Campws Parc Singleton sy’n gartref i’r Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yr Ysgol Seicoleg, Ysgol y Biowyddorau, Daearyddiaeth, Ffiseg, Yr Ysgol Feddygaeth, ac Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton. . Gall myfyrwyr sy'n astudio unrhyw bwnc fyw ar Gampws Parc Singleton a cheir gwasanaeth bws rheolaidd ac uniongyrchol rhwng y campysau.
Mae holl breswylfeydd Campws Parc Singleton o fewn pellter cerdded i'r parc, Pentref Chwaraeon Bae Abertawe, Ysbyty Singleton a Bae Abertawe.
Mae Campws Singleton yn cynnig ystafelloedd en suite a rhai safonol, fflatiau hunanarlwyo ac arlwyo'n rhannol yn ogystal ag opsiynau bwyta y telir amdanynt ymlaen llaw.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am fyw ar Gampws Parc Singleton.
Tŷ Beck
Mae Tŷ Beck yn cynnwys 6 thŷ tref Fictoraidd mawr yn ogystal â chymysgedd o lety a rennir a llety sengl sy'n cynnig llety o ansawdd i deuluoedd, parau a myfyrwyr aeddfed.
Mae yn ardal Uplands Abertawe, sef 1.5 milltir o Gampws Parc Singleton ac mae gan Dŷ Beck siopau, bariau, caffis, banciau, bwytai i gyd o fewn pellter cerdded. Mae maes parcio am ddim gan Dŷ Beck hefyd.
Mae Tŷ Beck yn safle bach a chyfeillgar sy'n opsiwn poblogaidd a fforddiadwy ar gyfer myfyrwyr aeddfed, myfyrwyr ôl-raddedig, teuluoedd, parau a myfyrwyr rhyngwladol.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am fyw yn Nhŷ Beck.
Dewisiadau Yng Nghanol Y Ddinas
true Swansea
Gyda golygfa heddychlon ar draws afon Tawe, mae llety myfyrwyr true Swansea yn lleoliad delfrydol ar gyfer bywyd prifysgol yn y ddinas. Yn daith fer o'r ddau gampws, ar Heol Morfa yng nghanol y ddinas, mae true Student yn cynnig ystafelloedd en suite mewn fflatiau i 5 a 6 ac ystafelloedd preifat ar ffurf stiwdios, â chegin fach ac ystafell ymolchi en suite foethus.
Rhagor o wybodaeth am fyw yn true Swansea.
Seren
Yng nghanol y ddinas gyferbyn â Gorsaf Drenau Abertawe, mae Seren yn dweud llawer mwy nag ystafelloedd gwely mewn swyddfa.
Hanner ffordd rhwng Campws Parc Singleton a Champws y Bae, bydd gennych ddewis o wahaniaeth i'w ddefnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau.
Mae gan bob ystafell wely ystafell ymolchi en suite a theledu 32". Mae ystafelloedd stiwdio hefyd yn cynnwys cegin fach hapus yn yr ystafell.
Rhagor o wybodaeth am fyw yn Seren.
Pentref Myfyrwyr Hendrefoelan
Mae Pentref Myfyrwyr Hendrefoelan yn cau ym mis Mehefin 2023, ac ni fyddwch yn gallu cyflwyno ceisiadau amdano wedi hynny.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Bentref Myfyrwyr Hendrefoelan.
Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol