Beth yw cost llety?

Dwy fyfyrwraig yn eistedd ar fainc y tu allan i Tafarn Tawe

Mae ffioedd llety yn amodol ar y fath o ystafell sydd gennych. Mae gennym ni ystod eang o lety felly mae’r ffioedd yn amrywio hefyd.

Caiff ffioedd eu cyfrifo gan ddefnyddio nifer o ffactorau gan gynnwys maint yr ystafell (mae ystafelloedd mwy yn costio £5 i £6 yr wythnos yn fwy ar gyfartaledd) os oes gennych chi ystafell ymolchi a rennir neu ystafell ymolchi en-suite, yn hunanarlwyo neu wedi dewis yr opsiwn talu ymlaen llaw am ginio .

Mae eich ffioedd llety hefyd yn cynnwys eich holl gyfleustodau, y rhyngrwyd, ac yswiriant ar gyfer yr ystafell.

Caiff y dudalen hon ei diweddaru unwaith bydd prisiau Blwyddyn Academaidd 2023-24 wedi’u cyhoeddi (ar gyfer myfyrwyr sy’n cyrraedd ym mis Medi 2023).

Sut i Dalu