Y Tîm Cymuned
Rhif ffôn: +44 (0) 1792 606746
Oriau Agor: 09:00 - 16:00
E-bost: Cymuned@BywydCampws
Penodwyd ein Swyddog Cyswllt Cymunedol i weithio gyda myfyrwyr sy'n astudio ac yn byw yn Abertawe, preswylwyr lleol a chymunedau yn y ddinas. Mae swydd y Swyddog Cyswllt Cymunedol yn bartneriaeth a ariennir gan Brifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Heddlu De Cymru a Dinas a Sir Abertawe.
Bydd y Swyddog Cyswllt Cymunedol yn bwynt cyswllt i fyfyrwyr a phreswylwyr ag ymholiadau, pryderon neu gwynion, a bydd yn gweithio i hyrwyddo’r holl fuddion y mae poblogaeth fywiog o fyfyrwyr yn dod â hwy i gymunedau ac economïau lleol. Mae hefyd yn brif gyswllt ar gyfer preswylwyr sydd am godi unrhyw faterion yn ymwneud â myfyrwyr o Brifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant neu Goleg Gŵyr sy’n byw yn y gymuned leol.