Mae meddu ar amrywiaeth o sgiliau bywyd yn eich galluogi i ddelio ag anawsterau a thrallodion anochel bywyd yn fwy effeithiol. Pan fydd gennych yr arfau a’r strategaethau cywir i’w defnyddio, bydd gennych fwy o reolaeth dros eich bywyd ac felly byddwch yn hapusach, yn gryfach a mwy cynhyrchiol.
Mae cyflogwyr hefyd yn edrych am fyfyrwyr sy’n unigolion crwn a gall Sgiliau Bywyd fod yn gymorth yn hyn o beth. Efallai na fydd cyflogwyr yn gofyn mewn cyfweliad a ellwch chi ferwi wy, ond efallai y byddant yn gofyn a ydych chi‘n gyfforddus yn siarad yn gyhoeddus neu yn gofyn i chi arddangos sgiliau creadigol. Bydd y sesiwn Sgiliau Bywyd – Adeiladu Hyder neu sesiwn Golygu Lluniau Digidol yn rhoi ychydig o dystiolaeth i chi siarad amdani.