Trosolwg o'r Cwrs
Os ydych chi am astudio'r Gyfraith ac mae gennych eisoes radd mewn disgyblaeth wahanol o'r tu allan i'r DU, yna mae'r LLB Statws Uwch drwy ddwy flynedd i chi.
Byddwch yn dysgu sut mae'r systemau cyfiawnder cyfreithiol a throseddol yn gweithio yng Nghymru a Lloegr ac yn cael sylfaen gynhwysfawr yn y saith maes sy'n rhan o radd yn y gyfraith; Cyfraith Contract, Cyfraith Droseddol, Cyfraith Tir, Ecwiti ac Ymddiriedolaethau, Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd, Cyfraith Camweddau a Chyfraith Gyhoeddus.
Ochr yn ochr â'r modiwlau gorfodol, gallwch astudio modiwlau dewisol o amrywiaeth o feysydd pwnc, gan gynnwys Cyfraith Teulu, Cyfraith Cyflogaeth, Seiberdroseddu, Cyfraith Cystadlu, a Chyfraith Feddygol.
Trwy gydol eich gradd Statws Uwch byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil a dadansoddi ardderchog a’r gallu i gyfleu eich syniadau’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Mae ein holl raglenni israddedig y Gyfraith yn cynnwys sylfeini gwybodaeth gyfreithiol y mae ei hangen i ddechrau gyrfa fel cyfreithiwr. Mae ein rhaglenni’n darparu sylfaen gadarn i fyfyrwyr sydd am sefyll yr Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) yn y dyfodol, ac yn bodloni cyfnod academaidd yr hyfforddiant sy’n ofynnol gan Fwrdd Safonau’r Bar i’r myfyrwyr sydd am fod yn fargyfreithwyr.