Ymunwch â’n cymuned gyfeillgar a ffyniannus o fyfyrwyr israddedig

Ein dull gweithredu yw cynnig cefnogaeth addysgol eithriadol, cwricwlwm cynyddol gyda dewis eang o fodiwlau a phrofiad wedi’i bersonoleiddio.

Mae ein rhaglenni israddedig yn ddysgir mewn darlithoedd, grwpiau trafod a seminarau rhyngweithiol gan academyddion sydd â phrofiad helaeth yn y diwydiant.

Mae galw mawr am ein graddedigion gan gyflogwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, ac mae llawer ohonynt yn aros yn Abertawe ar gyfer astudiaethau ôl-radd.

 

LLB y Gyfraith – 3 blynedd (4 blynedd gydag Astudio Dramor)

Cewch ganolbwyntio’ch astudiaethau ar y gyfraith yn unig a dewis o amrywiaeth eang o fodiwlau dewisol i deilwra’ch gradd i’ch diddordebau chi.

LLB y Gyfraith gan Troseddeg – 3 blynedd (4 blynedd gydag Astudio Dramor)

Enillwch ddealltwriaeth ymarferol am troseddoldeb, erledigaeth, y system cyfiawnder troseddol ochr yn ochr â gradd yn y gyfraith.

LLB Cyfraith Busnes – 3 blynedd (4 blynedd gydag Astudio Dramor)

Canolbwyntiwch ar bob agwedd ar gyfraith busnes a masnachol, ac arbenigo mewn meysydd megis cyfraith cwmnïau, cyfraith cystadlu a chyfraith fasnachol ryngwladol.

LLB y Gyfraith Statws Uwch – 2 flynedd 

Gradd y gyfraith sy'n cael ei haddysgu dros ddwy flynedd i raddedigion heb radd y gyfraith o'r tu allan i'r DU.