Sgip i brif cynnwys Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
  1. Hafan
  2. Israddedig
  3. Cyrsiau Israddedig
  4. Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cymhwysol
  5. Peirianneg Gemegol Cyrsiau Israddedig
  6. Peirianneg Gemegol, BEng (Anrh)
  • Astudio
    • Diwrnodau Agored yn Abertawe
      Three students walking through Bay Campus in the Sun

      Rydyn ni'n disgwyl ymlaen at eich crosawu chi!

      Ymweld â ni
    • Israddedig
      • Cyrsiau
      • Llety
      • Canllaw Rhieni a Gwarcheidwaid I'r Brifysgol
      • Diwrnodau Agored
      • Sut i wneud cais
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Cadwch mewn cysylltiad
    • Ôl-raddedig
      • Cyrsiau
      • Rhaglenni Ymchwil
      • Diwrnod Agored
      • Sut i Wneud Cais
      • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
      • Y Brifysgol
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Cadwch mewn cysylltiad
    • Bywyd Myfyriwr
      • Astudio
      • Pam Abertawe
      • Bywyd y campws
      • Chwaraeon
      • Cynaliadwyedd - Cymrwch Ran
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
      • Taith Rhithwir
      • Beth yw Gŵyl y Glas?
    • Gwasanaethau i Fyfyrwyr
      • Llyfrgelloedd ac Archifau
      • BywydCampws
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe
      • Menter Myfyrwyr
      • Canolfan Llwyddiant Academaidd
      • Academi Hywel Teifi
      • Llesiant myfyrwyr
  • Rhyngwladol
  • Ein Ymchwil
    • Gwnewch Ymchwil Gyda Ni
      • Cefnogi eich taith ymchwil ôl-raddedig
      • Dod o hyd i raglen ymchwil ol-raddedig
      • Sut i wneud cais am raglen ymchwil Ôl-raddedig
      • Hyfforddiant a Datblygiad i Oruchwylwyr a Myfyrwyr Ymchwil
    • Archwiliwch ein hymchwil
      • Uchafbwyntiau Ymchwil
      • Ymchwil yn y cyfadrannau
      • Momentum - ein cylchgrawn ymchwil
      • Archwilio Problemau Byd-eang
    • Darganfyddwch ein hymchwil
      • Cyfeiriadur Arbenigedd
      • Dod o hyd i bapur ymchwil
      • Manteisio ar ein Harbenigedd ym maes Ymchwil a Datblygu
    • Ein Hamgylchedd Ymchwil
      • Uniondeb Ymchwil: Moeseg a Llywodraethu
      • Effaith ymchwil
      • Hyfforddiant a datblygiad
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
    • Ein Cenhadaeth Ddinesig
      • Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe
      • Gŵyl Bod yn Ddynol
      • Oriel Science
      • Byd Copr Cymru
  • Busnes
  • Cyn-fyfyrwyr
  • Y Brifysgol
    • Swyddfa'r Wasg
      Female student working with steel

      Newyddion a Ymchwil Diweddaraf straeon

      Darllenwch y newyddion diweddaraf yma
    • Y Brifysgol
      • Amdanom ni
      • Sut i ddod o hyd i ni
      • Dyfarniadau a Safleoedd y Brifysgol
      • Ein Cyfadrannau
      • Swyddfa'r Wasg
      • Swyddi a Gweithio yn Abertawe
      • Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Abertawe
      • Teithio i’r campws ac oddi yno
      • Cysylltu â ni
    • Chwaraeon
      • Bod yn Actif
      • Cynghreiriau Cymdeithasol
      • Clybiau Chwaraeon
      • Perfformiad
      • Cyfleusterau
      • Nawdd
      • Ysgoloriaethau
      • Newyddion
    • Bywyd y campws
      • Llety
      • Arlwyo
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Y Neuadd Fawr
      • Taliesin
      • Creu Taliesin
      • Ein Tiroedd
      • Cerddoriaeth
      • Rhithdaith
    • Ein Cyfadrannau
      • Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
      • Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
      • Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
      • Y Coleg
    • Academïau
      • Academi Iechyd a Llesiant
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA)
      • Academi Hywel Teifi
      • Academi Cynwysoldeb Abertawe (SAI)
  • Newyddion a Digwyddiadau
  • Cefnogaeth a Lles
  1. Hafan
  2. Israddedig
  3. Cyrsiau Israddedig
  4. Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cymhwysol
  5. Peirianneg Gemegol Cyrsiau Israddedig
  6. Peirianneg Gemegol, BEng (Anrh)

Peirianneg Gemegol, BEng (Anrh)

Tudalennau cysylltiedig
  • Ein Cyfadrannau
  • Cyrsiau Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig r Ysgol Peirianneg Awyrofod, Sifil, Drydanol, Peirianneg Gyffredinol a Mecanyddol
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol y Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cymhwysol
      • Cemeg Cyrsiau Israddedig
      • Peirianneg Gemegol Cyrsiau Israddedig
        • Peirianneg Gemegol, BEng
        • Peirianneg Gemegol, MEng
        • Peirianneg Gemegol gyda Blwyddyn Sylfaen, BEng
      • Peirianneg Defnyddiau Cyrsiau Israddedig
      • Peirianneg Fiomeddygol Cyrsiau Israddedig
      • Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, BSc
    • Cyrsiau Israddedig Iechyd a Gofal Cymdeithasol
    • Cyrsiau Israddedig y Gyfraith
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Reolaeth
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Mathemateg a Chyfrifiadureg
    • Cyrsiau Meddygaeth Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol Seicoleg
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
    • Cyrsiau Is-raddedig yn dod yn fuan!
    • Gofynion mynediad
  • Cysylltu â'r tîm derbyn israddedig
  • Diwrnodau Agored Israddedig
  • Llety
  • Sut i wneud cais am gwrs israddedig
  • Clirio
  • Chwaraeon
  • Bywyd Myfyriwr
  • Ffioedd a Chyllid
  • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
  • Rhithdaith
  • Gwybodaeth i Rieni a Gwarcheidwaid
  • Prosbectws Israddedig
  • Pam Astudio yn Abertawe?
  • Beth yw UCAS Extra? Eich canllaw cynhwysfawr
  • Newidiadau rhaglen israddedig
  • Athrawon ac Ymgynghorwyr
  • Cyfres Gweminar Prifysgol Abertawe
Wedi'i achredu gan Institution of Chemical Engineers (IChemE)
Sicrwydd Ansawdd y DU
Ymgeisio

O ble ydych chi'n gwneud cais?

Gwneud cais fel myfyriwr o'r DU neu'r UE?

Dylai pob myfyriwr y DU neu'r UE wneud cais drwy UCAS

Ewch i UCAS

Gwneud cais fel myfyriwr rhyngwladol?

Mae gennym System Gwneud Cais uniongyrchol rhwydd a chyflym i fyfyrwyr rhyngwladol.

Ewch i'r System Gwneud Cais

Gall myfyrwyr rhyngwladol hefyd wneud cais drwy UCAS

Diwrnod Agored
Cadwch Mewn Cysylltiad
chemical engineering students

15 Uchaf yn y Deyrnas Unedig am Foddhad Myfyrwyr

(Complete University Guide 2023)

Manylion Allweddol y Cwrs

3 Blynedd Llawn Amser
Côd UCAS
H831
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
ABB-BBB
Lleoliad
Campws y Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2023 £ 9,000
4 Blynedd Llawn Amser Gyda Blwyddyn Dramor
Côd UCAS
H800
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
ABB-BBB
Lleoliad
Campws y Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2023 £ 9,000
4 Blynedd Llawn Amser Gyda Blwyddyn mewn Diwydiant
Côd UCAS
H832
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
ABB-BBB
Lleoliad
Campws y Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2023 £ 9,000
3 Blynedd Llawn Amser
Côd UCAS
H831
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol
ABB-BBB - Gwybodaeth Rhagor
Lleoliad
Campws y Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2023 £ 22,400
4 Blynedd Llawn Amser Gyda Blwyddyn Dramor
Côd UCAS
H800
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol
ABB-BBB - Gwybodaeth Rhagor
Lleoliad
Campws y Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2023 £ 22,400
4 Blynedd Llawn Amser Gyda Blwyddyn mewn Diwydiant
Côd UCAS
H832
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol
ABB-BBB - Gwybodaeth Rhagor
Lleoliad
Campws y Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2023 £ 22,400
Wedi'i achredu gan Institution of Chemical Engineers (IChemE)
Sicrwydd Ansawdd y DU

Trosolwg o'r Cwrs

Drwy astudio gradd mewn Peirianneg Gemegol, byddwch yn cael hyfforddiant arbenigol ar beirianneg prosesau modern, gan feithrin sgiliau dadansoddi a datrys problemau sy'n allweddol i gymhwyso peirianneg at ddiwydiant.

Mae peirianwyr cemegol yn gweithio'n agos â phrosesau sy'n troi deunyddiau crai yn gynhyrchion gwerthfawr i'w defnyddio gan bobl. Mae eu sgiliau'n sicrhau y caiff adnoddau naturiol eu defnyddio'n gynaliadwy, a bod sgil-gynhyrchion yn cael eu gwaredu mewn modd diogel ac ecogyfeillgar.

Mae'r cwrs gradd hwn sydd wedi'i achredu'n broffesiynol yn meithrin gwybodaeth a sgiliau ar draws y sbectrwm llawn o bynciau peirianneg gemegol, sy'n sicrhau bod pob drws ar agor i chi o ran eich dewisiadau gyrfa.

Pam Peirianneg Gemegol yn Abertawe?

  • Mae Peirianneg Gemegol ym Mhrifysgol Abertawe yn a'r 15 Uchaf yn y Deyrnas Unedig am Foddhad Myfyrwyr yn ôl The Complete University Guide 2023
  • Amgylchedd o 100% sy'n arwain y byd ac sy'n rhagorol yn rhyngwladol - Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (FRY) 2021
  • Yn y 250 gorau yn y Tablau QS o Brifysgolion y Byd 2023 
  • O fewn chwe mis i raddio, mae 96% o raddedigion Peirianneg Gemegol yn gyflogedig neu'n ymgymryd ag astudiaethau pellach (DHLE 2016/17)
  • Rydyn ni’n 10 yn y Deyrnas Unedig ar gyfer Boddhad Cyffredinol (NSS 2022)

Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle i chi dreulio BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT (UCAS H832) yn y DU neu dramor, gan roi profiad gwerthfawr yn y gweithle yn ogystal â chyflog sydd ar hyn o bryd dros £15,000 ar gyfartaledd. Darperir cymorth ac arweiniad I’ch helpu i sicrhau lleoliad.

Rydym hefyd yn cynnig cyfle i chi ASTUDIO DRAMOR (UCAS H800) mewn prifysgol bartner sy'n cyfoethogi'r radd, gan roi profiad diwylliannol ac ieithyddol gwerthfawr a all ehangu'ch gorwelion wrth drio am swydd.

Eich Profiad Peirianneg Gemegol

Ym Mhrifysgol Abertawe, mae gennym nifer o gyfleusterau peirianneg gemegol soffistigedig i gyfoethogi eich astudiaethau. Mae ein Labordy Cemegol Peilot yn cynnwys 15 o lwyfannau ar raddfa peilot sy'n cwmpasu ystod eang o weithrediadau uned.

Ymhlith y cyfleusterau eraill o'r radd flaenaf y byddwch yn gweithio â nhw o bosibl mae microsgopeg grym atomig, llwyfannau eplesu, cyseiniant plasmon arwyneb a phrofion adlyniad croeswasgu hydrodynamig.

Byddwch hefyd yn cael budd o amgylchedd ymchwil dynamig lle mae academyddion arloesol Prifysgol Abertawe yn arwain y ffordd mewn meysydd fel technolegau soffistigedig ar gyfer trin dŵr.

Cyfleoedd Cyflogaeth Peirianneg Gemegol

Mae graddedigion Peirianneg Gemegol ym Mhrifysgol Abertawe yn cael eu rhoi ar ben y ffordd i gael amrywiaeth o gyfleoedd ysgogol. Gallai eich dyfodol fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol. 

  • Peiriannydd Cemegol
  • Peiriannydd Ynni
  • Peiriannydd Petrolewm
  • Gwyddonydd Datblygu Cynhyrchion/Prosesau
  • Peiriannydd Mwyngloddio
  • Rheolwr Peiriannau Technegol
  • Peiriannydd Cymwysiadau
  • Peiriannydd Drilio Safle Ffynnon

Ymwadiad Rhaglen

Prosbectws Israddedig

Darganfyddwch eich prifysgol

Ewch ar rithdaith

virtual tour

Cynigion wedi'u gwarantu*

Astudio trwy'r Gymraeg

welsh medium

Sgwrsiwch â Myfyriwr Cyfredol

Dau fyfyriwr wrth gyfrifiadur

Modiwlau

Mae ein modiwlau yn seiliedig ar feysydd peirianneg gemegol sefydledig, a gellir eu cymhwyso at feysydd ynni, iechyd, bwyd, dŵr a'r amgylchedd. 

BEng 3 Year Full-time

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

FHEQ 4 Undergraduate / HECert
Modiwlau Gorfodol
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y Modiwl
Chemical Process PrinciplesSeptember-January10EG-100
Chemical Engineering LaboratorySeptember-January10EG-101
Heat TransferSeptember-January10EG-103
Chemical Engineering SkillsSeptember-January10EG-111
Engineering Mathematics 1 (Chem & Med)September-January10EG-118
Environmental Awareness for EngineersSeptember-January10EG-169
Engineering Mathematics 2 (Chem & Med)January-June10EG-117
Fluid Mechanics 1January-June10EG-160
Chemical Process Analysis and DesignJanuary-June10EGA102
Chemistry for EngineersJanuary-June10EGA109
Instrumental and Analytical ChemistryJanuary-June10EGA110
Chemical Engineering ScienceJanuary-June10EGA114

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

FHEQ 5 Undergraduate / HEDip
Modiwlau Gorfodol
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y Modiwl
Separation ProcessesSeptember-January10EG-200
Instrumentation Measurement and ControlSeptember-January10EG-206
Thermodynamics of Process DesignSeptember-January10EG-210
Fluid FlowSeptember-January10EG-211
Process and Pilot Plant Operations ASeptember-January10EG-220
Statistical Techniques in EngineeringSeptember-January10EG-285
Biochemical Engineering IJanuary-June10EG-203
Reactor DesignJanuary-June10EG-204
Process Design and SimulationJanuary-June10EG-208
Process ModellingJanuary-June10EG-215
Process and Pilot Plant Operations BJanuary-June20EG-230

Blwyddyn 3 (Lefel 6)

FHEQ 6 Undergraduate / Honours
Modiwlau Gorfodol
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y Modiwl
Safety and Loss PreventionSeptember-January10EG-304
Reactor Design IISeptember-January10EG-337
Separation Processes IISeptember-January10EG-338
Process Equipment DesignSeptember-January10EG-339
Engineering ManagementSeptember-June10EG-386
Chemical Engineering Design ProjectSeptember-June30EGA326
Process Equipment Selection and ControlSeptember-January10EGA332
Particulate SystemsJanuary-June10EG-307
Energy and Low Carbon TechnologiesJanuary-June10EGA323
Environmental Engineering PracticeJanuary-June10EGZ300

BEng 4 Year Full-time (with a year abroad)

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

FHEQ 4 Undergraduate / HECert
Modiwlau Gorfodol
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y Modiwl
Chemical Process PrinciplesSeptember-January10EG-100
Chemical Engineering LaboratorySeptember-January10EG-101
Heat TransferSeptember-January10EG-103
Chemical Engineering SkillsSeptember-January10EG-111
Engineering Mathematics 1 (Chem & Med)September-January10EG-118
Environmental Awareness for EngineersSeptember-January10EG-169
Engineering Mathematics 2 (Chem & Med)January-June10EG-117
Fluid Mechanics 1January-June10EG-160
Chemical Process Analysis and DesignJanuary-June10EGA102
Chemistry for EngineersJanuary-June10EGA109
Instrumental and Analytical ChemistryJanuary-June10EGA110
Chemical Engineering ScienceJanuary-June10EGA114

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

FHEQ 5 Undergraduate / HEDip
Modiwlau Gorfodol
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y Modiwl
Separation ProcessesSeptember-January10EG-200
Instrumentation Measurement and ControlSeptember-January10EG-206
Thermodynamics of Process DesignSeptember-January10EG-210
Fluid FlowSeptember-January10EG-211
Process and Pilot Plant Operations ASeptember-January10EG-220
Statistical Techniques in EngineeringSeptember-January10EG-285
Biochemical Engineering IJanuary-June10EG-203
Reactor DesignJanuary-June10EG-204
Process Design and SimulationJanuary-June10EG-208
Process ModellingJanuary-June10EG-215
Process and Pilot Plant Operations BJanuary-June20EG-230

Blwyddyn 3 (Lefel 5S)

FHEQ 5 Undergraduate Sandwich Year
Modiwlau Gorfodol
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y Modiwl
Study Abroad (Engineering)September-June120EG-R01

Blwyddyn 4 (Lefel 6)

FHEQ 6 Undergraduate / Honours
Modiwlau Gorfodol
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y Modiwl
Safety and Loss PreventionSeptember-January10EG-304
Reactor Design IISeptember-January10EG-337
Separation Processes IISeptember-January10EG-338
Process Equipment DesignSeptember-January10EG-339
Engineering ManagementSeptember-June10EG-386
Chemical Engineering Design ProjectSeptember-June30EGA326
Process Equipment Selection and ControlSeptember-January10EGA332
Particulate SystemsJanuary-June10EG-307
Energy and Low Carbon TechnologiesJanuary-June10EGA323
Environmental Engineering PracticeJanuary-June10EGZ300

BEng 4 Year Full-time (with a year in Industry)

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

FHEQ 4 Undergraduate / HECert
Modiwlau Gorfodol
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y Modiwl
Chemical Process PrinciplesSeptember-January10EG-100
Chemical Engineering LaboratorySeptember-January10EG-101
Heat TransferSeptember-January10EG-103
Chemical Engineering SkillsSeptember-January10EG-111
Engineering Mathematics 1 (Chem & Med)September-January10EG-118
Environmental Awareness for EngineersSeptember-January10EG-169
Engineering Mathematics 2 (Chem & Med)January-June10EG-117
Placement Preparation: Science and Engineering Year in IndustryJanuary-June0EG-135
Fluid Mechanics 1January-June10EG-160
Chemical Process Analysis and DesignJanuary-June10EGA102
Chemistry for EngineersJanuary-June10EGA109
Instrumental and Analytical ChemistryJanuary-June10EGA110
Chemical Engineering ScienceJanuary-June10EGA114

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

FHEQ 5 Undergraduate / HEDip
Modiwlau Gorfodol
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y Modiwl
Separation ProcessesSeptember-January10EG-200
Instrumentation Measurement and ControlSeptember-January10EG-206
Thermodynamics of Process DesignSeptember-January10EG-210
Fluid FlowSeptember-January10EG-211
Process and Pilot Plant Operations ASeptember-January10EG-220
Placement Preparation: Engineering Industrial YearSeptember-June0EG-233
Statistical Techniques in EngineeringSeptember-January10EG-285
Biochemical Engineering IJanuary-June10EG-203
Reactor DesignJanuary-June10EG-204
Process Design and SimulationJanuary-June10EG-208
Process ModellingJanuary-June10EG-215
Process and Pilot Plant Operations BJanuary-June20EG-230

Blwyddyn 3 (Lefel 5S)

FHEQ 5 Undergraduate Sandwich Year
Modiwlau Gorfodol
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y Modiwl
Industrial Placement Year (Engineering)September-June120EG-E01

Blwyddyn 4 (Lefel 6)

FHEQ 6 Undergraduate / Honours
Modiwlau Gorfodol
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y Modiwl
Safety and Loss PreventionSeptember-January10EG-304
Reactor Design IISeptember-January10EG-337
Separation Processes IISeptember-January10EG-338
Process Equipment DesignSeptember-January10EG-339
Engineering ManagementSeptember-June10EG-386
Chemical Engineering Design ProjectSeptember-June30EGA326
Process Equipment Selection and ControlSeptember-January10EGA332
Particulate SystemsJanuary-June10EG-307
Energy and Low Carbon TechnologiesJanuary-June10EGA323
Environmental Engineering PracticeJanuary-June10EGZ300

Gofynion Mynediad

Dyma ofynion mynediad y cwrs Peirianneg Gemegol BEng:

ABB-BBB Safon Uwch (gan gynnwys Mathemateg a Chemeg).

Dyma rai pynciau eraill rydym yn eu hargymell:
Ffiseg
Mathemateg Bellach
Dylunio a Thechnoleg
TGCh/ Cyfrifiadureg
Bioleg

Gall y cynnig a gewch amrywio’n ôl y pynciau rydych yn eu hastudio a chaiff pob cais ei ystyried ar wahân, a hynny ar sail graddau TGAU, pynciau a graddau UG, profiad gwaith, llythyrau geirda a datganiadau personol.

Neu 32 yn gyffredinol gyda naill ai 5 mewn Mathemateg: dadansoddi ac ymagweddau ar y Lefel Uwch (neu 6 ar y Lefel Safonol), neu 5 mewn Mathemateg: cymwysiadau a dehongli ar y Lefel Uwch (neu 7 ar y Lefel Safonol)

Os yw myfyrwyr yn dilyn cwrs BTEC mewn pynciau perthnasol sydd â chryn dipyn o gynnwys Cemegol/Cemeg, bydd angen D*D*D* - D*D*D, gan gynnwys B mewn Mathemateg Safon Uwch. Os nad ydych yn dilyn cwrs Mathemateg Safon Uwch, bydd angen o leiaf D yn y modiwlau ‘Mathemateg i Dechnegwyr’ a D mewn ‘Mathemateg Bellach i Dechnegwyr’ y BTEC. Mae angen i fyfyrwyr hefyd fod ag o leiaf dau gymhwyster TGAU gradd A , gan gynnwys gradd B, o leiaf, mewn Mathemateg a dau bwnc gwyddonol arall.

Gwybodaeth am ofynion mynediad ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol.

Bydd myfyrwyr sydd â phrofiad a chymwysterau diwydiannol yn cael eu hystyried fesul achos. Os ydych chi wedi astudio cymwysterau mynediad neu alwedigaethol, fe'ch cynghorir i wneud cais am y Flwyddyn Sylfaen Integredig.

Os ydych chi'n gwneud cais am fynediad Lefel Dau (ail flwyddyn), er mwyn cael eich ystyried, bydd angen i chi fod eisoes wedi ymdrin â'r pynciau a gynigir yn Abertawe ar Lefel Un (blwyddyn gyntaf) mewn cymhwyster ardystiedig, gyda sgôr cyffredinol uchel.

Sut byddwch chi'n cael eich dysgu

Rydym yn falch o ddarparu profiad addysgol rhagorol, gan ddefnyddio'r dulliau dysgu ac addysgu mwyaf effeithiol, wedi'u teilwra'n ofalus i anghenion penodol eich cwrs. Ar wahân i nifer fach o gyrsiau ar-lein, mae'r rhan fwyaf o'n cyrsiau'n cynnwys addysgu wyneb yn wyneb ar y campws, gan alluogi ymgysylltiad llawn â'ch darlithwyr a'ch cyd-fyfyrwyr.

Mae sesiynau sgiliau ymarferol, seminarau gwaith labordy, a gweithdai yn bennaf yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb ar y campws, gan ganiatáu gweithio mewn grŵp ac arddangosiadau. Rydym hefyd yn gweithredu labordai rhithwir ac Amgylcheddau Dysgu Efelychol a fydd yn hwyluso mwy o fynediad at gyfleoedd hyfforddi yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae ein dulliau addysgu hefyd yn cynnwys defnyddio rhywfaint o ddysgu ar-lein i gefnogi a gwella addysgu wyneb yn wyneb traddodiadol.

Gall dysgu ar-lein ddigwydd ‘yn fyw’ gan ddefnyddio meddalwedd fel Zoom, sy'n eich galluogi i ryngweithio â'r darlithydd a myfyrwyr eraill ac i ofyn cwestiynau. Mae recordiadau darlithoedd hefyd yn caniatáu mwy o hyblygrwydd i ailedrych ar ddeunydd, i adolygu at asesiadau ac i wella dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Mae gan rai modiwlau adnoddau ychwanegol ar Canvas, megis fideos, sleidiau a chwisiau sy'n galluogi astudiaeth hyblyg bellach.

Darpariaeth Gymraeg

Rhywfaint o ddarpariaeth

Darperir rhai elfennau o'r cwrs hwn trwy gyfrwng y Gymraeg ond nid oes digon o ddarpariaeth eto i gyrraedd 40 credyd ym mhob blwyddyn.

Mae Academi Hywel Teifi yma i'ch cefnogi trwy gydol eich amser ym Mhrifysgol Abertawe. Rydym yn cynnig:

  • Mynediad at ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gyfer astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Mynediad at fodiwlau a addysgir yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn Gymraeg.
  • Mynediad at ap Arwain er mwyn derbyn y diweddaraf am ein cyrsiau a'n modiwlau cyfrwng Cymraeg. Lawrlwythwch yr ap am ddim drwy'r App Store a Google Play.
  • Cyfle am gyfweliad trwy gyfrwng y Gymraeg wrth wneud cais am le.
  • Cyfle i dderbyn gohebiaeth bersonol yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog.
  • Cyfle i ysgrifennu a chyflwyno gwaith cwrs neu sefyll arholiadau trwy gyfrwng y Gymraeg (hyd yn oed os ydych chi wedi dewis astudio yn Saesneg), a bydd eich gwaith yn cael ei farcio yn Gymraeg.
  • Mentor Academaidd Cymraeg ei iaith.
  • Cefnogaeth un i un i wella eich sgiliau Cymraeg academaidd.
  • Cyfle i ennill cymhwyster ychwanegol sy'n dystiolaeth o'ch gallu yn yr iaith Gymraeg i gyflogwyr.
  • Cyfle i fod yn aelod o Gangen Prifysgol Abertawe o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
  • Cyfle i gyfrannu at weithgaredd a bywiogrwydd cymuned Gymraeg y Brifysgol ac ennill Gwobr Academi Hywel Teifi

I ddysgu mwy am yr uchod ac am yr holl gyfleoedd sydd ar gael i chi trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i dudalennau israddedig Academi Hywel Teifi

Achrediad Corff Proffesiynol

Achredir y cwrs BEng Peirianneg Gemegol ym Mhrifysgol Abertawe gan Sefydliad y Peirianwyr Cemegol.

Dywed yr achrediad fod y radd:

1. yn bodloni anghenion addysgol Peiriannydd Corfforedig (IEng) yn llawn,

2. yn bodloni anghenion addysgol Peiriannydd Siartredig (CEng) yn rhannol. Bydd angen rhaglen Dysgu Ymhellach achrededig er mwyn bodloni anghenion addysgol Peiriannydd Siartredig yn llawn.

Mae achrediad yn farc ansawdd i nodi bod y radd yn bodloni'r safonau a osodir gan y Cyngor Peirianneg yn y ddogfen Safonau'r DU ar gyfer Cymhwysedd Peirianneg Proffesiynol. O ganlyniad i ennill gradd achrededig, bydd gennych rai, neu'r cyfan, o'r wybodaeth, dealltwriaeth, a sgiliau sydd eu hangen i gofrestru'n Beiriannydd Corfforedig neu'n Beiriannydd Siartredig. Mae rhai cyflogwyr yn ffafrio'r rhai sydd â gradd achrededig wrth recriwtio, ac mae gradd achrededig yn debyg o gael ei chydnabod mewn gwledydd sydd wedi llofnodi cytundebau rhyngwladol.

‌Mae achrediad IChemE:

  • Yn eich sicrhau y bydd y cwrs yn rhoi sail broffesiynol gadarn i chi yn y pwnc
  • Yn eich sicrhau y bydd yr addysgu o safon uchel, yn berthnasol, gyda chynnwys ymarferol priodol ac oriau cyswllt priodol gan staff academaidd cwbl gymwys
  • Yn bodloni anghenion y cyflogwyr
  • Yn cynnwys diogelwch a chynaliadwyedd proses safonol a dderbynnir ar lefel ryngwladol
  • Yn darparu sail er mwyn i chi anelu at statws gwerthfawr Peiriannydd Siartredig

Cwrdd â'ch Darlithwyr

Bydd y staff academaidd canlynol yn addysgu ar eich gradd Peirianneg Cemegol:

  • Dr Matthew Barrow
  • Dr Paolo Bertoncello
  • Dr Richard Butterfield
  • Dr Daniel Curtis
  • Dr Matthew Davies
  • Professor Nidal Hilal
  • Dr Yon Ju-Nam
  • Professor Serena Margadonna
  • Dr Darren Oatley-Radcliffe
  • Dr Jesus Odeja
  • Dr Bjornar Sandnes
  • Dr James Titiloye
  • Dr Chedly Tizaoui
  • Professor Rhodri Williams
  • Dr Paul Williams

Ffioedd Dysgu

3 Blynedd Llawn Amser

Dyddiad Dechrau D.U. Rhyngwladol
Medi 2022 £ 9,000 £ 21,350
Medi 2023 £ 9,000 £ 22,400

4 Blynedd Llawn Amser Gyda Blwyddyn Dramor

Dyddiad Dechrau D.U. Rhyngwladol
Medi 2022 £ 9,000 £ 21,350
Medi 2023 £ 9,000 £ 22,400

4 Blynedd Llawn Amser Gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

Dyddiad Dechrau D.U. Rhyngwladol
Medi 2022 £ 9,000 £ 21,350
Medi 2023 £ 9,000 £ 22,400

Gellir codi ffioedd myfyrwyr Israddedig y DU llawn amser yn chwyddiannol mewn blynyddoedd astudio i ddod. Penderfynir ar y swm gan Lywodraeth Cymru.

Bydd ffioedd ar gyfer myfyrwyr UE/Rhyngwladol Israddedig yn cynyddu 3% ar gyfer pob blwyddyn ddilynol o astudio.

Yn ystod blwyddyn ryngol (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn dramor neu flwyddyn lleoliad), bydd ffi is yn gymwys. Am ragor o wybodaeth ewch i'n tudalen ffioedd dysgu.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Myfyrwyr cyfredol: Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Ariannu ac Ysgoloriaethau

Mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at eich astudiaethau.

I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd eraill am gymorth ariannol sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gael gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. I ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi

Costau Ychwanegol

Bydd mynediad i'ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i'ch galluogi i ymgysylltu'n llawn â'ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i'w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu'ch dyfais.

Efallai y byddwch chi'n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Teithio i'r campws ac oddi yno
  • Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
  • Prynu llyfrau neu werslyfrau
  • Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio

Nid yw'r ffioedd dysgu yn cwmpasu costau a dynnir yn bersonol gan y myfyriwr, megis prynu llyfrau neu gostau papur, argraffu neu gopïo.

Bydd angen i fyfyrwyr ar y cwrs hwn gwrdd â chostau'r eitem isod:

  • Pâr o esgidiau diogelwch ar gyfer ymweliadau safle diwydiannol. Cost uchaf o £20.

Mae gwerslyfrau a argymhellir ar gyfer y cwrs hwn ar gael yn y llyfrgell. Mae'r holl feddalwedd sydd ei angen ar gyfer y cwrs ar gael ar y rhwydwaith Peirianneg, i'w ddefnyddio yn ein hystafelloedd PC ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae mynediad di-wifr i'r rhyngrwyd ar gael ar draws campws a neuaddau preswyl y Brifysgol.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe'n cefnogi myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar bob cam yn eu taith yrfaol.

Mae ein gwasanaethau cymorth gyrfaoedd yn cynnwys:

  • Gweithdai cyflogadwyedd, sgyrsiau gan gyflogwyr, digwyddiadau pwrpasol a ffeiriau gyrfaoedd
  • Cyngor ac arweiniad unigol gan Ymgynghorwyr Gyrfaoedd proffesiynol
  • Cymorth i chwilio am swyddi, interniaethau, lleoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli
  • Mynediad i adnoddau gwybodaeth am amrywiaeth eang o bynciau rheoli gyrfa
  • Cyngor ac arweiniad ar astudio a chyllid i fyfyrwyr ôl-raddedig.
  • Ariannu i gefnogi cyfleoedd interniaethau myfyrwyr a digwyddiadau Cymdeithasau/Clybiau Myfyrwyr

Rydym hefyd yn darparu cymorth a chyngor i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe am hyd at bum mlynedd ar ôl iddynt raddio.

Rydym yn falch iawn o ragolygon gyrfa rhagorol ein graddedigion Peirianneg.

Rydym yn ymdrechu'n barhaus i wella cyflogadwyedd ein myfyrwyr, trwy feithrin perthynas gref â chyflogwyr graddedig a thrwy sicrhau bod ein myfyrwyr mor barod ag y gallant fod ar gyfer byd gwaith. Dysgwch fwy am ein gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd.

Cymorth Academaidd

Yn ogystal â chymorth pwnc penodol gan staff addysgu'r coleg a'ch mentor academaidd personol, mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn darparu cyrsiau, gweithdai a chymorth un-i-un mewn meysydd fel:

  • Ysgrifennu academaidd
  • Mathemateg ac ystadegau
  • Meddwl critigol
  • Rheoli amser
  • Sgiliau digidol
  • Sgiliau cyflwyno
  • Cymryd nodiadau
  • Technegau adolygu, dysgu ar gof ac arholiadau
  • Sgiliau Saesneg (os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf)

Yn ogystal, os oes gennych Anhawster Dysgu Penodol (ADP/SpLD), anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu gyflwr meddygol, mae gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd Diwtoriaid Arbenigol i gefnogi'ch dysgu. Bydd y tiwtoriaid yn gweithio ochr yn ochr â'r Swyddfa Anabledd a'r Gwasanaeth Lles i gefnogi eich holl anghenion a gofynion tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae darparu'r profiad gorau posibl i fyfyrwyr yn hollbwysig i ni , ac mae gennym systemau a staff cefnogi ar waith er mwyn hwyluso hyn. Mae gennym ni Gaffi rheolaidd ar gyfer Mathemateg, Cemeg a Meddalwedd i gynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau. Dysgwch fwy am y gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr.

Cyfleoedd Astudio Tramor a Byd-eang

I ddysgu mwy am astudio dramor, ewch i'n tudalennau gwe Go Global. Nid yw cofrestru ar raglen sy'n cynnwys semester/blwyddyn dramor yn gwarantu lleoliad gwaith semester/blwyddyn dramor yn awtomatig. Mae nifer gyfyngedig o leoedd ar gael ac yn amodol ar broses ddethol gystadleuol. Os na fyddwch chi'n llwyddo i ennill lleoliad gwaith semester/blwyddyn dramor, cewch chi eich trosglwyddo i gwrs safonol eich cynllun gradd heb semester neu flwyddyn dramor.

Mae rhaglenni rhyngwladol yr haf ar agor i fyfyrwyr o bob coleg. Fel arfer, mae rhaglenni'n para o 2 i 6 wythnos, ar draws cyrchfannau megis Tsieina, Sambia, De Corea, Siapan, Canada a ledled Ewrop. Am ragor o wybodaeth ynghylch rhaglenni a chymhwysedd, ewch i'n tudalennau gwe Haf Dramor.

Sut i wneud cais

Gwnewch gais nawr - myfyrwyr y DU, UE a rhyngwladol.

Cewch wybod mwy drwy ymweld â'n tudalen ar sut i wneud cais

Dyddiadau Cau Ymgeisio

Argymhellwn eich bod chi'n cyflwyno eich cais am le ar ein cyrsiau mor fuan â phosibl cyn ein dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno cais. Bydd cyrsiau'n cau yn gynharach na'r dyddiadau cau a restrir os caiff yr holl leoedd eu llenwi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen we Dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno cais.

Cyfarfod â'n cyn-fyfyrwyr Hozefa Arsiwala

Ar hyn o bryd rydw i'n gweithio fel Peiriannydd Prosesau mewn cwmni o'r enw Climax Molybdenum, sy'n un o gwmnïau Freeport-McMoran. Mae'r safle lle rydw i'n gweithio yn waith mwyndoddi sy'n cynhyrchu cemegyn o'r enw  Ferro-Molybdenum, sy'n cael ei roi mewn dur er mwyn rhoi ei nodweddion penodol iddo. Ar y funud rydw i'n edrych ar ddiogelwch prosesau ac optimeiddio prosesau.

Mae fy ngradd wedi fy helpu gyda fy sgiliau cymdeithasol a phersonol yn ogystal â'm haddysg. Rydw i wedi dysgu sut i drin materion dyddiol yn rhesymegol. Fe ges i amser gwych yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe; rwy'n dal i hiraethu amdano. Fe wnes i ffrindiau da ac rwy'n dal i gynnal perthynas dda gyda'r rhan fwyaf o'm darlithwyr.

Peirianneg Gemegol ym Mhrifysgol Abertawe

Peirianneg Gemegol

Peirianneg Gemegol gyda Blwyddyn Dramor

Peirianneg Gemegol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

  • Ein Cyfadrannau
  • Cyrsiau Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig r Ysgol Peirianneg Awyrofod, Sifil, Drydanol, Peirianneg Gyffredinol a Mecanyddol
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol y Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cymhwysol
      • Cemeg Cyrsiau Israddedig
      • Peirianneg Gemegol Cyrsiau Israddedig
        • Peirianneg Gemegol, BEng
        • Peirianneg Gemegol, MEng
        • Peirianneg Gemegol gyda Blwyddyn Sylfaen, BEng
      • Peirianneg Defnyddiau Cyrsiau Israddedig
      • Peirianneg Fiomeddygol Cyrsiau Israddedig
      • Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, BSc
    • Cyrsiau Israddedig Iechyd a Gofal Cymdeithasol
    • Cyrsiau Israddedig y Gyfraith
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Reolaeth
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Mathemateg a Chyfrifiadureg
    • Cyrsiau Meddygaeth Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol Seicoleg
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
    • Cyrsiau Is-raddedig yn dod yn fuan!
    • Gofynion mynediad
  • Cysylltu â'r tîm derbyn israddedig
  • Diwrnodau Agored Israddedig
  • Llety
  • Sut i wneud cais am gwrs israddedig
  • Clirio
  • Chwaraeon
  • Bywyd Myfyriwr
  • Ffioedd a Chyllid
  • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
  • Rhithdaith
  • Gwybodaeth i Rieni a Gwarcheidwaid
  • Prosbectws Israddedig
  • Pam Astudio yn Abertawe?
  • Beth yw UCAS Extra? Eich canllaw cynhwysfawr
  • Newidiadau rhaglen israddedig
  • Athrawon ac Ymgynghorwyr
  • Cyfres Gweminar Prifysgol Abertawe
Ymgeisio Diwrnod Agored Gofynnwch gwestiwn i ni Sgwrsiwch â Myfyriwr Cyfredol
  • Cysylltwch â ni
  • Swyddi
  • Cyfadrannau
  • Y Wasg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Ymwadiad a Hawlfraint
  • Map o'r Safle
  • Preifatrwydd a Chwcis
  • Datganiad Caethwasiaeth Fodern
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342