Trosolwg o'r Cwrs
Caiff gofal iechyd modern ei ddarparu gan dîm amlddisgyblaethol ac, yn gynyddol, mae fferyllwyr yn darparu gwasanaethau clinigol ehangach a newydd mewn amrywiaeth o leoliadau gofal iechyd. Mae ein gradd mewn Fferylliaeth yn cydnabod y rolau newydd ac uwch hyn ac mae'n cyfuno gwyddoniaeth ac ymarfer i baratoi myfyrwyr i fynd i'r afael â heriau tirwedd newidiol fferylliaeth.
Ar ôl cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus gan ennill marc cyffredinol o 60% ar gyfartaledd, gydag o leiaf 60% yn y modiwlau Sylfeini Fferylliaeth a Sylfeini Cemeg Organig, byddwch yn symud ymlaen i Flwyddyn 1 ac yn dilyn cwricwlwm wedi'i ddylunio i adlewyrchu'r ffordd y mae fferyllwyr yn trin cleifion a sut mae cleifion yn cyflwyno eu hunain i fferyllwyr.
Rydyn ni’n cyfuno egwyddorion gwyddonol sylfaenol a chymhleth â sut y cânt eu cymhwyso er mwyn rhoi dealltwriaeth glir i chi o faes ymarfer fferylliaeth.