Sgip i brif cynnwys
Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
  1. Hafan
  2. Israddedig
  3. Cyrsiau Israddedig
  4. Cyrsiau Israddedig Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  5. Nyrsio (Anableddau Dysgu), BSc (Anrh)
  • Astudio
    • Astudio
      Students studying in Singleton Park campus library

      Dechreuwch eich taith yma

      Astudiwch gyda ni
    • Israddedig
      • Cyrsiau
      • Llety
      • Clirio yn Abertawe
      • Canllaw Rhieni a Gwarcheidwaid i'r Brifysgol
      • Diwrnodau Agored
      • Sut i wneud cais
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Prosbectws Israddedig
      • Cofrestrwch am Diweddariadau Ebost
    • Ôl-raddedig
      • Cyrsiau
      • Rhaglenni Ymchwil
      • Diwrnod Agored
      • Sut i Wneud Cais
      • Llwybr carlam i fyfyrwyr presennol
      • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
      • Y Brifysgol
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Cofrestrwch am Diweddariadau Ebost
    • Bywyd Myfyriwr
      • Astudio
      • Pam Abertawe
      • Storïau Myfyrwyr
      • Bywyd y campws
      • Chwaraeon
      • Cynaliadwyedd - Cymrwch Ran
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
      • Taith Rhithwir
      • Beth yw Gŵyl y Glas?
    • Gwasanaethau i Fyfyrwyr
      • Llyfrgelloedd ac Archifau
      • BywydCampws
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe
      • Menter Myfyrwyr
      • Canolfan Llwyddiant Academaidd
      • Academi Hywel Teifi
      • Llesiant myfyrwyr
  • Rhyngwladol
  • Ein Ymchwil
    • Gwnewch Ymchwil Gyda Ni
      • Cefnogi eich taith ymchwil ôl-raddedig
      • Dod o hyd i raglen ymchwil ol-raddedig
      • Sut i wneud cais am raglen ymchwil Ôl-raddedig
      • Hyfforddiant a Datblygiad i Oruchwylwyr a Myfyrwyr Ymchwil
    • Archwiliwch ein hymchwil
      • Uchafbwyntiau Ymchwil
      • Ymchwil yn y cyfadrannau
      • Momentum - ein cylchgrawn ymchwil
      • Podlediad Archwilio Problemau Byd-eang
    • Darganfyddwch ein hymchwil
      • Cyfeiriadur Arbenigedd
      • Dod o hyd i bapur ymchwil
      • Manteisio ar ein Harbenigedd ym maes Ymchwil a Datblygu
    • Ein Hamgylchedd Ymchwil
      • Uniondeb Ymchwil: Moeseg a Llywodraethu
      • Effaith ymchwil
      • Hyfforddiant a datblygiad
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
    • Ein Cenhadaeth Ddinesig
      • Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe
      • Gŵyl Bod yn Ddynol
      • Oriel Science
      • Byd Copr Cymru
  • Busnes
    • Cydweithredwch â ni
      • Datblygu eich prosiectau
      • Manteisio ar wybodaeth ein hymgynghorwyr
      • Cyfleoedd Cyllid YDA
    • Recriwtio ein Doniau
      • Recriwtio ein Myfyrwyr a'n Graddedigion
      • Cwrdd â’n myfyrwyr
      • Hysbysebu eich swyddi gwag
    • Datblygu eich Gweithlu
      • Gweld ein cyrsiau
    • Defnyddio ein Gwasanaethau Masnachol
      • Gofyn am gymorth gyda phrosiect
      • Hysbysebu eich sefydliad
      • Dod yn gyflenwr
    • Llogi ein Cyfleusterau
      • Cael mynediad at ein cyfleusterau ymchwil
      • Cynnal digwyddiad
    • Gweithio gyda ni
      • Ymuno â’n rhwydwaith cydweithredol
      • Cysylltu â’n tîm ymgysylltu â busnesau
      • Cadw mewn cysylltiad
  • Cyn-fyfyrwyr
  • Y Brifysgol
    • Swyddfa'r Wasg
      Female student working with steel

      Newyddion a Ymchwil Diweddaraf straeon

      Darllenwch y newyddion diweddaraf yma
    • Y Brifysgol
      • Amdanom ni
      • Sut i ddod o hyd i ni
      • Dyfarniadau a Safleoedd y Brifysgol
      • Ein Cyfadrannau
      • Swyddfa'r Wasg
      • Swyddi a Gweithio yn Abertawe
      • Cynaliadwyedd
      • Teithio i’r campws ac oddi yno
      • Cysylltu â ni
    • Chwaraeon
      • Bod yn Actif
      • Cynghreiriau Cymdeithasol
      • Clybiau Chwaraeon
      • Perfformiad
      • Cyfleusterau
      • Nawdd
      • Newyddion
    • Bywyd y campws
      • Llety
      • Arlwyo
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Y Neuadd Fawr
      • Taliesin
      • Creu Taliesin
      • Ein Tiroedd
      • Cerddoriaeth
      • Rhithdaith
    • Ein Cyfadrannau
      • Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
      • Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
      • Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
      • Y Coleg
    • Academïau
      • Academi Iechyd a Llesiant
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA)
      • Academi Hywel Teifi
  • Newyddion a Digwyddiadau
  • Cefnogaeth a Lles
  1. Hafan
  2. Israddedig
  3. Cyrsiau Israddedig
  4. Cyrsiau Israddedig Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  5. Nyrsio (Anableddau Dysgu), BSc (Anrh)

Nyrsio (Anableddau Dysgu), BSc (Anrh)

Ymgeisio
Cadwch Mewn Cysylltiad

Manylion Allweddol y Cwrs

3 Blynedd Llawn Amser
Côd UCAS
B762
Dull Astudio
Dysgu Cyfunol
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
BBB-BCC
Lleoliad
Campws Parc Singleton
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2025 GIG

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
nyrs helpu person
  • Trosolwg
  • Rhagor
    • Related Pages
    • Back
    • Cyrsiau Israddedig
    • Cyrsiau Is-raddedig yn dod yn fuan
    • Gofynion mynediad
    • Llety
    • Diwrnodau Agored
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol Peirianneg Awyrofod, Sifil, Drydanol, Peirianneg a Mecanyddol
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol y Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cymhwysol
    • Cyrsiau Israddedig Iechyd a Gofal Cymdeithasol
      • Gwyddor Gofal Iechyd (Clywedeg), BSc (Anrh)
      • BSc (Anrh.) Nyrsio Hyblyg Rhan-amser (Oedolion)
      • Gwyddor Gofal Iechyd (Ffisioleg Gardiaidd), BSc (Anrh.)
      • Gwyddor Gofal Iechyd (Peirianneg Feddygol), BSc (Anrh.)
      • BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd (Clywedeg) – Rhan amser
      • Gwyddor Gofal Iechyd (Niwroffisioleg), BSc (Anrh.)
      • Gwyddor Gofal Iechyd (Meddygaeth Niwclear), BSc (Anrh.)
      • BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd (Peiranneg Adsefydlu) – Rhan Amser
      • Gwyddor Gofal Iechyd (Ffiseg Ymbelydredd), BSc (Anrh.)
      • BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd (Peiranneg Feddygol) – Rhan-amser
      • Gwyddor Gofal Iechyd (Ffiseg Radiotherapi), BSc (Anrh.)
      • Gwyddor Gofal Iechyd (Peirianneg Adsefydlu) BSc (Anrh.)
      • Gwyddor Gofal Iechyd (Ffisioleg Anadlu a Chysgu), BSc (Anrh.)
      • Tystysgrif Addysg Uwch mewn Ymarfer Clywedeg Sylfaenol
      • Nyrsio Ymarfer Cyffredinol, BSc (Anrh)
      • Nyrsio Plant, BSc (Anrh.)
      • Nyrsio Oedolion (Abertawe), BSc (Anrh.)
      • Nyrsio Oedolion, Rhan-amser, BSc (Anrh.)
      • Nyrsio Oedolion (Caerfyrddin), BSc (Anrh.)
      • Nyrsio Iechyd Meddwl, BSc (Anrh.)
      • Nyrsio Iechyd Meddwl, Rhan-amser, BSc (Anrh.)
      • Nyrsio (Iechyd Meddwl) Ran-amser hyblyg, BSc
      • Nyrsio Plant, Rhan-amser, BSc (Anrh.)
      • Nyrsio (Anabledd Dysgu), BSc
      • Gofal Mamolaeth, HECert
      • Bydwreigiaeth, BMid (Anrh.)
      • Therapi Galwedigaethol, BSc
      • Ymarfer yr adran Llawdriniaethau, BSc
      • Osteopatheg, M.Ost
      • Gwyddor Barafeddygol, BSc
      • Ymarfer Uwch Barafeddyg, BSc (Anrh)
      • Gwyddor Barafeddygol ar gyfer Technegwyr Argyfyngau Meddygol, BSc
      • Iechyd a Gofal Cymdeithasol, BSc (Anrh.)
      • Gwaith Cymdeithasol, BSc (Anrh.)
    • Cyrsiau Israddedig y Gyfraith
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Reolaeth
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Mathemateg a Chyfrifiadureg
    • Cyrsiau Meddygaeth Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol Seicoleg
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
    • Newidiadau Rhaglen Israddedig

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd ein cwrs gradd Nyrsio Anabledd Dysgu yn rhoi’r sgiliau a’r profiad i chi lansio gyrfa werth chweil yn y proffesiwn amrywiol a hanfodol hwn.

Yn ystod y rhaglen BSc tair blynedd hon sydd wedi’i hintegreiddio’n ofalus, byddwch yn dysgu sut mae mabwysiadu dull rhychwant oes o nyrsio person gydag anabledd dysgu. Wrth i chi symud ymlaen, bydd ein hystod o strategaethau dysgu ac addysgu yn datblygu eich meddwl beirniadol i'ch galluogi i adnabod anghenion amrywiol a chymhleth pobl ag anableddau dysgu; gwneud diagnosis nyrsio cywir a chynllunio a gwerthuso'r gofal sydd ei angen. Byddwch yn dysgu sut mae darparu gofal effeithiol i bobl ag anabledd dysgu a all fod ag afiachusrwydd iechyd lluosog yn ogystal â heriau iechyd meddwl, corfforol, gwybyddol neu ymddygiadol, gan alluogi ymarferwyr i allu cefnogi pobl ag anableddau dysgu o unrhyw oedran.  

Pam Nyrsio Anabledd Dysgu ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae gennym enw rhagorol am nyrsio ac rydym yn un o’r 10 prifysgol orau yn y DU am Ragolygon Graddedigion (Times Good University Guide 2025).

Mae ein staff academaidd yn nyrsys cymwys, yn feddygon, ac yn weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, y mae llawer ohonynt hefyd yn glinigwyr wrth eu gwaith, gan ddarparu cyfuniad eithriadol o drylwyredd damcaniaethol, mewnwelediad proffesiynol, ac arbenigedd ymarferol.

Mae gennym gysylltiadau cryf iawn â byrddau iechyd yng Nghymru, gan agor cyfleoedd lleoliadau clinigol i chi mewn ysbytai neu dimau iechyd meddwl cymunedol mewn lleoliadau trefol a gwledig.

Os ydych yn fyfyriwr yn y DU sy’n gallu ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, gallech gael eich ffioedd dysgu wedi’u talu’n llawn drwy Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru, yn ogystal â chyllid cynhaliaeth a benthyciad cyfradd is gan Gyllid Myfyrwyr.

A wnewch chi weld ein tudalen we Ariannu’r GIG i wirio a ydych yn gymwys am gyllid cyn gwneud cais.

Eich Profiad Nyrsio Anabledd Dysgu

Mae ein cyfleusterau rhagorol yn cynnwys swît glinigol realistig fel y gallwch roi eich gwybodaeth ddamcaniaethol ar waith mewn amgylchedd sy'n adlewyrchu mor agos â phosibl yr amodau gwirioneddol y byddwch yn eu profi pan fyddwch yn mynd ar leoliad mewn ysbyty neu leoliad cymunedol.

Gallwch hefyd astudio rhai modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg a gallech fod yn gymwys ar gyfer ysgoloriaethau mewnol neu gymorth drwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Gyrfaoedd Nyrsio

Wedi i chi raddio, byddwch yn gymwys i wneud cais am statws Nyrs Gofrestredig (Anabledd Dysgu) gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ac i gofrestru fel nyrs ar gyfer gwaith yn yr UE a'r AEE.

Gallwch ddisgwyl cyflog cychwynnol o £28,407 yn codi i £57,349 ar gyfer nyrs staff hynod brofiadol. Gall nyrsys arbenigol a rheolwyr practis ennill £50,056.

Modiwlau

Modiwlau

Modiwlau

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

FHEQ 4 Undergraduate / HECert

Mae myfyrwyr yn dewis 120 o gredydau o'r opsiynau canlynol:

Heb ddod o hyd i un

Modiwlau Opsiynol

Dewiswch Yn union 40 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

SYLWER :Students must select one of the following modules.

Core Modules with Welsh Language Option 
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y ModiwlCanllawiau
Introduction to nursing and health care (Learning Disability)Academic Year40SHN183
Cyflwyniad i nyrsio a gofal iechyd (Anabledd Dysgu)Academic Year40SHN183W
AND

Dewiswch Yn union 40 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

SYLWER :Students must select one of the following modules.

Core Modules with Welsh Language Option 
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y ModiwlCanllawiau
Understanding health and Illness (Learning Disability)Academic Year40SHN184
Deall Iechyd a Salwch (Anabledd Dysgu)Academic Year40SHN184W
AND

Dewiswch Yn union 40 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

SYLWER :Students must select one of the following modules.

Core Modules with Welsh Language Option 
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y ModiwlCanllawiau
Contexts of Care (Learning Disability)Academic Year40SHN185
Cyd-destunau Gofal (Anabledd Dysgu)Academic Year40SHN185W

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

FHEQ 5 Undergraduate / HEDip

Mae myfyrwyr yn dewis 120 o gredydau o'r opsiynau canlynol:

Heb ddod o hyd i un

Modiwlau Opsiynol

Dewiswch Yn union 40 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

SYLWER :Students must select one of the following modules.

Core Modules with Welsh Language Option 
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y ModiwlCanllawiau
Acute Care (Learning Disability)Academic Year40SHN2019
Gofal Aciwt (Anabledd Dysgu)Academic Year40SHN2019W
AND

Dewiswch Yn union 40 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

SYLWER :Students must select one of the following modules.

Core Modules with Welsh Language Option 
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y ModiwlCanllawiau
Care of the Person with a Long-Term Condition and Palliative Care Needs (Learning Disability)Academic Year40SHN2020
Gofalu am y Person â Chyflwr Hirdymor ac Anghenion Gofal Lliniarol (Anabledd Dysgu)Academic Year40SHN2020W
AND

Dewiswch Yn union 40 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

SYLWER :Students must select one of the following modules.

Core Modules with Welsh Language Option 
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y ModiwlCanllawiau
Ensuring Quality Care (Learning Disability)Academic Year40SHN2021
Sicrhau Gofal o Ansawdd (Anabledd Dysgu)Academic Year40SHN2021W

Blwyddyn 3 (Lefel 6)

FHEQ 6 Undergraduate / Honours

Mae myfyrwyr yn dewis 120 o gredydau o'r opsiynau canlynol:

Modiwlau Gorfodol
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y Modiwl
Practice and theory hours requirementAcademic Year0SHG3127
Modiwlau Opsiynol

Dewiswch Yn union 40 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

SYLWER :Students must select one of the following modules.

Core Modules with Welsh Language Option 
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y ModiwlCanllawiau
Care of the Service User with Complex Needs (Learning Disability)Academic Year40SHN3107
Gofalu am y Defnyddiwr Gwasanaeth ag Anghenion Cymhleth (Anabledd Dysgu)Academic Year40SHN3107W
AND

Dewiswch Yn union 40 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

SYLWER :Students must select one of the following modules.

Core Modules with Welsh Language Option 
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y ModiwlCanllawiau
Advancing Nursing Practice (Learning Disability)Academic Year40SHN3108
Ymarfer Nyrsio Uwch (Anabledd Dysgu)Academic Year40SHN3108W
AND

Dewiswch Yn union 40 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

SYLWER :Students must select one of the following modules.

Core Modules with Welsh Language Option 
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y ModiwlCanllawiau
Preparation for professional practice (Learning Disability)Academic Year40SHN3109
Paratoi ar gyfer ymarfer proffesiynol (Anabledd Dysgu)Academic Year40SHN3109W

Gofynion Mynediad

Cynnig Lefel – A Arferol

Isafswm BBB-BCC, cyrsiau’n ymwneud gyda iechyd neu wyddoniaeth yn ddymunol. Rydym yn derbyn Bagloriaeth Cymru fel Safon Uwch. 

Cynnig Mynediad i AU

Bydd y cynnig yn amrywio rhwng 120 a 104 o bwyntiau UCAS

Cynnig BTEC Arferol

21 Distinctions, 18 Merits, 6 Passes

Typical Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch Offer

B a BB yn lefel A neu DDM - DMM yn BTEC

Bagloriaeth Rhyngwladol

32

Tystysgrif Gadael Iwerddon

360

Sylwer, mae ein hamrediad graddau'n cynnwys cynigion safonol a chyd-destunol. Os byddwch chi'n bodloni un (neu fwy) o'n meini prawf cymhwysedd ar gyfer cynigion cyd-destunol, rhoddir cynnig is i chi. Bydd hyn o fewn yr amrediad graddau a nodir o hyd. Gweler ein tudalen derbyn myfyrwyr ar gyfer cynigion cyd-destunol am ragor o wybodaeth.

Mae angen o leiaf pum pas TGAU gradd A-C gan gynnwys Cymraeg/Saesneg iaith, Mathemateg a Gwyddor Ffisegol neu Wyddoniaeth Dwyradd.

Mewn rhai amgylchiadau bydd Sgiliau Allweddol Lefel 2 mewn Cymhwyso Rhif yn cael eu derbyn yn lle TGAU Mathemateg a Sgiliau Allweddol Lefel 2 mewn Cyfathrebu yn lle TGAU Cymraeg/Saesneg Iaith, os ymgymerwyd ag ef ers Medi 2015.

Bydd angen i chi hefyd ddangos:

  • Proffil addysgol cryf yn y tair i bum mlynedd flaenorol
  • Dealltwriaeth fanwl o Nyrsio Oedolion ac ymrwymiad iddo

Mae profiad gofal yn ddefnyddiol ond nid yn hanfodol.

Bydd angen geirda addysgol boddhaol ar bob ymgeisydd.

Bydd ymgeiswyr sy'n bodloni'r gofynion mynediad a'r meini prawf dethol yn cael eu gwahodd i gyfweliad, y gellir ei gynnal wyneb yn wyneb neu dros y ffôn/galwad fideo. Mae ein Cyngor Cyfweliadau yn esbonio mwy am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl.

Os ydych yn llwyddiannus yn y cyfweliad, bydd unrhyw gynnig lle yn amodol ar wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd/yr Heddlu boddhaol neu gyfwerth gan eich gwlad gartref yn ogystal â datganiad iechyd galwedigaethol ac asesiad cyn dechrau eich astudiaethau. Darperir rhagor o fanylion os byddwch yn derbyn cynnig.

Bydd disgwyl i chi gymryd rhan mewn trafodaethau grŵp, gwaith tîm, a thasgau unigol yn ystod cyfweliadau.

Os cynigir lle i chi bydd angen y canlynol arnoch hefyd:

  • Gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), neu gyfwerth cymeradwy
  • Gwiriad Iechyd Galwedigaethol
  • Dylech hefyd ymgyfarwyddo â Gwerthoedd a Safonau Ymddygiad GIG Cymru.

Bydd gofyn i bob ymgeisydd gael gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a gwiriad iechyd galwedigaethol.  Gellir ystyried unrhyw bryderon sy'n codi o'r rhain ym Mhanel Addasrwydd a Phriodoldeb i Ymarfer Proffesiynol yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol a gall arwain at dynnu lle ar y rhaglen yn ôl.

Sut byddwch chi'n cael eich dysgu

Yn Abertawe, byddwch yn elwa o addysg o ansawdd uchel, sy'n seiliedig ar ymchwil, sy'n cyfuno ystod o ddulliau addysgu effeithiol a chynhwysol, wedi'u teilwra'n ofalus i weddu i anghenion eich cwrs. Addysgir y rhan fwyaf o gyrsiau wyneb yn wyneb, ar y campws, gan roi'r cyfle i chi ymgysylltu'n weithredol â myfyrwyr eraill, staff academaidd, a chymuned ehangach y brifysgol.

Gallwch ddisgwyl cymysgedd o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai a sesiynau ymarferol - gan gynnwys gwaith labordy, hyfforddiant sgiliau, neu addysgu mewn stiwdio lle bo'n berthnasol i'ch disgyblaeth. Mae'r sesiynau hyn wedi'u cynllunio i annog cyfranogiad gweithredol, cydweithio, a datblygu sgiliau penodol i'r pwnc a sgiliau trosglwyddadwy.

Defnyddir offer dysgu digidol hefyd i wella'ch profiad dysgu. Gall y rhain gynnwys:

  • Darlithoedd wedi'u recordio i gefnogi astudio ac adolygu hyblyg.
  • Labordai rhithwir neu amgylcheddau wedi’u hefelychu, yn enwedig mewn gwyddoniaeth, gofal iechyd a disgyblaethau technegol.
  • Adnoddau ar-lein ar amgylchedd dysgu rhithwir y brifysgol (Canvas), gan gynnwys fideos, deunyddiau darllen, cwisiau a fforymau trafod.

Mae'r dull hwn yn eich galluogi i ymdrin â chynnwys a'i adolygu yn eich amser eich hun wrth elwa o strwythur a chefnogaeth addysgu wyneb yn wyneb.

Efallai bydd y cwrs hwn yn cynnig rhai modiwlau sy’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog i fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg yn rhugl. Am ragor o fanylion am y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael, gweler yr ehangydd Darpariaeth Gymraeg isod.

N.B. Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol sy'n astudio gyda Fisa Llwybr Myfyrwyr, sylwch y bydd eich gweithgareddau wedi'u hamserlennu, ynghyd ag unrhyw weithgareddau goruchwylio ychwanegol (gyda staff Prifysgol Abertawe yn bresennol) yn digwydd ar y campws.Yn unol â phrotocol Fisâu a Mewnfudo'r Deyrnas Unedig, bydd y sesiynau hyn yn cael eu monitro a bydd data ar gael ar gais.

Darpariaeth Gymraeg

Rhywfaint o ddarpariaeth

Darperir rhai elfennau o'r cwrs hwn trwy gyfrwng y Gymraeg ond nid oes digon o ddarpariaeth eto i gyrraedd 40 credyd ym mhob blwyddyn.

Mae Academi Hywel Teifi yma i'ch cefnogi trwy gydol eich amser ym Mhrifysgol Abertawe. Rydym yn cynnig:

  • Mynediad at ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gyfer astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Mynediad at fodiwlau a addysgir yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn Gymraeg.
  • Mynediad at ap Arwain er mwyn derbyn y diweddaraf am ein cyrsiau a'n modiwlau cyfrwng Cymraeg. Lawrlwythwch yr ap am ddim drwy'r App Store a Google Play.
  • Cyfle am gyfweliad trwy gyfrwng y Gymraeg wrth wneud cais am le.
  • Cyfle i dderbyn gohebiaeth bersonol yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog.
  • Cyfle i ysgrifennu a chyflwyno gwaith cwrs neu sefyll arholiadau trwy gyfrwng y Gymraeg (hyd yn oed os ydych chi wedi dewis astudio yn Saesneg), a bydd eich gwaith yn cael ei farcio yn Gymraeg.
  • Tiwtor Personol Cymraeg ei iaith.
  • Cefnogaeth un i un i wella eich sgiliau Cymraeg academaidd.
  • Cyfle i ennill cymhwyster ychwanegol sy'n dystiolaeth o'ch gallu yn yr iaith Gymraeg i gyflogwyr.
  • Cyfle i fod yn aelod o Gangen Prifysgol Abertawe o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
  • Cyfle i gyfrannu at weithgaredd a bywiogrwydd cymuned Gymraeg y Brifysgol ac ennill Gwobr Academi Hywel Teifi

I ddysgu mwy am yr uchod ac am yr holl gyfleoedd sydd ar gael i chi trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i dudalennau israddedig Academi Hywel Teifi

Achrediad Corff Proffesiynol

Wedi'i achredu gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth

Cwrdd â'ch Darlithwyr

Mae'r tîm addysgu yn cynnwys darlithwyr tra chymwys sydd wedi bod yn cyflwyno rhaglenni clinigol ers blynyddoedd lawer.

Ffioedd Dysgu

Dyddiad Dechrau D.U. Rhyngwladol
Medi 2024 GIG N/A
Medi 2025 GIG N/A

Gall ffïoedd ar gyfer myfyrwyr israddedig amser llawn y DU gynyddu ym mlynyddoedd dilynol astudio yn unol â'r uchafswm ffi reoledig a bennir gan Lywodraeth Cymru.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Myfyrwyr cyfredol: Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Ariannu ac Ysgoloriaethau

Mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at eich astudiaethau.

I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd eraill am gymorth ariannol sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gael gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. I ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi

Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i helpu i gefnogi eich astudiaeth.

I gael mwy o wybodaeth am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Mae Academi Hywel Teifi ym Mhrifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig nifer o ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. I gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi.

Os ydych yn fyfyriwr yn y DU sy’n gallu ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd wedi i chi raddio, gallech gael eich ffioedd dysgu wedi’u talu’n llawn drwy Werthoedd a Safonau Ymddygiad GIG Cymru yn ogystal â chyllid cynhaliaeth a gostyngiad benthyciad ardrethi gan Gyllid Myfyrwyr.

Cyn gwneud cais, ewch i’n tudalen we Ariannu’r GIG i wirio a ydych yn gymwys am gyllid.

Costau Ychwanegol

Bydd mynediad i'ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i'ch galluogi i ymgysylltu'n llawn â'ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i'w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu'ch dyfais.

Efallai y byddwch chi'n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Teithio i'r campws ac oddi yno
  • Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
  • Prynu llyfrau neu werslyfrau
  • Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe'n cefnogi myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar bob cam yn eu taith yrfaol.

Mae ein gwasanaethau cymorth gyrfaoedd yn cynnwys:

  • Gweithdai cyflogadwyedd, sgyrsiau gan gyflogwyr, digwyddiadau pwrpasol a ffeiriau gyrfaoedd
  • Cyngor ac arweiniad unigol gan Ymgynghorwyr Gyrfaoedd proffesiynol
  • Cymorth i chwilio am swyddi, interniaethau, lleoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli
  • Mynediad i adnoddau gwybodaeth am amrywiaeth eang o bynciau rheoli gyrfa
  • Cyngor ac arweiniad ar astudio a chyllid i fyfyrwyr ôl-raddedig.
  • Cyllid i gefnogi cyfleoedd interniaeth i fyfyrwyr a digwyddiadau Cymdeithasau/Clybiau Myfyrwyr

Rydym hefyd yn darparu cymorth a chyngor i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe am hyd at bum mlynedd ar ôl iddynt raddio.

Cymorth Academaidd

Yn ogystal â chymorth pwnc penodol gan staff addysgu'r coleg a'ch tiwtor personol, mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn darparu cyrsiau, gweithdai a chymorth un-i-un mewn meysydd fel:

  • Ysgrifennu academaidd
  • Mathemateg ac ystadegau
  • Meddwl critigol
  • Rheoli amser
  • Sgiliau digidol
  • Sgiliau cyflwyno
  • Cymryd nodiadau
  • Technegau adolygu, dysgu ar gof ac arholiadau
  • Sgiliau Saesneg (os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf)

Yn ogystal, os oes gennych Anhawster Dysgu Penodol (ADP/SpLD), anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu gyflwr meddygol, mae gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd Diwtoriaid Arbenigol i gefnogi'ch dysgu. Bydd y tiwtoriaid yn gweithio ochr yn ochr â'r Swyddfa Anabledd a'r Gwasanaeth Lles i gefnogi eich holl anghenion a gofynion tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.

Cyfleoedd Astudio Tramor a Byd-eang

I ddysgu mwy am astudio dramor, ewch i'n tudalennau gwe Go Global. Nid yw cofrestru ar raglen sy'n cynnwys semester/blwyddyn dramor yn gwarantu lleoliad gwaith semester/blwyddyn dramor yn awtomatig. Mae nifer gyfyngedig o leoedd ar gael ac yn amodol ar broses ddethol gystadleuol. Os na fyddwch chi'n llwyddo i ennill lleoliad gwaith semester/blwyddyn dramor, cewch chi eich trosglwyddo i gwrs safonol eich cynllun gradd heb semester neu flwyddyn dramor.

Mae rhaglenni rhyngwladol yr haf ar agor i fyfyrwyr o bob ysgol. Fel arfer, mae rhaglenni'n para o 2 i 6 wythnos, ar draws cyrchfannau megis Sri Lanka, De Corea, Fiji, Bali, UDA a ledled Ewrop. Am ragor o wybodaeth ynghylch rhaglenni a chymhwysedd, ewch i'n Haf Dramor.

Sut i wneud cais

Gwahoddir ymgeiswyr cymwys i gyfweliad a chynhelir cyfweliadau ar gyfer y cwrs hwn trwy Zoom. Edrychwch ar ein Awgrymiadau Cyfweld am ragor o wybodaeth am yr hyn i'w ddisgwyl.

Dyddiadau Cau Ymgeisio

Argymhellwn eich bod chi'n cyflwyno eich cais am le ar ein cyrsiau mor fuan â phosibl cyn ein dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno cais. Bydd cyrsiau'n cau yn gynharach na'r dyddiadau cau a restrir os caiff yr holl leoedd eu llenwi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen we Dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno cais.

  • Trosolwg
  • Related Pages
  • Back
  • Cyrsiau Israddedig
  • Cyrsiau Is-raddedig yn dod yn fuan
  • Gofynion mynediad
  • Llety
  • Diwrnodau Agored
  • Cyrsiau Israddedig Ysgol Peirianneg Awyrofod, Sifil, Drydanol, Peirianneg a Mecanyddol
  • Cyrsiau Israddedig Ysgol y Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg
  • Cyrsiau Israddedig Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
  • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cymhwysol
  • Cyrsiau Israddedig Iechyd a Gofal Cymdeithasol
    • Gwyddor Gofal Iechyd (Clywedeg), BSc (Anrh)
    • BSc (Anrh.) Nyrsio Hyblyg Rhan-amser (Oedolion)
    • Gwyddor Gofal Iechyd (Ffisioleg Gardiaidd), BSc (Anrh.)
    • Gwyddor Gofal Iechyd (Peirianneg Feddygol), BSc (Anrh.)
    • BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd (Clywedeg) – Rhan amser
    • Gwyddor Gofal Iechyd (Niwroffisioleg), BSc (Anrh.)
    • Gwyddor Gofal Iechyd (Meddygaeth Niwclear), BSc (Anrh.)
    • BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd (Peiranneg Adsefydlu) – Rhan Amser
    • Gwyddor Gofal Iechyd (Ffiseg Ymbelydredd), BSc (Anrh.)
    • BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd (Peiranneg Feddygol) – Rhan-amser
    • Gwyddor Gofal Iechyd (Ffiseg Radiotherapi), BSc (Anrh.)
    • Gwyddor Gofal Iechyd (Peirianneg Adsefydlu) BSc (Anrh.)
    • Gwyddor Gofal Iechyd (Ffisioleg Anadlu a Chysgu), BSc (Anrh.)
    • Tystysgrif Addysg Uwch mewn Ymarfer Clywedeg Sylfaenol
    • Nyrsio Ymarfer Cyffredinol, BSc (Anrh)
    • Nyrsio Plant, BSc (Anrh.)
    • Nyrsio Oedolion (Abertawe), BSc (Anrh.)
    • Nyrsio Oedolion, Rhan-amser, BSc (Anrh.)
    • Nyrsio Oedolion (Caerfyrddin), BSc (Anrh.)
    • Nyrsio Iechyd Meddwl, BSc (Anrh.)
    • Nyrsio Iechyd Meddwl, Rhan-amser, BSc (Anrh.)
    • Nyrsio (Iechyd Meddwl) Ran-amser hyblyg, BSc
    • Nyrsio Plant, Rhan-amser, BSc (Anrh.)
    • Nyrsio (Anabledd Dysgu), BSc
    • Gofal Mamolaeth, HECert
    • Bydwreigiaeth, BMid (Anrh.)
    • Therapi Galwedigaethol, BSc
    • Ymarfer yr adran Llawdriniaethau, BSc
    • Osteopatheg, M.Ost
    • Gwyddor Barafeddygol, BSc
    • Ymarfer Uwch Barafeddyg, BSc (Anrh)
    • Gwyddor Barafeddygol ar gyfer Technegwyr Argyfyngau Meddygol, BSc
    • Iechyd a Gofal Cymdeithasol, BSc (Anrh.)
    • Gwaith Cymdeithasol, BSc (Anrh.)
  • Cyrsiau Israddedig y Gyfraith
  • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Reolaeth
  • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Mathemateg a Chyfrifiadureg
  • Cyrsiau Meddygaeth Israddedig
  • Cyrsiau Israddedig Ysgol Seicoleg
  • Cyrsiau Israddedig Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
  • Newidiadau Rhaglen Israddedig
Ymgeisio
Sicrwydd Ansawdd y DU

Darganfyddwch eich prifysgol

Ewch ar rithdaith

Two students walking around campus

Prosbectws Israddedig

Prosbectws Israddedig

Astudio trwy'r Gymraeg

welsh medium

Sgwrsiwch â Myfyriwr Cyfredol

Dau fyfyriwr wrth gyfrifiadur
Cynigion wedi'u gwarantu*
Ymwadiad Rhaglen

Nyrsio (Anableddau Dysgu)

  • Cysylltwch â ni
  • Swyddi
  • Cyfadrannau
  • Y Wasg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Ymwadiad a Hawlfraint
  • Map o'r Safle
  • Preifatrwydd a Chwcis
  • Datganiad Caethwasiaeth Fodern
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342