Trosolwg o'r Cwrs
Bydd ein BSc mewn Peirianneg Feddygol yn rhoi'r hyfforddiant arbenigol sydd ei angen arnoch i ddechrau gyrfa werth chweil a medrus iawn yn gweithio yn y proffesiwn gofal iechyd fel peiriannydd meddygol. Fel ymarferydd, byddwch yn ymgymryd â rôl ymarferol gyda dyfeisiau meddygol, gan weithio gydag ystod eang o offer y deuir ar eu traws yn aml mewn amgylchedd ysbyty.
Er enghraifft, efallai y byddwch chi'n arbenigo mewn rhai mathau o offer fel yr un a ddefnyddir mewn triniaeth arennol neu radiotherapi.
Dros dair blynedd byddwch yn dysgu am gylch bywyd offer meddygol, gan gynnwys profi derbyn offer newydd, cyflwyno offer a dyfeisiau i wasanaeth, cynghori ar ddefnyddio offer yn gywir, mynd i'r afael â materion diogelwch cleifion a chael gwared ar hen ddyfeisiau’n ddiogel. Byddwch yn cyfuno gwaith academaidd manwl â sgiliau clinigol a thechnolegol ymarferol mewn ystod o leoliadau gofal iechyd arbenigol.
Mae peirianneg feddygol yn rôl gyffrous ac amrywiol lle byddwch chi'n defnyddio'ch arbenigedd mewn peirianneg electronig neu fecanyddol i gyflawni'r gweithgareddau hyn ac efallai cymryd rhan mewn addasu neu adeiladu offer hefyd. Mae'n faes cyffrous sy'n datblygu'n barhaus a gofynna am lefel uchel o gyfrifoldeb a sgil dechnegol.
Wrth i'ch gyrfa ddatblygu, cewch gyfleoedd rhagorol ar gyfer ymarfer uwch ac astudio ymhellach i lefel Meistr a doethuriaeth.