Sgip i brif cynnwys Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
Menu Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
  1. Hafan
  2. Israddedig
  3. Cyrsiau Israddedig
  4. Cyrsiau Israddedig Y Coleg Gwyddoniaeth
  5. Mathemateg
  6. Mathemateg Gymhwysol, BSc (Hons)
  • Astudio
    • Diwrnodau Agored Rhithwir
      Student sat at a laptop wearing headphones

      Diwrnodau Agored Israddedig ac Ôl-raddedig

      Cofrestrwch nawr
    • Israddedig
      • Cyrsiau
      • Llety
      • Diwrnodau Agored
      • Sut i wneud cais
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Rhieni a Gwarcheidwaid
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Clirio ym Abertawe
    • Ôl-raddedig
      • Cyrsiau
      • Rhaglenni Ymchwil
      • Diwrnod Agored
      • Sut i Wneud Cais
      • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
      • Y Brifysgol
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
    • Bywyd Myfyriwr
      • Astudio
      • Pam Abertawe
      • Bywyd y campws
      • Chwaraeon
      • Cynaliadwyedd - Cymrwch Ran
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
      • Taith Rhithwir
      • Beth yw Pythefnos y Glas?
    • Gwasanaethau i Fyfyrwyr
      • Llyfrgelloedd ac Archifau
      • BywydCampws
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe
      • Menter Myfyrwyr
      • Canolfan Llwyddiant Academaidd
      • Academi Hywel Teifi
      • Llesiant myfyrwyr
  • Rhyngwladol
  • Ymchwil
  • Busnes
  • Cyn-fyfyrwyr
  • Y Brifysgol
    • Swyddfa'r Wasg
      Female student working with steel

      Newyddion a Ymchwil Diweddaraf straeon

      Darllenwch y newyddion diweddaraf yma
    • Y Brifysgol
      • Amdanom ni
      • Sut i ddod o hyd i ni
      • Dyfarniadau a Safleoedd y Brifysgol
      • Canmlwyddiant 2020
      • Swyddfa'r Wasg
      • Swyddi a Gweithio yn Abertawe
      • Cynaliadwyedd
      • Teithio i’r campws ac oddi yno
      • Cysylltu â ni
    • Chwaraeon
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Iechyd a Ffitrwydd
      • Perfformiad ac Ysgoloriaethau
      • Chwaraeon i fyfyrwyr - Chwaraeon Myfyriwr
      • Rhaglenni a Digwyddiadau
    • Bywyd y campws
      • Llety
      • Llefydd i Fwyta ar Gampws
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Y Neuadd Fawr
      • Taliesin
      • Creu Taliesin
      • Ein Tiroedd
      • Cerddoriaeth
      • Rhithdaith
    • Colegau Academaidd
      • Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau
      • Coleg Peirianneg
      • Gwyddorau Dynol ac Iechyd
      • Ysgol y Gyfraith
      • Yr Ysgol Reolaeth
      • Ysgol Feddygaeth
      • Y Coleg Gwyddoniaeth
      • Y Coleg
    • Academïau
      • Academi Iechyd a Llesiant
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA)
      • Academi Hywel Teifi
      • Academi Cynwysoldeb a Llwyddiant Dysgwyr Abertawe (SAILS)
  • Newyddion a Digwyddiadau
  • Cefnogaeth a Lles
  1. Hafan
  2. Israddedig
  3. Cyrsiau Israddedig
  4. Cyrsiau Israddedig Y Coleg Gwyddoniaeth
  5. Mathemateg
  6. Mathemateg Gymhwysol, BSc (Hons)

Mathemateg Gymhwysol, BSc (Hons)

Tudalennau cysylltiedig
  • Colegau Academaidd
  • Cyrsiau Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Coleg Y Celfyddydau a'r Dyniaethau
    • Cyrsiau Israddedig Peirianneg
    • Cyrsiau Israddedig Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd
    • Cyrsiau Israddedig y Gyfraith
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Reolaeth
    • Cyrsiau Meddygaeth Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Y Coleg Gwyddoniaeth
    • Cyrsiau Is-raddedig yn dod yn fuan!
    • Gofynion mynediad
  • Cysylltu â'r tîm derbyn israddedig
  • Diwrnodau Agored Israddedig
  • Llety
  • Sut i wneud cais am gwrs israddedig
  • Chwaraeon
  • Bywyd Myfyriwr
  • Ffioedd a Chyllid
  • Gwnewch Gais am 2021
  • Sut i baratoi ar gyfer digwyddiad ar-lein
  • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
  • Rhithdaith
  • Gwybodaeth i Rieni a Gwarcheidwaid
  • Prosbectws Israddedig
  • Pam Astudio yn Abertawe?
  • Beth yw UCAS Extra? Eich canllaw cynhwysfawr
  • Clirio
  • Newidiadau rhaglen israddedig
  • Athrawon ac Ymgynghorwyr
Wedi'i achredu gan y Sefydliad Mathemateg a'i Chymwysiadau
tef gold logo Sicrwydd Ansawdd y DU
Ymgeisio

O ble ydych chi'n gwneud cais?

Gwneud cais fel myfyriwr o'r DU neu'r UE?

Dylai pob myfyriwr y DU neu'r UE wneud cais drwy UCAS

Ewch i UCAS

Gwneud cais fel myfyriwr rhyngwladol?

Mae gennym System Gwneud Cais uniongyrchol rhwydd a chyflym i fyfyrwyr rhyngwladol.

Ewch i'r System Gwneud Cais

Gall myfyrwyr rhyngwladol hefyd wneud cais drwy UCAS

Diwrnod Agored
Cadwch Mewn Cysylltiad
Dr Gibin Powathil

Dysgwch sut mae mathemateg yn cael ei chymhwyso ar draws gwyddoniaeth a thechnol

Manylion Allweddol y Cwrs

  • D.U.
  • U.E.
  • Rhyngwladol
3 Blynedd Llawn Amser
Côd UCAS
G120
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
ABB-BBB
Lleoliad
Campws y Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2021 £ 9,000
3 Blynedd Llawn Amser
Côd UCAS
G120
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
ABB-BBB
Lleoliad
Campws y Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2021 £ 16,650
3 Blynedd Llawn Amser
Côd UCAS
G120
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol
ABB-BBB - Gwybodaeth Rhagor
Lleoliad
Campws y Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2021 £ 16,650
Wedi'i achredu gan y Sefydliad Mathemateg a'i Chymwysiadau
tef gold logo tef gold logo Sicrwydd Ansawdd y DU

Trosolwg o'r Cwrs

  • Un o'r 15 adran orau yn y Du am rhagolygon graddedigion [Complete University Guide, 2020]
  • 18fed yn y Du am boddhad myfyrwyr Guardian University Guide, 2020]
  • Gyda goreuon y byd [QS World University Rankings]
  • Cyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer gwyddoniaeth fathemategol a chyfrifiadurol

Dysgwch am ein Ysgoloriaethau Mathemateg

Os ydych yn caru mathemateg, ac am weld sut mae'n gweithio a sut y caiff ei ddefnyddio mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau, yna'r radd Mathemateg Gymhwysol ym Mhrifysgol Abertawe yw'r cwrs i chi.

Mae ein gradd BSc tair blynedd mewn Mathemateg Gymhwysol yn cwmpasu'r cysyniadau mathemategol pwysicaf mewn algebra llinellog a haniaethol, dadansoddiad gwirioneddol a chymhleth, tebygolrwydd a hafaliadau gwahaniaethol, a'r ffyrdd y caiff y rhain eu cymhwyso mewn theori gemau, marchnadoedd ariannol, modelu canser, systemau deinamig, mecaneg cwantwm, dysgu peirianyddol, gwyddoniaeth data, a meysydd eraill.

Pam Mathemateg Gymhwysol yn Abertawe?

Mae mathemateg ym Mhrifysgol Abertawe yn radd uchel ei barch sy'n denu myfyrwyr o bell ac eang.

Caiff eich dysgu ei lunio gan fathemategwyr cymhwysol ysbrydoledig a rhyngwladol gan gynnwys Dr Gibin Powathil, yr Athro Cysylltiol sy'n datblygu modelau aml-raddfa o dwf canser, a'r Athro Chenggui Yuan, Athro Mathemateg, arbenigwr mewn theori rheoli stod a deinameg ar hap y boblogaeth. "

Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill Gwobr Aur TEF, sy'n gydnabyddiaeth gan Lywodraeth y DU am addysgu rhagorol.

Cwrs cysylltiedig
BSc Mathemateg
Cyrsiau eraill
BSc Mathemateg gyda blwyddyn sylfaen BSc Mathemateg ar gyfer cyllid
BSc Gwyddor Actiwraidd BSc Gwyddoniaeth Actiwaraidd gyda blwyddyn sylfaen
BSc Mathemateg Pur MMath Mathemateg
BSc Mathemateg Gyda Gwyddor Chwaraeon BSc Addysg a Mathemateg

Eich Profiad Mathemateg Gymhwysol

  • Mae llwybr gradd hyblyg strwythuredig yn golygu eich bod yn cael cyfle i astudio dramor am flwyddyn neu weithio mewn diwydiant am flwyddyn, naill ai'n lleol, yn genedlaethol neu dramor.
  • Byddwch yn cael eich dysgu yn ein Foundry Cyfrifiadurol o'r radd flaenaf drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau, seminarau a grwpiau trafod.
  • Mae ein cyfleusterau addysgu o'r radd flaenaf yn cynnwys labordai ymchwil a datblygu, yn ogystal â gofodau rhwydweithio ac ysbrydoli.
  • Byddwch yn dysgu defnyddio rhesymu rhesymegol ac yn llunio dadleuon trwyadl ochr yn ochr â sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig.
  • Byddwn yn eich hyfforddi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd, yn darparu sylfaen ar gyfer astudio ac ymchwil ôl-raddedig.

Cyfleoedd Cyflogaeth Mathemateg Gymhwysol

Mae ein graddedigion wedi dod yn Beiriannydd Ymchwil Gwyddonydd Data, Dadansoddwyr Ymchwil, Dadansoddwyr Risg, Actiwarïaid, Cynghorwyr Ariannol, Datblygwyr Meddalwedd ac Ystadegwyr gyda chwmnïau sy'n cynnwys BMW, British Airways, Zurich Bank, y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Shell.

Ymwadiad Rhaglen

Prosbectws Israddedig

Darganfyddwch eich prifysgol

Ewch ar rithdaith

virtual tour

Cynnig wedi'i warantu ar gyfer 2020*

Astudio trwy’r Gymraeg

welsh medium

Manyleb Rhaglen

Yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei ddweud am Fathemateg yn Abertawe

Ewch ar daith o amgylch ein cyfleusterau

Mathematics student
Nothando Tsuma

Proffiliau myfyrwyr

Elizabeth Carlsen

Derbyniodd Elizabeth Carlsen y 'Wobr Gynghorol Cwantwm am y cyfraniad mwyaf gwreiddiol i Fathemateg' o £1000 a roddwyd gan Quantum Advisory, Caerdydd, yr Actiwarïaid ac Ymgynghorwyr Budd-dal Cyflogeion.

Modiwlau

Byddwch yn astudio'r modiwlau gorfodol canlynol ac yn dewis o blith detholiad o fodiwlau dewisol yn ystod eich cwrs gradd. Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn astudio modiwl prosiect 30 credyd.

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

FHEQ 4 Undergraduate / HECert

Mae myfyrwyr yn dewis 120 o gredydau o'r opsiynau canlynol:

Modiwlau Gorfodol
Cod y ModiwlSemesterCredydauEnw'r Modiwl
MA-101 Period September-January15Introduction to Analysis 1
MA-111 Period September-January15Foundations of Algebra
MA-131 Period September-January15Geometry: Mathematics, Logic and Communication
MA-181 Period September-January15Introduction to Modelling and Simulation
MA-102 Period January-June15Introduction to Analysis 2
MA-112 Period January-June15Introductory Linear Algebra
MA-142 Period January-June15Classical Mechanics (of Particles)
Modiwlau Opsiynol
optional 

Dewiswch Yn union 15 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

Cod y ModiwlSemesterCredydauEnw'r ModiwlCanllawiau
MA-182 Period January-June15Introduction to Biomathematics
MA-192 Period January-June15Applied Statistics

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

FHEQ 5 Undergraduate / HEDip

Mae myfyrwyr yn dewis 120 o gredydau o'r opsiynau canlynol:

Modiwlau Gorfodol
Cod y ModiwlSemesterCredydauEnw'r Modiwl
MA-201 Period September-January15Multi-variable analysis
MA-211 Period September-January15Vector Spaces
MA-241 Period September-January15Differential Equations
MA-202 Period January-June15Metric spaces and measure theory
MA-212 Period January-June15Groups and Rings
MA-242 Period January-June15Classical Mechanics (of Rigid Bodies)
Modiwlau Opsiynol
optional 

Dewiswch Yn union 30 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

Cod y ModiwlSemesterCredydauEnw'r ModiwlCanllawiau
MA-203Academic Year0Professional Development and Career Planning
MA-231 Period September-January15Advanced Geometry
MA-252 Period September-January15Probability
MA-262 Period January-June15Numerical Methods (with Matlab)
MA-274 Period January-June15Credibility, Liability and Ruin
MA-282 Period January-June15Game Theory and Optimization
MA-292 Period January-June15Further Statistical Analysis

Blwyddyn 3 (Lefel 6)

FHEQ 6 Undergraduate / Honours

Mae myfyrwyr yn dewis 120 o gredydau o'r opsiynau canlynol:

Modiwlau Gorfodol
Cod y ModiwlSemesterCredydauEnw'r Modiwl
MA-300 Period September-June30Project
MA-301 Period September-January15Complex Variables
MA-336 Period September-January15Quantum Mechanics
MA-312 Period January-June15Higher Algebra
Modiwlau Opsiynol
options 

Dewiswch Uchafswm o 30 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

Cod y ModiwlSemesterCredydauEnw'r ModiwlCanllawiau
MA-322 Period September-January15Topology
MA-341 Period September-January15Stochastic Processes
MA-384 Period January-June15Fourier Analysis
MA-393 Period January-June15Lie Theory
MA-395 Period January-June15Teaching Mathematics via a School Placement
AND
Applied 

Dewiswch Isafswm o 15 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

SYLWER :Students must take at least 15 credits from the following applied mathematics modules.

Cod y ModiwlSemesterCredydauEnw'r ModiwlCanllawiau
MA-357 Period September-January15Financial Mathematics
MA-375 Period September-January15Dynamical Systems
MA-302 Period January-June15Numerics of ODEs and PDEs
MA-308 Period January-June15Machine Learning
MA-386 Period January-June15Calculus of Variations

Gofynion Mynediad

Safon Uwch: ABB – BBB gan gynnwys Mathemateg.

Bagloriaeth Cymru: Mae'r gofynion fel ar gyfer Safon Uwch lle gallwch amnewid yr un radd benodol mewn pwnc arall am Radd Graidd Bagloriaeth Cymru.

BTEC: DDM Unrhyw bwnc ynghyd â Gradd B mewn Mathemateg Safon Uwch.

Cymhwyster Uwch yr Albanaidd: ABBBC yn ogystal â gradd B mewn Mathemateg.

Mynediad i Wyddoniaeth (Mathemateg) gyda 24 o Wahaniaethau a 15 Rhinweddau gyda Diystyru ym mhob modiwl Mathemateg.

Bagloriaeth Ryngwladol: 32 yn gyffredinol gyda 5 mewn Mathemateg Lefel Uwch.

IELTS 6.0 (gydag o leiaf 5.5 ym mhob cydran) neu brawf Saesneg cyfwerth.

Caiff pob cais ei ystyried yn unigol, a byddwn yn ystyried yr holl gais wrth benderfynu a fyddwn yn cynnig lle, gan gynnwys: cydbwysedd, natur ac ansawdd pynciau Safon Uwch, Safon Uwch Gyfannol a TGAU (neu gyfwerth); datganiad personol a sylwadau gan ganolwyr.

Caiff Astudiaethau Cyffredinol a chymwysterau Sgiliau Allweddol eu heithrio o'n cynnig fel arfer.

Sut byddwch chi'n cael eich dysgu

Mae addysgu bloc un (AB1) yn rhedeg o fis Medi tan fis Ionawr ac yn ystod y bloc hwn, eleni, bydd y cwrs hwn yn cael ei ddysgu mewn ffordd ‘wedi'i gymysgu'. Mae hyn yn golygu y bydd rhywfaint o addysgu yn digwydd ar-lein a bydd rhai ar y campws. Gall yr addysgu ar-lein, lle byddwch yn gorfforol ar wahân i'ch darlithydd, fod yn 'fyw' gyda'ch darlithydd yn bresennol a fydd hyn yn gyfle i ryngweithio. Yna fydd rhywfaint ohono yn hunangyfeiriedig, sy'n golygu y gallwch gael gafael ar y deunyddiau dysgu ar amser sy'n addas i chi.  

Bydd yr union gyfuniad o weithgareddau’n amrywio yn ôl disgyblaeth ac o flwyddyn i flwyddyn; ni fydd pob gweithgaredd yn cael ei ddefnyddio ym mhob achos. 

 YN FYWHUNAN-GYFEIRIEDIG
AR-LEIN
  • Darlithoedd
  • Dosbarthiadau enghreifftiol (nad ydynt yn graidd)
  • Labordai cyfrifiaduron
  • Asesiadau terfynol
  • Oriau swyddfa
  • Astudio annibynnol
  • Profion ffurfiannol                
  • Darlithoedd
AR Y CAMPWS
  • Tiwtorialau
  • Dosbarthiadau enghreifftiol craidd
  • Asesiadau terfynol
  • Goruchwylio prosiectau
  • Mentora academaidd
  • Goruchwylio prosiectau

Darpariaeth Gymraeg

O leiaf 40 credyd

Mae'n bosib astudio o leiaf 40 credyd o'r cwrs hwn drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Academi Hywel Teifi yma i'th gefnogi trwy gydol dy amser ym Mhrifysgol Abertawe. Rydym yn cynnig:

  • Fynediad at ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gyfer astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Mynediad at fodiwlau a addysgir yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn Gymraeg.
  • Mynediad at ap Arwain er mwyn derbyn y diweddaraf am ein cyrsiau a'n modiwlau cyfrwng Cymraeg. Gelli di lawrlwytho'r ap am ddim drwy'r App Store a Google Play.
  • Yr opsiwn am gyfweliad trwy gyfrwng y Gymraeg wrth wneud cais am le.
  • Yr opsiwn i dderbyn dy ohebiaeth bersonol yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog.
  • Yr opsiwn i ysgrifennu a chyflwyno gwaith cwrs neu sefyll arholiadau trwy gyfrwng y Gymraeg (hyd yn oed os wyt ti wedi dewis astudio yn Saesneg), a bydd dy waith yn cael ei farcio yn Gymraeg.
  • Mentor Academaidd Cymraeg ei iaith.
  • Cefnogaeth un i un i wella dy sgiliau Cymraeg academaidd.
  • Cyfle i ennill cymhwyster ychwanegol sy'n dystiolaeth o dy allu Cymraeg i gyflogwyr y dyfodol.
  • Cyfle i fod yn aelod o Gangen Prifysgol Abertawe o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Cer i'r dudalen Mae Gen i Hawl am wybodaeth bellach am hawliau myfyrwyr.

Bydd parhau i astudio trwy'r Gymraeg yn

  • ddatblygiad naturiol i ti os wyt ti wedi astudio trwy'r Gymraeg yn yr ysgol neu'r coleg
  • ffordd o sicrhau dy gyfle i gael yr addysg orau
  • ffordd o dderbyn lefel uchel o gefnogaeth wrth i'r grwpiau astudio fod yn llai
  • ychwanegiad gwerthfawr i dy CV a dy ddatblygiad gyrfaol

Mae cyfleoedd ar gael i fyfyrwyr sy'n rhugl ac yn hyderus yn yr iaith yn ogystal ag i'r rhai sy'n llai hyderus neu sy'n ddysgwyr. Mae'n bosibl hefyd dewis dosbarthiadau seminar a thiwtorial cyfrwng Cymraeg ar gyfer modiwlau sy'n cael eu dysgu yn bennaf drwy gyfrwng y Saesneg.

Achrediad Corff Proffesiynol

Bydd y cwrs hwn yn cwrdd â'r gofynion addysgol ar gyfer statws Mathemategydd Siartredig a ddyfernir gan y Sefydliad Mathemateg a'i Chymwysiadau, pan gaiff ei ddilyn gan hyfforddiant a phrofiad mewn cyflogaeth er mwyn meithrin cymwyseddau sy'n cyfateb i'r rhai a nodir gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA) ar gyfer graddau meistr a addysgir.

Cwrdd â'ch Darlithwyr

Cewch eich addysgu gan ein staff academaidd blaenllaw, gyda darlithoedd sy'n cyfrannu at Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig drwy ymchwil o'r radd flaenaf, mewn meysydd fel ymchwil canser, mathemateg bellach mewn ysgolion a modelu mathemategol ac ystadegol.

Yr Athro Elaine Crooks – Pennaeth Adran

Dr Andrew Neate – Cyfarwyddwr y Rhaglen

Dr Irina Rodionova – Tiwtor Derbyniadau

Dr Nelly Villamizar – Tiwtor Derbyniadau

Ffioedd Dysgu

Dyddiad Dechrau D.U. U.E. Rhyngwladol
Medi 2020 £ 9,000 £ 9,000 £ 16,150
Medi 2021 £ 9,000 £ 16,650 £ 16,650

Gellir codi ffioedd myfyrwyr Israddedig y DU llawn amser yn chwyddiannol mewn blynyddoedd astudio i ddod. Penderfynir ar y swm gan Lywodraeth Cymru.

Bydd ffioedd ar gyfer myfyrwyr UE/Rhyngwladol Israddedig yn cynyddu 3% ar gyfer pob blwyddyn ddilynol o astudio.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Myfyrwyr cyfredol: Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Ariannu ac Ysgoloriaethau

Mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at eich astudiaethau.

I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd eraill am gymorth ariannol sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gael gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. I ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi

Rydym yn cynnig ysgoloriaethau gwerth hyd at £3000 i bob myfyriwr. Caiff ysgoloriaethau eu dyfarnu yn seiliedig ar arholiad y byddwch yn ei sefyll yn eich ysgol neu goleg. www.swansea.ac.uk/maths/undergraduate/scholarships

Rydym hefyd yn cynnig ysgoloriaeth o £1,500 i fyfyrwyr sydd am astudio modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg gyda chynllun Ysgoloriaethau Cymhelliant y Coleg Cymraeg.

Costau Ychwanegol

Bydd mynediad i'ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i'ch galluogi i ymgysylltu'n llawn â'ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i'w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu'ch dyfais.

Efallai y byddwch chi'n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Teithio i'r campws ac oddi yno
  • Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
  • Prynu llyfrau neu werslyfrau
  • Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe'n cefnogi myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar bob cam yn eu taith yrfaol.

Mae ein gwasanaethau cymorth gyrfaoedd yn cynnwys:

  • Gweithdai cyflogadwyedd, sgyrsiau gan gyflogwyr, digwyddiadau pwrpasol a ffeiriau gyrfaoedd
  • Cyngor ac arweiniad unigol gan Ymgynghorwyr Gyrfaoedd proffesiynol
  • Cymorth i chwilio am swyddi, interniaethau, lleoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli
  • Mynediad i adnoddau gwybodaeth am amrywiaeth eang o bynciau rheoli gyrfa
  • Cyngor ac arweiniad ar astudio a chyllid i fyfyrwyr ôl-raddedig.
  • Ariannu i gefnogi cyfleoedd interniaethau myfyrwyr a digwyddiadau Cymdeithasau/Clybiau Myfyrwyr

Rydym hefyd yn darparu cymorth a chyngor i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe am hyd at bum mlynedd ar ôl iddynt raddio.

Mae ein graddedigion Mathemateg yn cael eu rhoi ar ben y ffordd i gael amrywiaeth o gyfleoedd ysgogol. Efallai y gwelwch mai gyrfa fel gwyddonydd data, actiwari, dadansoddwr ystadegol neu fodelydd diwydiannol fydd yn addas i chi yn y dyfodol.

Mae graddedigion Mathemateg yn ennill 50% yn fwy na'r rhan fwyaf o raddedigion eraill, ar gyfartaledd. Ymhlith y meysydd poblogaidd mae'r proffesiwn actiwaraidd, y sector ariannol, technoleg a gweinyddu systemau. Yn ddiweddar, mae graddedigion o Abertawe wedi cael cyflogaeth mewn sefydliadau sy'n cynnwys AXA, BA, Deutsche Bank, Shell Research, Awdurdodau Iechyd a Llywodraeth Leol.

Cymorth Academaidd

Yn ogystal â chymorth pwnc penodol gan staff addysgu'r coleg a'ch mentor academaidd personol, mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn darparu cyrsiau, gweithdai a chymorth un-i-un mewn meysydd fel:

  • Ysgrifennu academaidd
  • Mathemateg ac ystadegau
  • Meddwl critigol
  • Rheoli amser
  • Sgiliau digidol
  • Sgiliau cyflwyno
  • Cymryd nodiadau
  • Technegau adolygu, dysgu ar gof ac arholiadau
  • Sgiliau Saesneg (os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf)

Yn ogystal, os oes gennych Anhawster Dysgu Penodol (ADP/SpLD), anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu gyflwr meddygol, mae gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd Diwtoriaid Arbenigol i gefnogi'ch dysgu. Bydd y tiwtoriaid yn gweithio ochr yn ochr â'r Swyddfa Anabledd a'r Gwasanaeth Lles i gefnogi eich holl anghenion a gofynion tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae ein darlithwyr yn dilyn polisi ‘drws agored’ felly gallwch sgwrsio â nhw am unrhyw bryderon sydd gennych. Nid oes rhaid i'r rhain ymwneud â'r cwrs yn unig; mae ein staff academaidd ar gael i'ch helpu gydag unrhyw beth yn ystod eich amser ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae gan bob cwrs gynrychiolydd myfyrwyr. Mae'r cynrychiolwyr yno i sicrhau bod llais pob myfyriwr yn cael ei glywed. Eu rôl yw gwrando ar eich barn ac adrodd yn ôl, mynychu cyfarfodydd rheolaidd a gwneud yn siŵr bod y bobl sy'n gallu gwneud newidiadau yn gwrando ar y bobl sydd wir yn bwysig – chi!

Rydym yn cynnig mentora academaidd a mentora cyfoedion. Caiff Mentor Academaidd ei neilltuo i bob myfyriwr ar ein cyrsiau gradd, ac nid yn unig y bydd y Mentor yn cynnig arweiniad academaidd i chi, ond bydd hefyd yn rhoi cyngor ar gael gafael ar gymorth gyda phroblemau personol. Mae ein cynllun mentora cyfoedion ar waith er mwyn helpu myfyrwyr newydd i ymgartrefu yma ym Mhrifysgol Abertawe. Byddwch yn cael cyfle i siarad â'ch mentor a fydd yn gallu dweud wrthych am ei brofiadau fel myfyriwr, a gallwch hefyd sgwrsio am fywyd fel myfyriwr. Mae'r cynllun mentora cyfoedion yn ffordd wych o gwrdd â myfyrwyr ac ehangu eich cylch o ffrindiau tra byddwch yn Abertawe.

Gallwch hefyd gael cymorth gyda phroblemau personol gan ein hystod eang o wasanaethau cymorth i fyfyrwyr, fel CampusLife, Gwasanaethau Cymorth Cynhwysol i Fyfyrwyr a'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd.

Cyfleoedd Astudio Tramor a Byd-eang

I ddysgu mwy am astudio dramor, ewch i'n tudalennau gwe Go Global. Nid yw cofrestru ar raglen sy'n cynnwys semester/blwyddyn dramor yn gwarantu lleoliad gwaith semester/blwyddyn dramor yn awtomatig. Mae nifer gyfyngedig o leoedd ar gael ac yn amodol ar broses ddethol gystadleuol. Os na fyddwch chi'n llwyddo i ennill lleoliad gwaith semester/blwyddyn dramor, cewch chi eich trosglwyddo i gwrs safonol eich cynllun gradd heb semester neu flwyddyn dramor.

Mae rhaglenni rhyngwladol yr haf ar agor i fyfyrwyr o bob coleg. Fel arfer, mae rhaglenni'n para o 2 i 6 wythnos, ar draws cyrchfannau megis Tsieina, Sambia, De Corea, Siapan, Canada a ledled Ewrop. Am ragor o wybodaeth ynghylch rhaglenni a chymhwysedd, ewch i'n tudalennau gwe Haf Dramor.

Mae rhai o'n cyrsiau Mathemateg ar gael gyda blwyddyn dramor. Mae myfyrwyr Mathemateg wedi cwblhau blwyddyn dramor mewn cyrchfannau cyffrous ym mhob cwr o'r byd, diolch i'r cymorth a'r cyllid rydym yn eu cynnig. Ewch i dudalen cwrs BSc Mathemateg gyda blwyddyn dramor. 

Sut i wneud cais

Gwnewch gais nawr - myfyrwyr y DU, UE a rhyngwladol.

Cewch wybod mwy drwy ymweld â'n tudalen ar sut i wneud cais

Mathemateg Gymhwysol

  • Colegau Academaidd
  • Cyrsiau Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Coleg Y Celfyddydau a'r Dyniaethau
    • Cyrsiau Israddedig Peirianneg
    • Cyrsiau Israddedig Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd
    • Cyrsiau Israddedig y Gyfraith
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Reolaeth
    • Cyrsiau Meddygaeth Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Y Coleg Gwyddoniaeth
    • Cyrsiau Is-raddedig yn dod yn fuan!
    • Gofynion mynediad
  • Cysylltu â'r tîm derbyn israddedig
  • Diwrnodau Agored Israddedig
  • Llety
  • Sut i wneud cais am gwrs israddedig
  • Chwaraeon
  • Bywyd Myfyriwr
  • Ffioedd a Chyllid
  • Gwnewch Gais am 2021
  • Sut i baratoi ar gyfer digwyddiad ar-lein
  • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
  • Rhithdaith
  • Gwybodaeth i Rieni a Gwarcheidwaid
  • Prosbectws Israddedig
  • Pam Astudio yn Abertawe?
  • Beth yw UCAS Extra? Eich canllaw cynhwysfawr
  • Clirio
  • Newidiadau rhaglen israddedig
  • Athrawon ac Ymgynghorwyr
Ymgeisio

O ble ydych chi'n gwneud cais?

Gwneud cais fel myfyriwr o'r DU neu'r UE?

Dylai pob myfyriwr y DU neu'r UE wneud cais drwy UCAS

Ewch i UCAS

Gwneud cais fel myfyriwr rhyngwladol?

Mae gennym System Gwneud Cais uniongyrchol rhwydd a chyflym i fyfyrwyr rhyngwladol.

Ewch i'r System Gwneud Cais

Gall myfyrwyr rhyngwladol hefyd wneud cais drwy UCAS

Diwrnod Agored Gofynnwch gwestiwn i ni
  • Cysylltwch â ni
  • Swyddi
  • Colegau
  • Y Wasg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Ymwadiad a Hawlfraint
  • Map o'r Safle
  • Datganiad Caethwasiaeth Fodern
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342