Sgip i brif cynnwys Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
Menu Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
  1. Hafan
  2. Israddedig
  3. Cyrsiau Israddedig
  4. Cyrsiau Israddedig Y Coleg Gwyddoniaeth
  5. Cyfrifiadureg
  6. Cyfrifiadureg gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Hons)
  • Astudio
    • Diwrnodau Agored Rhithwir
      Student sat at a laptop wearing headphones

      Diwrnodau Agored Israddedig ac Ôl-raddedig

      Cofrestrwch nawr
    • Israddedig
      • Cyrsiau
      • Llety
      • Diwrnodau Agored
      • Sut i wneud cais
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Rhieni a Gwarcheidwaid
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Clirio ym Abertawe
    • Ôl-raddedig
      • Cyrsiau
      • Rhaglenni Ymchwil
      • Diwrnod Agored
      • Sut i Wneud Cais
      • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
      • Y Brifysgol
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
    • Bywyd Myfyriwr
      • Astudio
      • Pam Abertawe
      • Bywyd y campws
      • Chwaraeon
      • Cynaliadwyedd - Cymrwch Ran
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
      • Taith Rhithwir
      • Beth yw Pythefnos y Glas?
    • Gwasanaethau i Fyfyrwyr
      • Llyfrgelloedd ac Archifau
      • BywydCampws
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe
      • Menter Myfyrwyr
      • Canolfan Llwyddiant Academaidd
      • Academi Hywel Teifi
      • Llesiant myfyrwyr
  • Rhyngwladol
  • Ymchwil
  • Busnes
  • Cyn-fyfyrwyr
  • Y Brifysgol
    • Swyddfa'r Wasg
      Female student working with steel

      Newyddion a Ymchwil Diweddaraf straeon

      Darllenwch y newyddion diweddaraf yma
    • Y Brifysgol
      • Amdanom ni
      • Sut i ddod o hyd i ni
      • Dyfarniadau a Safleoedd y Brifysgol
      • Canmlwyddiant 2020
      • Swyddfa'r Wasg
      • Swyddi a Gweithio yn Abertawe
      • Cynaliadwyedd
      • Teithio i’r campws ac oddi yno
      • Cysylltu â ni
    • Chwaraeon
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Iechyd a Ffitrwydd
      • Perfformiad ac Ysgoloriaethau
      • Chwaraeon i fyfyrwyr - Chwaraeon Myfyriwr
      • Rhaglenni a Digwyddiadau
    • Bywyd y campws
      • Llety
      • Llefydd i Fwyta ar Gampws
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Y Neuadd Fawr
      • Taliesin
      • Creu Taliesin
      • Ein Tiroedd
      • Cerddoriaeth
      • Rhithdaith
    • Colegau Academaidd
      • Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau
      • Coleg Peirianneg
      • Gwyddorau Dynol ac Iechyd
      • Ysgol y Gyfraith
      • Yr Ysgol Reolaeth
      • Ysgol Feddygaeth
      • Y Coleg Gwyddoniaeth
      • Y Coleg
    • Academïau
      • Academi Iechyd a Llesiant
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA)
      • Academi Hywel Teifi
      • Academi Cynwysoldeb a Llwyddiant Dysgwyr Abertawe (SAILS)
  • Newyddion a Digwyddiadau
  • Cefnogaeth a Lles
  1. Hafan
  2. Israddedig
  3. Cyrsiau Israddedig
  4. Cyrsiau Israddedig Y Coleg Gwyddoniaeth
  5. Cyfrifiadureg
  6. Cyfrifiadureg gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Hons)

Cyfrifiadureg gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Hons)

Tudalennau cysylltiedig
  • Colegau Academaidd
  • Cyrsiau Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Coleg Y Celfyddydau a'r Dyniaethau
    • Cyrsiau Israddedig Peirianneg
    • Cyrsiau Israddedig Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd
    • Cyrsiau Israddedig y Gyfraith
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Reolaeth
    • Cyrsiau Meddygaeth Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Y Coleg Gwyddoniaeth
    • Cyrsiau Is-raddedig yn dod yn fuan!
    • Gofynion mynediad
  • Cysylltu â'r tîm derbyn israddedig
  • Diwrnodau Agored Israddedig
  • Llety
  • Sut i wneud cais am gwrs israddedig
  • Chwaraeon
  • Bywyd Myfyriwr
  • Ffioedd a Chyllid
  • Gwnewch Gais am 2021
  • Sut i baratoi ar gyfer digwyddiad ar-lein
  • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
  • Rhithdaith
  • Gwybodaeth i Rieni a Gwarcheidwaid
  • Prosbectws Israddedig
  • Pam Astudio yn Abertawe?
  • Beth yw UCAS Extra? Eich canllaw cynhwysfawr
  • Clirio
  • Newidiadau rhaglen israddedig
  • Athrawon ac Ymgynghorwyr
Wedi'i achredu gan Gymdeithas Gyfrifiadurol Prydain
tef gold logo Sicrwydd Ansawdd y DU
Ymgeisio

O ble ydych chi'n gwneud cais?

Gwneud cais fel myfyriwr o'r DU neu'r UE?

Dylai pob myfyriwr y DU neu'r UE wneud cais drwy UCAS

Ewch i UCAS

Gwneud cais fel myfyriwr rhyngwladol?

Mae gennym System Gwneud Cais uniongyrchol rhwydd a chyflym i fyfyrwyr rhyngwladol.

Ewch i'r System Gwneud Cais

Gall myfyrwyr rhyngwladol hefyd wneud cais drwy UCAS

Diwrnod Agored
Cadwch Mewn Cysylltiad
Student in lab

Cyfrifiadura yn Abertawe yw'r 10 uchaf yn y DU ar gyfer rhagolygon Graddedigion

The Complete University Guide 2021

Manylion Allweddol y Cwrs

  • D.U.
  • U.E.
  • Rhyngwladol
4 Blynedd Llawn Amser
Côd UCAS
G401
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
CCC-CCD
Lleoliad
Campws y Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2021 £ 9,000
4 Blynedd Llawn Amser
Côd UCAS
G401
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
CCC-CCD
Lleoliad
Campws y Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2021 £ 17,150
4 Blynedd Llawn Amser
Côd UCAS
G401
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol
CCC-CCD - Gwybodaeth Rhagor
Lleoliad
Campws y Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2021 £ 17,150
Wedi'i achredu gan Gymdeithas Gyfrifiadurol Prydain
tef gold logo tef gold logo Sicrwydd Ansawdd y DU

Trosolwg o'r Cwrs

  • 5ed am foddhad gyda'ch cwrs gan Ganllaw Prifysgol y Guardian 2021.
  • Y 10 uchaf yn y DU ar gyfer Rhagolygon Graddedigion gan Complete University Guide 2021.
  • Rydym yn yr 20 uchaf yn y DU am Ragoriaeth Ymchwil [Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014-2021].
  • Safle Byd-eang [QS Safleoedd Prifysgol y Byd].

Mae'r opsiwn Blwyddyn Sylfaen hwn yn addas os nad oes gennych y cymwysterau perthnasol i ddechrau'n uniongyrchol y BSc tair blynedd mewn Cyfrifiadureg neu Beirianneg Meddalwedd. 

Bydd ei gynnwys yn eich paratoi ac yn eich galluogi i brofi pynciau gwyddoniaeth eraill yn Abertawe.

Os byddwch yn parhau i'r radd Wyddoniaeth Gyfrifiadurol lawn, bydd yn eich rhoi ar y trywydd iawn ar gyfer gyrfaoedd arbenigol a deinamig iawn mewn peirianneg meddalwedd, data mawr a gwyddoniaeth data, dadansoddi diogelwch neu dechnolegau sy'n datblygu.

Pam Cyfrifiadureg gyda Blwyddyn Sylfaen yn Abertawe?

Mae gan bwnc Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe enw da iawn ac mae'n denu llawer o fyfyrwyr o bedwar ban byd.

O fewn chwe mis i adael, mae 93% o raddedigion naill ai mewn cyflogaeth neu'n parhau â'u hastudiaethau.

Caiff eich addysg ei llywio gan academyddion llawn ysbrydoliaeth a gydnabyddir yn rhyngwladol gan gynnwys Yr Athro Matt Jones, sydd â diddordeb brwd mewn grymuso cymunedau digidol gwledig yn y byd datblygol a'r DU.

Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill gwobr Aur TEF, sy'n gydnabyddiaeth gan Lywodraeth y DU am addysgu rhagorol.

Eich Profiad Cyfrifiadureg gyda Blwyddyn Sylfaen

  • Mae llwybr gradd sydd wedi'i strwythuro'n hyblyg yn rhoi cyfle i chi astudio dramor am flwyddyn neu weithio mewn diwydiant am flwyddyn, naill ai'n lleol, yn genedlaethol neu dramor.
  • Ymhlith ein cyfleusterau addysgu ac ymchwil o'r radd flaenaf mae'r Ffowndri Gyfrifiannu newydd sbon sy'n werth £32.5 miliwn ac sy'n cynnwys Labordy Llun a Biometrig, Labordy Gwneuthurwyr, Labordy TechHealth, Labordy Theori, Labordy Seiberddiogelwch/Rhwydweithio, Labordy Defnyddwyr ac Ystafell Ddelweddu.
  • Bydd hefyd yn cynnwys gosodiadau, cyfarpar, dyfeisiau a phrototeipiau arbrofol o'r radd flaenaf er mwyn arloesi'n gyflymach. Byddwch yn cael cyfle i ddysgu am y cyfleusterau hyn a gweithio â nhw.

Cyfleoedd Cyflogaeth Cyfrifiadureg gyda Blwyddyn Sylfaen

Mae ein graddedigion wedi dod yn: Datblygwyr Dadansoddwyr, Dadansoddwyr Busnes, Rhaglenwyr Cyfrifiadurol, Peirianwyr Electronig, Dylunwyr Graffeg, Datblygwyr Meddalwedd a Pheirianwyr Dysgu Peiriannau gyda chwmnïau sy'n cynnwys IBM, Google, Disney, Facebook, Microsoft a Sony.

Rydym yn cynnal 'Ffair Prosiect' flynyddol, gan roi cyfle i fyfyrwyr arddangos eu prosiectau trydedd flwyddyn i arbenigwyr blaenllaw yn y Diwydiant. Mae cwmnïau fel Google yn aml yn ymweld â'n myfyrwyr i roi darlithoedd ar 'sut i gael swydd gyda cewri technoleg'.

Ymwadiad Rhaglen

Prosbectws Israddedig

Darganfyddwch eich prifysgol

Ewch ar rithdaith

virtual tour

Cynnig wedi'i warantu ar gyfer 2020*

Astudio trwy’r Gymraeg

welsh medium

Manyleb Rhaglen

5 rheswm dros astudio Cyfrifiadureg yn Abertawe

Ewch ar daith o amgylch ein cyfleusterau

Diwrnod ym mywyd ein myfyriwr Cyfrifiadureg Mikaela

Bay Campus
Nothando Tsuma takes us on a tour of the facilities
Mikaela

Proffiliau Myfyrwyr

Genalyn Estrada

"Cefais gefnogaeth anhygoel gan y darlithwyr yn ogystal ag aelodau eraill o staff. Roedd pawb yn gyfeillgar ac yn mynd allan o'u ffordd i helpu."

Genalyn Estrada, Cyfrifiadura MEng, Datblygwr Salesforce, Slalom

Modiwlau

Byddwch yn astudio'r gyfres ganlynol o fodiwlau gorfodol ar ddechrau'r cwrs, cyn arbenigo yn unol â'ch diddordebau eich hun yn nes ymlaen, gan arwain at draethawd hir a phrosiect gwyddonol mawr.

Blwyddyn 0 (Lefel 3)

Entry Level 3 / Foundation Year
Modiwlau Gorfodol
Cod y ModiwlSemesterCredydauEnw'r Modiwl
CSC005 Period September-January15Computational Probability
CSC061 Period September-January15Introduction to Programming
CSC079 Period September-January15Fundamentals of Robotics
MA-006 Period September-January15Fundamental Mathematics
CS-081 Period January-June15Computational Problem Solving
CS-099 Period January-June15Computers Unplugged
CSC009 Period January-June15Technologies for Information Presentation
MA-004 Period January-June15Fundamental Geometry

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

FHEQ 4 Undergraduate / HECert
Modiwlau Gorfodol
Cod y ModiwlSemesterCredydauEnw'r Modiwl
CS-110 Period September-January15Programming 1
CS-130 Period September-January15Professional Issues 1: Computers and Society
CS-150 Period September-January15Concepts of Computer Science 1
CS-170 Period September-January15Modelling Computing Systems 1
CS-115 Period January-June15Programming 2
CS-135 Period January-June15Professional Issues 2: Software Development
CS-155 Period January-June15Concepts of Computer Science 2
CS-175 Period January-June15Modelling Computing Systems 2

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

FHEQ 5 Undergraduate / HEDip

Mae myfyrwyr yn dewis 120 o gredydau o'r opsiynau canlynol:

Modiwlau Gorfodol
Cod y ModiwlSemesterCredydauEnw'r Modiwl
CS-205 Period September-January15Declarative Programming
CS-230 Period September-January15Software Engineering
CS-250 Period September-January15Database Systems
CS-270 Period September-January15Algorithms
CS-200 Period January-June15Introduction to Human-Computer Interaction
CS-210 Period January-June15Concurrency
CS-255 Period January-June15Computer Graphics
CS-275 Period January-June15Automata and Formal Language Theory
Modiwlau Opsiynol
Elective 0 Credit Module 

Dewiswch Yn union 0 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

Cod y ModiwlSemesterCredydauEnw'r ModiwlCanllawiau
CS-203Academic Year0Professional Development and Career Planning

Blwyddyn 3 (Lefel 6)

FHEQ 6 Undergraduate / Honours

Mae myfyrwyr yn dewis 120 o gredydau o'r opsiynau canlynol:

Modiwlau Gorfodol
Cod y ModiwlSemesterCredydauEnw'r Modiwl
CSP354 Period September-June15Computer Science Project Specification and Development
Modiwlau Opsiynol
BScProject 

Dewiswch Yn union 15 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

Cod y ModiwlSemesterCredydauEnw'r ModiwlCanllawiau
CSP302 Period September-June15Computer Science Project Dissertation
CSP344 Period September-June15Computer Science Project Implementation and Dissertation
AND
 

Dewiswch Yn union 90 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

Cod y ModiwlSemesterCredydauEnw'r ModiwlCanllawiau
CSC306 Period September-January15Writing Mobile Apps
CSC309 Period September-June15Invention and Innovation in Computing
CSC313 Period September-January15High Integrity Systems
CSC318 Period September-January15Cryptography and IT-Security
CSC345 Period September-January15Big Data and Machine Learning
CSC348 Period September-January15Web Application Development
CSC372 Period September-January15Optimisation
CSC375 Period September-January15Logic for Computer Science
CSC390 Period September-January15Teaching Computing via a School Placement
CSC325 Period January-June15Artificial Intelligence
CSC337 Period January-June15Data Visualisation
CSC349 Period January-June15User Experience
CSC364 Period January-June15Software Testing
CSC368 Period January-June15Embedded System Design
CSC371 Period January-June15Advanced Object Oriented Programming
CSC384 Period January-June15Introduction to Video Games Programming
CSC385 Period January-June15Modelling and Verification Techniques

Gofynion Mynediad

Mae cynigion ar gyfer ein prif raglenni gradd tua AAB-BBB yn Safon Uwch neu DDD ar gyfer BTEC gan ddibynnu ar y pynciau a ddewisir. Mae gan ein rhaglenni MEng ac MSci fynediad un radd yn uwch. Mae cynigion ar gyfer y flwyddyn sylfaen yn CCC-CCD yn Safon Uwch neu DMM yn BTEC. Nid ydym yn ystyried Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol a gallwn wrthod neu wneud cynnig mynediad uwch i rai cyfuniadau o bwnc.

Myfyrwyr Safon Uwch: Os ydych chi'n astudio Mathemateg, Cyfrifiadureg neu Ffiseg, gall eich pynciau Safon Uwch eraill fod mewn unrhyw bwnc.

Os nad ydych chi'n astudio Mathemateg, Cyfrifiadureg neu Ffiseg, rhaid i'ch Safonau Uwch ddod o'r rhestr ganlynol o bynciau: Bioleg, Cemeg, Electroneg, Seicoleg (gellir amnewid Seicoleg gydag Economeg). Byddwn yn ystyried cyfuniadau eraill o bynciau, ond rhaid i fyfyrwyr ddangos gallu ar gyfer mathemateg a hanes profedig o gyflawniad academaidd yn y pynciau a ddewisir gennych.

Myfyrwyr BTEC:  rhaid i'r Diploma BTEC Estynedig fod yn naill ai Cyfrifiadureg neu Dechnoleg Gwybodaeth.

Ni chaiff ymgeiswyr heb radd 6/gradd B neu'n uwch mewn Mathemateg TGAU eu derbyn oni bai eich bod chi'n ailsefyll Mathemateg TGAU, neu'n astudio Safon Uwch neu Safon Uwch Gyfrannol Mathemateg (unrhyw gyfuniad), neu Ffiseg. Ni dderbynnir Mathemateg-Rhifedd TGAU yn lle TGAU Mathemateg gennym. Ni dderbynnir ymgeiswyr heb radd 4/C mewn TGAU Saesneg oni bai eu bod yn ailsefyll y pwnc.

Sut byddwch chi'n cael eich dysgu

Mae addysgu bloc un (AB1) yn rhedeg o fis Medi tan fis Ionawr ac yn ystod y bloc hwn, eleni, bydd y cwrs hwn yn cael ei ddysgu mewn ffordd ‘wedi'i gymysgu'. Mae hyn yn golygu y bydd rhywfaint o addysgu yn digwydd ar-lein a bydd rhai ar y campws. Gall yr addysgu ar-lein, lle byddwch yn gorfforol ar wahân i'ch darlithydd, fod yn 'fyw' gyda'ch darlithydd yn bresennol a fydd hyn yn gyfle i ryngweithio. Yna fydd rhywfaint ohono yn hunangyfeiriedig, sy'n golygu y gallwch gael gafael ar y deunyddiau dysgu ar amser sy'n addas i chi.  

Bydd yr union gyfuniad o weithgareddau’n amrywio yn ôl disgyblaeth ac o flwyddyn i flwyddyn; ni fydd pob gweithgaredd yn cael ei ddefnyddio ym mhob achos. 

 YN FYWHUNAN-GYFEIRIEDIG
AR-LEIN
  • Darlithoedd
  • Labordai cyfrifiaduron ar-lein
  • Rhywfaint o fentora academaidd
  • Oriau swyddfa
  • Fideos Deunydd Darlithoedd
  • Astudio Annibynnol
  • Profion Ffurfiannol
  • Darllen dan: Gyfarwyddyd Asesiadau   
AR Y CAMPWS
  • Y rhan fwyaf o sesiynau yn y labordai cyfrifiaduron
  • Seminarau grŵp bach
  • Mentora academaidd mewn grwpiau
  • Goruchwylio prosiectau
  • Gwaith grŵp (blwyddyn 2)
  • Prosiectau (blynyddoedd 3 a 4

Darpariaeth Gymraeg

Rhywfaint o ddarpariaeth

Darperir rhai elfennau o'r cwrs hwn trwy gyfrwng y Gymraeg ond nid oes digon o ddarpariaeth eto i gyrraedd 40 credyd ym mhob blwyddyn. Mae Academi Hywel Teifi yma i'th gefnogi trwy gydol dy amser ym Mhrifysgol Abertawe. Rydym yn cynnig:

  • Fynediad at ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gyfer astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Mynediad at fodiwlau a addysgir yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn Gymraeg.
  • Mynediad at ap Arwain er mwyn derbyn y diweddaraf am ein cyrsiau a'n modiwlau cyfrwng Cymraeg. Gelli di lawrlwytho'r ap am ddim drwy'r App Store a Google Play.
  • Yr opsiwn am gyfweliad trwy gyfrwng y Gymraeg wrth wneud cais am le.
  • Yr opsiwn i dderbyn dy ohebiaeth bersonol yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog.
  • Yr opsiwn i ysgrifennu a chyflwyno gwaith cwrs neu sefyll arholiadau trwy gyfrwng y Gymraeg (hyd yn oed os wyt ti wedi dewis astudio yn Saesneg), a bydd dy waith yn cael ei farcio yn Gymraeg.
  • Mentor Academaidd Cymraeg ei iaith.
  • Cefnogaeth un i un i wella dy sgiliau Cymraeg academaidd.
  • Cyfle i ennill cymhwyster ychwanegol sy'n dystiolaeth o dy allu Cymraeg i gyflogwyr y dyfodol.
  • Cyfle i fod yn aelod o Gangen Prifysgol Abertawe o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Cer i'r dudalen Mae Gen i Hawl am wybodaeth bellach am hawliau myfyrwyr.

Bydd parhau i astudio trwy'r Gymraeg yn:

  • ddatblygiad naturiol i ti os wyt ti wedi astudio trwy'r Gymraeg yn yr ysgol neu'r coleg
  • ffordd o sicrhau dy gyfle i gael yr addysg orau
  • ffordd o dderbyn lefel uchel o gefnogaeth wrth i'r grwpiau astudio fod yn llai
  • ychwanegiad gwerthfawr i dy CV a dy ddatblygiad gyrfaol

Mae cyfleoedd ar gael i fyfyrwyr sy'n rhugl ac yn hyderus yn yr iaith yn ogystal ag i'r rhai sy'n llai hyderus neu sy'n ddysgwyr. Mae'n bosibl hefyd dewis dosbarthiadau seminar a thiwtorial cyfrwng Cymraeg ar gyfer modiwlau sy'n cael eu dysgu yn bennaf drwy gyfrwng y Saesneg.

Cwrdd â'ch Darlithwyr

Byddwch yn ymuno â'n cymuned Gyfrifiadureg ac yn cael eich addysgu gan ddarlithwyr o'r radd flaenaf sy'n frwdfrydig dros eu hymchwil ac sy'n gweithio tuag at Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig i newid y byd er gwell. Ymhlith ein meysydd ymchwil mae arian crypto, diogelwch data, seiberdrosedd a thechnolegau rhyngweithio'r dyfodol.

Yr Athro Arnold Beckmann Pennaeth Adran

Dr Monika Seisenberger Cyfarwyddwr y Rhaglen

Dr Phillip James Tiwtor Derbyniadau

Ewch i weld holl staff Cyfrifiadureg

Ffioedd Dysgu

Dyddiad Dechrau D.U. U.E. Rhyngwladol
Medi 2020 £ 9,000 £ 9,000 £ 16,650
Medi 2021 £ 9,000 £ 17,150 £ 17,150

Gellir codi ffioedd myfyrwyr Israddedig y DU llawn amser yn chwyddiannol mewn blynyddoedd astudio i ddod. Penderfynir ar y swm gan Lywodraeth Cymru.

Bydd ffioedd ar gyfer myfyrwyr UE/Rhyngwladol Israddedig yn cynyddu 3% ar gyfer pob blwyddyn ddilynol o astudio.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Myfyrwyr cyfredol: Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Ariannu ac Ysgoloriaethau

Mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at eich astudiaethau.

I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd eraill am gymorth ariannol sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gael gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. I ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi

Costau Ychwanegol

Bydd mynediad i'ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i'ch galluogi i ymgysylltu'n llawn â'ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i'w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu'ch dyfais.

Efallai y byddwch chi'n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Teithio i'r campws ac oddi yno
  • Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
  • Prynu llyfrau neu werslyfrau
  • Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe'n cefnogi myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar bob cam yn eu taith yrfaol.

Mae ein gwasanaethau cymorth gyrfaoedd yn cynnwys:

  • Gweithdai cyflogadwyedd, sgyrsiau gan gyflogwyr, digwyddiadau pwrpasol a ffeiriau gyrfaoedd
  • Cyngor ac arweiniad unigol gan Ymgynghorwyr Gyrfaoedd proffesiynol
  • Cymorth i chwilio am swyddi, interniaethau, lleoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli
  • Mynediad i adnoddau gwybodaeth am amrywiaeth eang o bynciau rheoli gyrfa
  • Cyngor ac arweiniad ar astudio a chyllid i fyfyrwyr ôl-raddedig.
  • Ariannu i gefnogi cyfleoedd interniaethau myfyrwyr a digwyddiadau Cymdeithasau/Clybiau Myfyrwyr

Rydym hefyd yn darparu cymorth a chyngor i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe am hyd at bum mlynedd ar ôl iddynt raddio.

Mae ein graddedigion Cyfrifiadureg yn cael eu rhoi ar ben y ffordd i gael amrywiaeth o gyfleoedd ysgogol, ac maent wedi symud ymlaen i gyflawni rolau mewn cwmnïau fel IBM, Google, Disney a Sony

Efallai y gwelwch fod eich dyfodol mewn rôl fel dylunydd, peiriannydd neu brofwr meddalwedd. Mae'n bosibl y byddwch yn gweithio fel gwyddonydd data neu ym maes technoleg ffonau clyfar. Gan fod technoleg yn datblygu mor gyflym, efallai y byddwch yn arbenigo mewn maes nad yw'n cael ei gydnabod yn llawn eto, hyd yn oed.

 

Cymorth Academaidd

Yn ogystal â chymorth pwnc penodol gan staff addysgu'r coleg a'ch mentor academaidd personol, mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn darparu cyrsiau, gweithdai a chymorth un-i-un mewn meysydd fel:

  • Ysgrifennu academaidd
  • Mathemateg ac ystadegau
  • Meddwl critigol
  • Rheoli amser
  • Sgiliau digidol
  • Sgiliau cyflwyno
  • Cymryd nodiadau
  • Technegau adolygu, dysgu ar gof ac arholiadau
  • Sgiliau Saesneg (os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf)

Yn ogystal, os oes gennych Anhawster Dysgu Penodol (ADP/SpLD), anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu gyflwr meddygol, mae gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd Diwtoriaid Arbenigol i gefnogi'ch dysgu. Bydd y tiwtoriaid yn gweithio ochr yn ochr â'r Swyddfa Anabledd a'r Gwasanaeth Lles i gefnogi eich holl anghenion a gofynion tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae ein darlithwyr yn dilyn polisi ‘drws agored’ felly gallwch sgwrsio â nhw am unrhyw bryderon sydd gennych. Nid oes rhaid i'r rhain ymwneud â'r cwrs yn unig; mae ein staff academaidd ar gael i'ch helpu gydag unrhyw beth yn ystod eich amser ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae gan bob cwrs gynrychiolydd myfyrwyr. Eu rôl yw gwrando ar eich barn ac adrodd yn ôl, mynychu cyfarfodydd rheolaidd a gwneud yn siŵr bod y bobl sy'n gallu gwneud newidiadau yn gwrando ar y bobl sydd wir yn bwysig – chi!

Rydym yn cynnig mentora academaidd a mentora gan gyfoedion.  Caiff Mentor Academaidd ei neilltuo i bob myfyriwr ar ein cyrsiau gradd, ac nid yn unig y bydd y Mentor yn cynnig arweiniad academaidd ond bydd hefyd yn rhoi cyngor ar gael gafael ar gymorth gyda phroblemau personol. Mae ein cynllun mentora cyfoedion ar waith er mwyn helpu myfyrwyr newydd i ymgartrefu. Byddwch yn cael cyfle i siarad â'ch mentor a fydd yn gallu dweud wrthych am ei brofiadau fel myfyriwr. Mae'r cynllun mentora gan gymheiriaid yn ffordd wych o gwrdd â myfyrwyr ac ehangu eich cylch o ffrindiau tra byddwch yn Abertawe.

Gallwch hefyd gael cymorth gyda phroblemau personol gan ein hystod eang o wasanaethau cymorth i fyfyrwyr, fel CampusLife, Gwasanaethau Cymorth Cynhwysol i Fyfyrwyr a'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd.

Cyfleoedd Astudio Tramor a Byd-eang

I ddysgu mwy am astudio dramor, ewch i'n tudalennau gwe Go Global. Nid yw cofrestru ar raglen sy'n cynnwys semester/blwyddyn dramor yn gwarantu lleoliad gwaith semester/blwyddyn dramor yn awtomatig. Mae nifer gyfyngedig o leoedd ar gael ac yn amodol ar broses ddethol gystadleuol. Os na fyddwch chi'n llwyddo i ennill lleoliad gwaith semester/blwyddyn dramor, cewch chi eich trosglwyddo i gwrs safonol eich cynllun gradd heb semester neu flwyddyn dramor.

Mae rhaglenni rhyngwladol yr haf ar agor i fyfyrwyr o bob coleg. Fel arfer, mae rhaglenni'n para o 2 i 6 wythnos, ar draws cyrchfannau megis Tsieina, Sambia, De Corea, Siapan, Canada a ledled Ewrop. Am ragor o wybodaeth ynghylch rhaglenni a chymhwysedd, ewch i'n tudalennau gwe Haf Dramor.

Efallai bod gennych eisoes y cyfle i astudio neu weithio dramor fel rhan o’ch gradd, ond gallwch hefyd ystyried rhaglen haf ryngwladol.

Mae'r rhaglenni ar agor i fyfyrwyr israddedig y Brifysgol ac ymhlith yr opsiynau mae teithiau astudio a diwylliannol, rhaglenni gwirfoddoli ac interniaethau ledled gwledydd tramor fel Tsieina, Sambia, De Corea, Siapan, Ewrop a Chanada. Fel rheol, mae rhaglenni dros gyfnod o 2 – 6 wythnos ac mae cyllid ar gael. Am fwy o wybodaeth ewch i swansea.ac.uk/summerprogrammes.

Sut i wneud cais

Gwnewch gais nawr - myfyrwyr y DU, UE a rhyngwladol.

Cewch wybod mwy drwy ymweld â'n tudalen ar sut i wneud cais

Cyrsiau cyn-sesiynol

i'r rhai sy'n dymuno astudio yn y Coleg Gwyddoniaeth

Cyfrifiadureg gyda Blwyddyn Sylfaen

  • Colegau Academaidd
  • Cyrsiau Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Coleg Y Celfyddydau a'r Dyniaethau
    • Cyrsiau Israddedig Peirianneg
    • Cyrsiau Israddedig Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd
    • Cyrsiau Israddedig y Gyfraith
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Reolaeth
    • Cyrsiau Meddygaeth Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Y Coleg Gwyddoniaeth
    • Cyrsiau Is-raddedig yn dod yn fuan!
    • Gofynion mynediad
  • Cysylltu â'r tîm derbyn israddedig
  • Diwrnodau Agored Israddedig
  • Llety
  • Sut i wneud cais am gwrs israddedig
  • Chwaraeon
  • Bywyd Myfyriwr
  • Ffioedd a Chyllid
  • Gwnewch Gais am 2021
  • Sut i baratoi ar gyfer digwyddiad ar-lein
  • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
  • Rhithdaith
  • Gwybodaeth i Rieni a Gwarcheidwaid
  • Prosbectws Israddedig
  • Pam Astudio yn Abertawe?
  • Beth yw UCAS Extra? Eich canllaw cynhwysfawr
  • Clirio
  • Newidiadau rhaglen israddedig
  • Athrawon ac Ymgynghorwyr
Ymgeisio

O ble ydych chi'n gwneud cais?

Gwneud cais fel myfyriwr o'r DU neu'r UE?

Dylai pob myfyriwr y DU neu'r UE wneud cais drwy UCAS

Ewch i UCAS

Gwneud cais fel myfyriwr rhyngwladol?

Mae gennym System Gwneud Cais uniongyrchol rhwydd a chyflym i fyfyrwyr rhyngwladol.

Ewch i'r System Gwneud Cais

Gall myfyrwyr rhyngwladol hefyd wneud cais drwy UCAS

Diwrnod Agored Gofynnwch gwestiwn i ni
  • Cysylltwch â ni
  • Swyddi
  • Colegau
  • Y Wasg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Ymwadiad a Hawlfraint
  • Map o'r Safle
  • Datganiad Caethwasiaeth Fodern
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342