Trosolwg o'r Cwrs
Defnyddiwch eich diddordeb yn y gorffennol yn dda drwy astudio Ieithoedd Modern a Hanes ym Mhrifysgol Abertawe. Byddwch yn meithrin sgiliau sy'n werthfawr i gyflogwyr ar draws amrywiaeth o sectorau, wrth archwilio cyflwr dynol o'r Oesoedd Canol hyd at heddiw.
Mae Hanes ac Ieithoedd Modern yn archwilio hanes drwy bynciau gan gynnwys hanes a rhywedd menywod, hanes cymdeithasol Prydain fodern a hanes crefydd, iechyd a meddygaeth, gan ymestyn o'r Oesoedd Canol hyd at yr oes fodern. Byddwch hefyd yn astudio amrywiaeth gyfoethog yr iaith o'ch dewis (Ffrangeg, Almaeneg neu Sbaeneg), ynghyd â modiwlau mewn astudiaethau diwylliannol, ffilmiau, hanes, cyfieithu ac addysgu ieithoedd.
Mae astudio'r cwrs gradd hwn yn agor drysau i amrywiaeth o gyfleoedd gyrfaoedd cyffrous drwy eich helpu chi i ddatblygu sgiliau sy'n werthfawr iawn i gyflogwyr.
Gellir astudio'r cwrs mewn tair blynedd neu gallwch chi ymestyn eich astudiaethau am flwyddyn ychwanegol drwy ymgymryd â Blwyddyn Dramor neu Flwyddyn mewn Diwydiant*. Bydd yr opsiynau ychwanegol hyn yn caniatáu i chi wella ymhellach eich profiad fel myfyriwr drwy roi dealltwriaeth unigryw i chi o fyd diwylliant a chyfleoedd sy'n seiliedig ar sgiliau.
Pam ieithoedd modern a hanes ym mhrifysgol abertawe?
Mae ein cwrs Ieithoedd Modern a Hanes ym Mhrifysgol Abertawe, y byddwch yn ei astudio ar ein Campws Parc Singleton hardd, mewn parcdir sy’n edrych dros Fae Abertawe ar ymyl Penrhyn Gŵyr, yn uchel ei barch ymhlith myfyrwyr a chyflogwyr.
Mae Ieithoedd Modern yn Abertawe wedi'i restru fel a ganlyn:
- 1af yn y DU ar gyfer Boddhad Addysgu (Guardian University Guide 2025)
- 1af ar gyfer Cyfleoedd Dysgu (NSS 2024)*
- 2il ar gyfer Addysgu (ACF 2024)**
- 2il ar gyfer Llais Myfyrwyr (NSS 2024)*
- 5ed yn y DU yn gyffredinol (Guardian University Guide 2025), ac mae
- 93% o raddedigion mewn cyflogaeth a/neu'n astudio, neu'n ymgymryd â gweithgareddau eraill, megis teithio, 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (HESA 2023)
*Yn seiliedig ar y sgôr positifrwydd cyfartalog ar draws cwestiynau 5 i 9 yn ACF 2024 o’i gymharu â’r prifysgolion sydd wedi’u cynnwys yn y Times Good University Guide.
**Yn seiliedig ar y sgôr positifrwydd cyfartalog ar draws cwestiynau 1 i 4 yn ACF 2024 o’i gymharu â’r prifysgolion yn y Times Good University Guide.
***Yn seiliedig ar y sgôr positifrwydd cyfartalog ar draws cwestiynau 22 i 25 yn yr ACF 2024 o’i gymharu â’r prifysgolion sydd wedi’u cynnwys yn y Times Good University Guide.
Mae Hanes yn Abertawe wedi'i restru fel a ganlyn:
- Ymhlith y 25 safle uchaf am Foddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2025)
- Byddwch yn cael eich addysgu gan staff sydd ag arbenigedd mewn hanes Prydeinig, Ewropeaidd ac Americanaidd, o'r Oesoedd Canol hyd at heddiw, ar bynciau sy'n cynnwys rhywedd, rhywioldeb ac anghydraddoldebau; treftadaeth a hanes yn y gweithle; meddygaeth, iechyd ac anabledd; a rhyfel, trais a heddwch.
Eich profiad Ieithoedd Modern a Hanes
Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu a chymuned gynhwysol sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr. Caiff modiwlau eu haddysgu a’u hasesu mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol a chewch eich annog i gymryd cyfrifoldeb am eich dysgu eich hun, i weithio’n annibynnol yn ogystal ag ar y cyd ag eraill, i ymddwyn yn broffesiynol a meistroli sgiliau newydd.
Drwy gydol eich cwrs, bydd gennych diwtor personol i'ch cefnogi chi i gyrraedd eich nodau. Mae'r Gymdeithas Hanes, a arweinir gan fyfyrwyr, sy'n trefnu digwyddiadau cymdeithasol a gweithgareddau diwylliannol, yn un o'r llawer o gymdeithasau y bydd gennych fynediad atynt fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae'r Flwyddyn Dramor yn cynnig cyfle i chi astudio yn un o'n sefydliadau partner yn Ffrainc, Gwlad Belg, y Swistir, Sbaen, yr Almaen neu Awstria. Fel arall, gallwch ddewis gweithio fel athro Saesneg Iaith Dramor drwy'r British Council. Ar gyfer myfyrwyr Sbaeneg, mae cyfleoedd ychwanegol ar gael yn America Ladin. Mae treulio blwyddyn dramor, naill ai ar leoliad gwaith â thâl neu astudio yn un o'n sefydliadau partner yn gyfle cyffrous a gwerthfawr a fydd yn rhoi hwb pellach i'ch profiad fel myfyriwr a'ch rhagolygon cyflogaeth.
Gellir treulio'r Flwyddyn mewn Diwydiant yn y DU neu dramor**, gan roi profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl, sydd â chyflog o £20,000+ ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos. Er mai cyfrifoldeb y myfyriwr yw sicrhau lleoliad, rydym yn gweithio gyda sawl sefydliad sy'n cynnig cyfleoedd amrywiol. Cefnogir myfyrwyr drwy gydol taith y cais gyda chyngor, arweiniad ac adnoddau. Os na allwch sicrhau lleoliad erbyn diwedd yr ail flwyddyn astudio, byddwch yn trosglwyddo i'r rhaglen radd gyfatebol.
*Cyfrifoldeb y myfyriwr yw sicrhau lleoliad, ond byddwch yn cael eich cefnogi drwy gydol taith eich cais gyda chyngor ac arweiniad. Os na allwch sicrhau lleoliad erbyn diwedd yr ail flwyddyn astudio, byddwch yn trosglwyddo i'r rhaglen radd gyfatebol.
**Mae lleoliadau tramor yn dibynnu ar gyfyngiadau FISA fesul gwlad.
Cyfleoedd Cyflogadwyedd Ieithoedd Modern a Hanes
Mae astudio Ieithoedd Modern a Hanes yn datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol, cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig, datrys problemau a chasglu a dadansoddi gwybodaeth.
Mae ein graddedigion yn symud ymlaen i weithio mewn amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys:
- Addysg
- Y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus
- Treftadaeth ac Amgueddfeydd
- Busnes a rheoli
- Y Gyfraith a Gwasanaethau Cyhoeddus