Trosolwg o'r Cwrs
Gyda'n gradd Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd newydd gyda blwyddyn dramor, gallwch ddysgu dwy iaith, ynghyd â chyfieithu a chyfieithu ar y pryd, sy'n agor drysau i yrfaoedd posib cyffrous ym mhedwar ban byd.
Ym Mhrifysgol Abertawe, gallwch astudio Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg ar lefel ar ôl Safon Uwch ac ar lefel dechreuwyr. Gall myfyrwyr â Safon Uwch yn nwy o’r ieithoedd hyn barhau i astudio’r ddwy iaith gyda ni ar lefel uwch.
Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr â Safon Uwch yn un o’r ieithoedd hyn ddysgu iaith arall drwy ein modiwlau iaith ar gyfer dechreuwyr yn benodol. O’r rhaglen hon, byddwch yn meithrin yr wybodaeth a’r sgiliau ymarferol i’ch paratoi ar gyfer gyrfa broffesiynol ym maes ieithoedd yn y byd modern. Sylwer bod rhaid i chi feddu ar o leiaf un cymhwyster safon uwch (neu gymhwyster cyfwerth) mewn iaith berthnasol i gael eich ystyried am y rhaglen radd hon.
Gallwch astudio Ffrangeg a Sbaeneg ar ôl lefel A ac o lefel dechreuwyr. Gallwch hefyd ddewis dysgu Almaeneg o lefel dechreuwyr, naill ai mewn cyfuniad â Ffrangeg neu Sbaeneg uwch, neu ar ei ben ei hun. Mae posibilrwydd i fyfyrwyr sy'n dymuno ehangu eu hystod o ieithoedd astudio modiwlau rhagarweiniol mewn Catalaneg, Eidaleg a Phortiwgaleg.
Byddwch hefyd yn treulio blwyddyn dramor, yn astudio mewn un o'n sefydliadau partner â rhaglenni cyfieithu a chyfieithu ar y pryd rhagorol. Dyma gyfle cyffrous a gwerthfawr a fydd yn cryfhau eich profiad fel myfyriwr a'ch rhagolygon gyrfa.