Trosolwg o'r Cwrs
Astudiwch ein gradd Llenyddiaeth Saesneg a Gwleidyddiaeth sy'n cael ei chanmol yn fawr er mwyn darganfod cwrs amrywiol a heriol a myfyrio ar y ffordd mae gwleidyddiaeth yn dylanwadu ar lenyddiaeth.
Bydd gennych opsiwn o dreulio semester yn UDA, Hong Kong neu Singapôr yn ystod eich ail flwyddyn, er mwyn profi bywyd dramor a chyfoethogi eich rhagolygon gyrfa.
Gallwch ymchwilio i amrywiaeth o bynciau, gan amrywio o lenyddiaeth o gyfnod y Dadeni, ffuglen Gothig a phoblogaidd, llenyddiaeth y 19eg ganrif, ffuglen gyfoes, rhywedd, diwylliant, ysgrifennu creadigol a phroffesiynol i ddamcaniaeth ac athroniaeth wleidyddol, gwleidyddiaeth Prydain ac Ewrop, democratiaeth a pholisi cyhoeddus.
Rydym yn cynnig cynnwys cwrs amrywiol a hyblyg, felly gallwch deilwra eich cwrs gradd mewn ffordd sy'n gweddu i'ch diddordebau. Wrth i chi fynd yn eich blaen drwy'r cwrs, gallwch ddewis arbenigo yn y pynciau sydd orau gynnych.
Mae Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe yn y 7fed safle yn y DU (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014) ac yn y 15 uchaf am ragolygon i raddedigion (The Times and Sunday Times Good University Guide 2018).