Trosolwg o'r Cwrs
Mae Hanes yr Henfyd yn ystyried ac yn archwilio gwareiddiadau Groegaidd a Rhufeinig a all ymddangos yn hen iawn ond sy'n dal i gael dylanwad hyd yn oed heddiw. Mae'r cwrs gradd BA pedair blynedd hwn yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa cyffrous drwy eich helpu i ddatblygu sgiliau y mae cyflogwyr yn rhoi llawer o werth arnynt.
Mae'r flwyddyn sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i addysg uwch i chi, gan archwilio'r dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol cyn symud ymlaen i'r rhaglen gradd lawn. Mae'n ddelfrydol os oes angen ychydig mwy o gymorth arnoch ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd at addysg ar ôl cyfnod o amser.
Cewch gyfle i archwilio sawl agwedd ar wareiddiadau Groegaidd a Rhufeinig gan gynnwys hanes a chymdeithas, pensaernïaeth ac archaeoleg, rhyfel ac ymerodraeth, rhywedd, crefydd, gwleidyddiaeth ac economeg, a gallwch hefyd fynd ati i ddysgu Groegeg neu Ladin.
Gyda 94% o fyfyrwyr yn gweithio neu'n astudio ymhellach chwe mis ar ôl graddio (Cyrchfannau Myfyrwyr sy'n Gadael Addysg Uwch 2017), bydd ein gradd Hanes yr Henfyd yn rhoi siawns dda i chi o lwyddo mewn amrywiaeth o yrfaoedd.