Trosolwg o'r Cwrs
Mae Gwareiddiad Clasurol gyda Blwyddyn Sylfaen yn cwmpasu llenyddiaeth a diwylliant y bydoedd Groegaidd a Rhufeinig, a bydd y cwrs gradd BA pedair blynedd integredig hwn yn cynnig amrywiaeth o bosibiliadau gyrfa cyffrous drwy eich helpu i feithrin sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn rhoi llawer o werth arnynt.
Mae'r flwyddyn sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i addysg uwch i chi, gan archwilio'r dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol cyn symud ymlaen i'r rhaglen gradd lawn. Mae'n ddelfrydol os oes angen ychydig mwy o gymorth arnoch ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd at addysg ar ôl cyfnod o amser.
Byddwch yn cael y cyfle i ystyried ac archwilio mytholeg, ieithoedd ac athroniaeth Groeg yr Henfyd ynghyd â barddoniaeth serch Rufeinig, rhamant Roegaidd, byddinoedd a gelynion Rhufain imperialaidd neu rywedd yn y byd Rhufeinig.
Mae Prifysgol Abertawe yn y 10 uchaf yn y Guardian University Guide (Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr 2018), a byddwch yn cael cyfle i dreulio tymor yn astudio dramor naill ai yn UDA, Canada, Tsieina, Hong Kong neu Singapôr yn ystod yr ail flwyddyn, gan wella eich profiad fel myfyriwr a'ch rhagolygon gyrfa ymhellach.