Trosolwg o'r Cwrs
Mae Gwareiddiad Clasurol yn cwmpasu llenyddiaeth a diwylliant y bydoedd Groegaidd a Rhufeinig, a bydd y cwrs gradd BA tair blynedd hwn yn cynnig amrywiaeth o bosibiliadau gyrfa cyffrous drwy eich helpu i feithrin sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn rhoi llawer o werth arnynt.
Gellir dadlau mai diwylliannau Groeg a Rhufain yw conglfeini gwareiddiad y gorllewin. Byddwch yn archwilio sawl agwedd ar y diwylliannau hynny gan gynnwys mytholeg, hanes a chymdeithas, drama, athroniaeth, ffuglen, dychan, celf a phensaernïaeth yn ogystal â'r ieithoedd Groeg a Lladin.
Cewch gyfle i ystyried ac archwilio gwareiddiadau a all ymddangos yn hen iawn ond sy'n dal i gael dylanwad yn yr 21ain ganrif.
Mae Prifysgol Abertawe yn y 10 uchaf yn y Guardian University Guide (Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr 2018), a byddwch yn cael cyfle i dreulio tymor yn astudio dramor naill ai yn UDA, Canada, Tsieina, Hong Kong neu Singapôr yn ystod yr ail flwyddyn, gan wella eich profiad fel myfyriwr a'ch rhagolygon gyrfa ymhellach.