Trosolwg o'r Cwrs
Mae Eifftoleg a Gwareiddiad Clasurol yn cwmpasu mytholeg Roegaidd a Rhufeinig, iaith, llenyddiaeth, hanes a diwylliant yr Hen Aifft, a bydd y cwrs gradd BA cydanrhydedd tair blynedd hwn yn cynnig amrywiaeth o bosibiliadau gyrfa cyffrous drwy eich helpu i feithrin sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn rhoi llawer o werth arnynt.
Byddwch yn astudio mytholeg Roegaidd a Rhufeinig, hanes a chymdeithas, drama, athroniaeth, celf a phensaernïaeth yr Aifft, hanes a gwareiddiad yr Hen Aifft, archaeoleg, crefydd, rhyw a rhywedd, hanes a chymdeithas y bydoedd Groegaidd a Rhufeinig, rhyfel ac ymerodraeth, ac yn dysgu iaith Groeg, Lladin neu Eiffteg.
Mae pwnc Eifftoleg a Gwareiddiad Clasurol ym Mhrifysgol Abertawe yn y safle uchaf yn y DU am foddhad myfyrwyr (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, Complete University Guide 2018) a bydd gennych opsiwn o dreulio semester dramor yn ystod eich ail flwyddyn, naill ai yn UDA, Canada, Tsieina, Hong Hong neu Singapôr er mwyn cyfoethogi eich profiad fel myfyriwr a'ch rhagolygon gyrfa.