Trosolwg o'r Cwrs
Mae Hanes a’r Gymraeg yn archwilio hanes canoloesol, modern cynnar a modern drwy bynciau sy’n cynnwys hanes a rhywedd menywod, hanes diwylliannol, a hanes crefydd, iechyd a meddygaeth. Byddwch yn dysgu am y Gymraeg yn y gweithle, Cymraeg ddoe a heddiw, gweithio mewn dwy iaith a llenyddiaeth gyfoes.
Yn ystod blwyddyn gyntaf y cwrs hwn, bydd dechreuwyr pur yn y Gymraeg yn dilyn modiwlau sydd â’r nod o ddarparu sylfaen gadarn mewn gramadeg y Gymraeg, yr iaith lafar a’r diwylliant.
Mae astudio’r cwrs gradd BA dair-blynedd hon yn agor y drws ar ystod eang o gyfleoedd gyrfa cyffrous gan eich helpu i ddatblygu sgiliau sy’n werthfawr iawn i gyflogwyr.
Mae 94% o’n graddedigion Hanes naill ai wedi’u cyflogi neu’n gwneud astudiaethau pellach o fewn chwe mis o raddio (Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch 2015).