Darganfyddwch sut mae prosesau naturiol, cymdeithasol a ffisegol yn dylanwadu ar ein byd a meithrin y sgiliau a'r wybodaeth i ymateb i heriau byd-eang fel anghydraddoldeb a newid yn yr hinsawdd.

Mae Daearyddiaeth yn Abertawe yn gymuned fawr ac amrywiol. Ein cartref ni yw Adeilad Wallace - yr adran ddaearyddiaeth bwrpasol gyntaf yn y DU. Rydym yn addysgu pob agwedd ar ddaearyddiaeth ddynol a ffisegol ac yn cynnig rhaglenni gwyddor yr amgylchedd, geowyddoniaeth a’r argyfwng hinsawdd.

Mae ein graddau sydd wedi'u hachredu gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (gyda Sefydliad Daearyddwyr Prydain) yn ymdrin ag egwyddorion hanfodol daearyddiaeth ddynol a ffisegol, a sgiliau technegol allweddol megis mewn GIS (Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol), gwyddorau'r ddaear, a dulliau meintiol ac ansoddol.

Ymunwch â ni mewn lle unigryw i astudio daearyddiaeth, ar drothwy arfordir Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU, yn agos at ddau o dri pharc cenedlaethol Cymru, ac o fewn pellter cerdded o amgueddfeydd ac orielau celf ein dinas.

Yn Abertawe:

  • Mae ein teithiau maes lleol rheolaidd yn manteisio ar amgylchedd de Cymru.
  • Mae modiwlau rhyngwladol yn eich helpu i feithrin sgiliau ymarferol a sgiliau maes, wrth astudio mewn dinasoedd byd-eang fel Berlin a Vancouver, a lleoliadau unigryw fel Himalaia India.
  • Wrth gynllunio ein cyrsiau maes rydym yn ystyried eu hôl troed carbon, ac rydym yn cynnig modiwlau maes carbon isel, i Ynysoedd Sili ar hyn o bryd.
  • Mae ein hymchwil fyd-eang yn llywio ein haddysgu, ac mae ein hadran, gyda'i hyb cymdeithasol canolog, yn cynnig amser a lle i ryngweithio ag academyddion a'ch cymuned o fyfyrwyr.
  • Gallwch estyn eich gradd drwy dreulio blwyddyn dramor, neu wella eich cyflogadwyedd drwy ein blwyddyn mewn diwydiant.
  • Mae’r sgiliau daearyddol sydd wedi'u hymgorffori yn ein rhaglenni wedi'u cynllunio i'ch paratoi ar gyfer y farchnad gyflogaeth. Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i ystod eang o yrfaoedd ar draws amrywiaeth helaeth o sectorau.
  • Mae ein rhaglenni sylfaen mewn Daearyddiaeth a Gwyddor yr Amgylchedd a'r Argyfwng Hinsawdd yn rhoi amser ychwanegol i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau ar BSc pedair blynedd gyda blwyddyn sylfaen.

Newid Hinsawdd: Darllen Y Gorffennol Mewn Data Cylchoedd Coed