Darganfyddwch ein triciau a’n cyngor
Yma yn Swyddfa Recriwtio Prifysgol Abertawe, rydym o hyd yn chwilio am wybodaeth newydd i rannu gydag ysgolion er mwyn cefnogi myfyrwyr gyda’r broses Addysg Uwch yn y ffordd gorau posib. Mae ein blogiau yn ffordd wych o ddarganfod y newyddion diweddaraf o Brifysgol Abertawe, gyda chymorth i chi ar arwain eich myfyrwyr trwy’r broses UCAS.
Cadwch lygaid am flogiau misol o’n Swyddogion Recriwtio Myfyrwyr Israddol, a chysylltwch â ni os hoffech chi drefnu sesiynau arbennig addysg uwch ar gyfer eich myfyrwyr ar y pynciau a soniwyd amdano.
Athrawon, cydweithwyr gyrfaoedd a staff cymorth: Teachers Guide to University
Mae'r canllaw i athrawon wedi cael ei lunio gan UniTasterDays.com mewn cydweithrediad â HELOA – er mwyn cefnogi’r cyfarwyddyd ar brifysgolion a ddarperir mewn ysgolion uwchradd a cholegau.
Mae mwy na 60 o gydweithwyr wedi cyflwyno cynnwys golygyddol, gan gynnwys prifysgolion ledled y DU (megis Abertawe!). Mae ein pynciau'n cynnwys sut i helpu myfyrwyr i wneud penderfyniadau ar brifysgolion, digwyddiadau mewn prifysgolion, ehangu cyfranogiad a mynediad teg, ceisiadau UCAS (gan gynnwys ysgrifennu geirdaon ysgol) a llawer mwy.
Cewch eich copi AM DDIM nawr (ni fydd angen cofrestru)
Canllaw Myfyrwyr i’r Brifysgol 2023 UniTasterDays
Lluniwyd Canllaw Myfyrwyr i’r Brifysgol gan UniTasterDays.com mewn cydweithrediad â HELOA, i gefnogi myfyrwyr i wneud penderfyniadau gwych am fynd i’r brifysgol. Mae cynnwys golygyddol wedi’i ddarparu gan fwy na 35 o arbenigwyr prifysgolion, gan gynnwys Prifysgol Abertawe.
Mae’r canllaw hwn wedi’i rannu’n adrannau a gynlluniwyd i gefnogi myfyrwyr gyda chamau gwahanol yn eu teithiau penderfyniadau addysg uwch, gan gynnwys: rhesymau dros ystyried mynd i’r brifysgol, cyngor wrth ddewis prifysgol, cymorth gyda ffïoedd a chyllid, help wrth gyflwyno ceisiadau, yr hyn i’w ddisgwyl yn ystod eu cais a phan fyddant yn dechrau eu cwrs.
Cewch eich copi AM DDIM nawr (ni fydd angen cofrestru)
CANLLAW RHIENI I’R BRIFYSGOL UNITASTERDAYS 2023
Wedi’i lunio gan UniTasterDays.com mewn cydweithrediad â HELOA a’i gefnogi gan Careers England, y CDI ac Action on Access. Mae’r canllaw cynhwysfawr hwn yn ceisio grymuso myfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus am eu profiad prifysgol yn y dyfodol, gyda phwyslais arbennig ar rieni a gwarcheidwaid fel dylanwadwyr allweddol. Mae’n tynnu ar arbenigedd mwy na 40 o weithwyr proffesiynol, gan gynnwys Abertawe.
Wedi’i drefnu fesul adrannau sy’n hwylus i’r darllenydd, mae’r canllaw yn cynnwys amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys cyngor cyn cyflwyno cais, canllawiau ar ddigwyddiadau prifysgol, llywio’r broses UCAS, deall ffïoedd a chyllid, hyrwyddo cymorth a lles, ac archwilio cyfleoedd gyrfa wedi’r brifysgol.
Cewch eich copi AM DDIM nawr (ni fydd angen cofrestru)