Pam Astudio Nyrsio yn Abertawe?

Pan fyddwch yn astudio Gradd Nyrsio gyda ni byddwch yn rhan o 30 o Brifysgolion Gorau (Guardian 2023) gyda chymuned sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn feunyddiol. Mae gennym dros 25 mlynedd o brofiad o hyfforddi pobl ar draws ehangder ymarfer clinigol, ac rydym yn falch o gael ein rhestru fel un o’r 10 rhaglen Nyrsio Gorau (Complete University Guide 2023). Mae ein dull gofalgar sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr wedi rhoi profiad a chanlyniadau myfyrwyr gan arwain at 100% o Gyflogadwyedd Graddedigion (HESA 2022) ac yn 1af ar gyfer rhagolygon Graddedigion (Complete University Guide 2023).

Two students in scrubs working on a patient model

Nyrsys Galw Heibio Campws Caerfyrdd

A oes gennych chi ddiddordeb mewn darganfod mwy am astudio Nyrsio ar ein Campws yng Nghaerfyrddin?

Rydym yn cynnal sesiynau galw heibio amrywiol dros yr ychydig fisoedd nesaf, lle gall darpar fyfyrwyr Nyrsio sgwrsio â’n tîm addysgu Nyrsio am y cwrs a bywyd fel myfyriwr Nyrsio ar ein campws ym Mharc Dewi Sant.

Cofrestrwch yma

Sesiwn galw heibio

09/01/2024

10:00 - 18:00 GMT

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen

Ein hopsiynau Cwrs Nyrsio

Nyrsio Oedolion
Adult Nursing Students

Mae ein cyrsiau Nyrsio Oedolion yn dod â staff academaidd o nyrsys, meddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol cymwys ynghyd.  Wrth i chi hyfforddi i ddod yn nyrs oedolion arbenigol, byddwch yn elwa o'n cysylltiadau cryf â byrddau iechyd lleol, a'n hystafelloedd hyfforddiant clinigol realistig rhagorol sy'n cynnwys realiti rhithwir integredig.

Ein Hopsiynau Cwrs Nyrsio Oedolion:

*Gall myfyrwyr rhyngwladol sy’n ymgeisio am ein cwrs BSc Nyrsio Oedolion (Abertawe) fod yn gymwys am ein hopsiwn a ariennir yn llawn – ewch i’n tudalen Ymgeiswyr Nyrsio Rhyngwladol am ragor o wybodaeth 

Nyrsio Plant Nyrsio Anableddau Dysgu Nyrsio Iechyd Meddwl

Profiad Myfyrwyr Nyrsio

Rydym yn angerddol am bob maes nyrsio ac yn croesawu’n llawn y gwerthoedd craidd sy’n gysylltiedig â’r ‘proffesiwn gofalu’ ac yn ymdrechu i sefydlu’r gwerthoedd hyn yn ein myfyrwyr a’n perthnasoedd â nhw. Rydym yn cynnig cymhareb staff-myfyriwr gwych, a golyga hyn y byddwch yn cael eich cefnogi'n dda gan gyfoeth o fodelau rôl gwybodus trwy gydol eich amser yn astudio gyda ni.

Peidiwch â chymryd ein gair ni’n unig, darganfyddwch beth yw barn ein myfyrwyr Nyrsio am astudio nyrsio gyda ni, ac archwiliwch yr holl opsiynau a chyfleoedd gwahanol a fydd ar gael i chi pan fyddwch yn astudio gyda ni.

Ein Straeon myfyrwyr

Mikey Denman
Llun Mikey Denman

"Fel siaradwr Cymraeg mae Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg wedi cynnig cyfleoedd anhygoel i mi, fel bod yn rhan o’r rhaglen ddogfen S4C ‘Nyrsys’ trwy ddilyn fy nhaith fel myfyriwr ym mlwyddyn gyntaf y cwrs nyrsio. Roedd yn brofiad bythgofiadwy. Rwyf hefyd wedi derbyn cyfleoedd i gynrychioli‘r Coleg Cymraeg a Phrifysgol Abertawe trwy rannu fy mhrofiadau fel myfyriwr nyrsio gyda darpar fyfyrwyr mewn ysgolion wrth iddynt ystyried ar eu cam nesaf ar ôl lefel A."

Darganfod mwy am stori myfyriwr Mikey Denman 

Nyrsio Oedolion

Mae Nicholas Costello yn siarad â ni am ei brofiad o astudio Nyrsio i Oedolion yn Abertawe a sut "nad oes unrhyw beth gwell na'r teimlad a gewch chi wrth helpu rhywun mewn angen."

Nyrsio Plant

Mae Daniel Roberts ac Emily Nue yn astudio Nyrsio Plant yn Abertawe. Yma, maent yn trafod y sgiliau amrywiol y mae eu hangen arnoch er mwyn siarad â baban neu blentyn un funud, ac oedolion y funud nesaf.

Nyrsio Anableddau Dysgu

Mae Liz Hayday, Uwch Ddarlithydd Nyrsio Anabledd Dysgu, yn siarad am y sgiliau y byddwch yn eu hennill wrth astudio a sut y bydd Abertawe yn eich helpu i ddod yn nyrs anabledd dysgu eithriadol.

Nyrsio Iechyd Meddwl

Mae defnyddio ei phrofiad bywyd hi wedi helpu Rachel Huggins i ddysgu i gefnogi eraill a bod y nyrs orau y gall fod. Mae Rachel yn ei thrydedd flwyddyn fel Nyrs Iechyd Meddwl.

Graddau a Gyllidir yn Llawn

Gallai dewis i ddilyn eich brwdfrydedd am ofal iechyd dalu ar ei ganfed. Mae hamrywiaeth hwn o raddau wedi'u hariannu'n llawn drwy Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru.

Golyga hyn os byddwch chi'n ymrwymo i weithio i GIG Cymru am gyfnod ar ôl i chi raddio, bydd eich ffioedd addysgu yn cael eu talu'n llawn gan Fwrsariaeth GIG Cymru, yn ogystal â chyllid cynhaliaeth gwerth hyd at £4,491 a benthyciad ar gyfradd ostyngedig gan Gyllid Myfyrwyr. 

Rhagor o wybodaeth am Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru

Cyfleusterau O'r Radd Flaenaf

Rydym yn sicrhau bod gan ein myfyrwyr y cyfleusterau gorau posib ar gyfer hyfforddi fel y gallant datblygu eu sgiliau clinigol a bod yn barod am ymarfer clinigol. Mae'r sgiliau hyn yn hanfodol i'n rhaglenni ac rydym ni'n ail-greu amgylcheddau sydd mor debyg â phosib i'r amgylchedd clinigol y byddwch chi'n gweithio ynddo.

Ewch ar daith rithwir

99% Cyflogadwyedd

Pan fyddwch yn graddio, byddwch yn gymwys i gyflwyno cais am statws Nyrs Gofrestredig (Oedolion) gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a chofrestru fel nyrs i weithio yn yr UE ac AEE. Mae rhagolygon swyddi yn rhagorol, ac mae 99% o'n graddedigion nyrsio mewn cyflogaeth mewn swydd broffesiynol neu reoli o fewn 6 mis (Astudiaeth o Ymadawyr Addysg Uwch, 2018). Gallwch ddisgwyl cyflog cychwynnol o £24,214, sy'n codi i £43,772 am nyrs staffio profiadol. Gall nyrsys arbenigol a rheolwyr ymarfer ennill £45,000.

Am Ddarganfod Mwy am Abertawe

Ydych chi’n cael eich ysbrydoli i hyfforddi ar gyfer gyrfa yn y GIG? Treuliwch yr amser i archwilio ein campws o gysur eich cartref eich hun gan ddefnyddio ein rhith-daith, siaradwch â rhai o'n myfyrwyr cyfredol am sut brofiad yw astudio yn Abertawe a sicrhewch eich bod chi'n cofrestru ar gyfer ein Diwrnod Agored nesaf lle gallwch, yn bersonol, brofi Abertawe, ein cymuned a'n cyrsiau.