Dod yn Gydymaith Meddyg

Ymunwch â ni am un o'n diwrnodau agored
Cofrestrwch nawrMae Cydymaith Meddygol yn aelod o dîm clinigol perthynol, maent wedi'u hyfforddi fel Meddyg mewn gradd meistr ddwy flynedd ddwys, lle maent yn darparu parhad gofal, gan gefnogi Meddygon mewn ymarfer clinigol dan gyfarwyddyd Meddyg. Bydd Cydymaith Meddygol yn ymgymryd â thasgau tebyg i Feddyg gan gynnwys archwilio, diagnosis a rheoli cleifion. Bydd Cydymaith Meddygol yn dueddol o fod yn gyffredinolwr ac felly gallai dreulio ei yrfa ar draws amrywiaeth o arbenigeddau mewn ysbyty neu bractis cyffredinol.
Ein Straeon Myfyrwyr
Mae Astudiaethau Cydymaith Meddygol MSc yn ymdrin â nifer o bynciau Meddygaeth ac yn ffocysu ar y meysydd a'r sgiliau angenrheidiol i gefnogi Meddygon mewn gwneud penderfyniadau Clinigol a adlewyrchir yn y rôl allweddol y mae Cydymaith Meddygol yn ei chwarae mewn tîm clinigol. Drwy gydol y ddwy flynedd MSc gallwch ddisgwyl ymdrin ag amrywiaeth o bynciau - Sgiliau Clinigol, Cyfraith Gofal Iechyd, Ymchwil ac Ymarfer Seiliedig ar Dystiolaeth, Trais ac Ymosodedd ac Iechyd y Cyhoedd a Sgiliau Dysgu Gydol Oes sy'n hanfodol i gynnal set sgiliau clinigol cryf trwy gydol eich gyrfa.
Eisiau gwybod mwy?
Mae gennym gymaint mwy yr ydym am eu rhannu gyda chi, beth am ymweld â'n tudalen cwrs Cydymaith Meddygol, i gael golwg fanylach ar y cwrs, gofynion mynediad a sut y cewch eich addysgu.
Am Ddarganfod Mwy am Abertawe
Ydych chi’n cael eich ysbrydoli i hyfforddi ar gyfer gyrfa yn y GIG? Treuliwch yr amser i archwilio ein campws o gysur eich cartref eich hun gan ddefnyddio ein rhith-daith, siaradwch â rhai o'n myfyrwyr cyfredol am sut brofiad yw astudio yn Abertawe a sicrhewch eich bod chi'n cofrestru ar gyfer ein Diwrnod Agored nesaf lle gallwch, yn bersonol, brofi Abertawe, ein cymuned a'n cyrsiau.